
Mae Cyngor Caerdydd yn bwriadu gosod cyfleuster chwarae newydd ar Dir Hamdden Heol Trelái, Caerau, fel rhan o’r Cynllun Adnewyddu Cymdogaethau sy’n cyflawni prosiectau gwella a awgrymir gan Gynghorwyr lleol.
Mae cyfle hefyd i osod elfennau chwarae ar raddfa lai ym Mryngaer Caerau / Heol yr Eglwys, fel llithren ac ardal chwarae naturiol.
Rydym yn awyddus i glywed eich barn chi i helpu i lunio’r cynlluniau ar gyfer y cyfleuster chwarae newydd.
Rydym hefyd yn manteisio ar y cyfle hwn i gasglu syniadau ar gyfer gwelliannau yn y dyfodol i’r parc ehangach, a allai ddilyn unwaith y bydd y maes chwarae wedi’i gwblhau.
Gallai gwelliannau posibl yn y dyfodol gynnwys:
- Symud y parc sglefrio o Barc Trelai i faes Hamdden Heol Trelai, gyda pharc sglefrio concrid newydd wedi’i osod
- Creu llwybrau newydd drwy’r parc.
- Ychwanegu coed, meinciau a nodweddion chwarae naturiol.
Rhowch wybod i ni eich barn ar gynlluniau’r parciau ar gyfer y dyfodol.
Gwybodaeth Prosiect
Dweud eich dweud
Hoffem glywed eich barn chi ar ein gwelliannau arfaethedig. Cyflwynwch erbyn dydd Mercher 24 Medi, 2025.
Byddwn yn prosesu’ch data personol yn unol â’n tasg gyhoeddus dan GPDR y DU ac yn unol â deddfwriaeth diogelu data gyfredol. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio a phrosesu’ch data personol, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd.
Cysylltwch â ni
Os oes gennych gwestiynau neu bryderon am y prosiect hwn, cysylltwch â ni.