CGI image of semi detached houses and car parking spaces at Ffos Y Ffaendre.

Wedi’i leoli ar hen Ganolfan Fenter Llaneirwg, mae’r datblygiad yn cynnig 100% o gartrefi teuluol 2, 3 a 4 ystafell wely fforddiadwy. Mae dyluniadau’r tŷ yn manteisio i’r eithaf ar olau naturiol ac awyru. Mae’r tir cyhoeddus wedi’i dirlunio yn cynnwys plannu coed ymylon a chadw lleiniau coed a ffosydd draenio sy’n bodoli eisoes.

Nodweddir yr ardal gyfagos yn bennaf gan ddatblygiadau preswyl deulawr gyda rhai fflatiau 3 llawr gerllaw. Mae’r dyluniad gofalus yn sicrhau bod y cartrefi newydd yn ymgysylltu’n gadarnhaol â’r ffurf adeiledig o’i amgylch.

Mae’r safle wedi’i leoli’n agos i’r ganolfan ardal, wrth ymyl Heol Crucywel, ac mae’n agos i’rrhwydweithiau bysiau lleol, llyfrgell a hyb Llaneirwg a’r parc sglefrio newydd i’r gorllewin, yn ogystal ag ardaloedd amwynder cyhoeddus a choetir ar hyd Ffos Ddraenio Faendre.

Mae mabwysiadu dull ffabrig yn gyntaf yn lleihau’r gofynion ynni sylfaenol ar y cartref. Darperir gwres gan Bympiau Gwres Ffynhonnell Aer ac mae gan bob eiddo solar ffotofoltäig a batris storio i wrthbwyso defnydd trydan.

Bydd gan y cynllun Systemau Draenio Cynaliadwy (SDCau) i leihau effaith bosibl y datblygiad ar ollyngiadau draenio dŵr wyneb ac wedi hynny leihau’r risg o lifogydd a llygredd.

Mae gan y cynllun ardd gymunedol bwrpasol gan gynnwys pwll bywyd gwyllt, bwrdd adar, gwestai bwystfilod bach a blychau plannu wedi’u codi.

Mae’r cynllun hwn yn cynnwys 13 o gartrefi 2,3 a 4 ystafell wely o ansawdd uchel ar gyfer anghenion rhent cymdeithasol cyffredinol.

  • 2 dŷ x 4 ystafell wely
  • 7 tŷ x 3 ystafell wely
  • 4 tŷ x 2 ystafell wely

Er bod y llety a gynigir ym mhob tŷ ychydig yn wahanol o ran eu dyluniad, yn gyffredinol mae llety yn cynnwys ystafell fyw, cegin / ystafell fwyta a thoiled / cyfleustodau i’r llawr gwaelod, a 2 neu 3 ystafell wely ac ystafell ymolchi deuluol ar y llawr 1af.

Bydd pob uned pedair ystafell wely hefyd yn elwa ar brif ystafell wely ac ystafell astudio mewn ystafell llofft dormer. Bydd gan bob annedd gyfleusterau storio beiciau pwrpasol a darperir cyfleusterau storio sbwriel o fewn cwrtil pob annedd, naill ai i’r cefn yn achos anheddau pâr neu o fewn cwrtil blaen eiddo teras canol.

Cysylltwch â ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon am y prosiect hwn, cysylltwch â ni.





    Lleoliad