Mae’r prosiect wedi ei gwblhau.

Rhiwbina Library

Mae’r gwaith adnewyddu i Lyfrgell Rhiwbeina bellach wedi’i gwblhau sydd wedi ei thrawsnewid yn ganolfan lles cymunedol newydd.  Dyma’r diweddaraf yn rhwydwaith y Ddinas o Hybiau Cymunedol sy’n cynnig gwasanaethau llyfrgell a hyb ar y cyd.

Derbyniodd y cynllun gyllid gan Gronfa Gofal Integredig (CGI) Llywodraeth Cymru, Cronfa Integreiddio ac Ailgydbwyso Gofal (CIAG) ac IAALl (Is-adran Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd) sydd wedi galluogi i’r adeilad gael ei uwchraddio’n gyfleuster cymunedol addas i’r diben.  Bydd darparu ystafelloedd cymunedol newydd, ystafelloedd cyfarfod ac ardaloedd cyfweld yn cefnogi cydleoli gwasanaethau iechyd, tai a gofal cymdeithasol tra hefyd yn galluogi defnydd cymunedol ehangach.

Mae’r gwaith adnewyddu’n cynnwys:

  • Cyfleusterau derbynfa newydd a gwell
  • Ailaddurno mewnol sy’n deall dementia ledled y gofod cyhoeddus yno, gan gynnwys silffoedd llyfrgell a mannau eistedd newydd
  • Gofod cyfarfod ychwanegol ar gyfer darparu gwasanaethau a gweithgareddau cymunedol
  • Toiledau cyhoeddus wedi’u hadnewyddu i fodloni’r safonau hygyrchedd diweddaraf
  • Ystafell gyfrifiadurol newydd gyda gwell cyfleusterau TG ac Wi-Fi
  • Creu man awyr agored deniadol y gall pawb ei ddefnyddio
  • Gwella gweddau allanol yr adeilad.

Statws cyfredol

Mae’r gwaith erbyn hyn wedi ei orffen a’r cyfleuster newydd ar agor i’r cyhoedd.

Yr oriau agor yw:

  • Dydd Llun                         10am – 7pm
  • Dydd Mawrth                  Ar gau
  • Dydd Mercher                 9 – 6
  • Dydd Iau                            9 – 6
  • Dydd Gwener                   9 – 6
  • Dydd Sadwrn                   9 – 5.30

Rhif ffôn:   02920 693276

Am fwy o wybodaeth, ewch i Hyb Rhiwbeina Hybiau Caerdydd

Cysylltwch â ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon am ddiweddariadau am Hyb Rhiwbeina, cysylltwch â ni.





    Lleoliad