Mae Cyngor Caerdydd yn cynllunio gwelliannau i’r tir cyhoeddus yn ardal siopa Heol Isaf y Gadeirlan yng Nglan-yr-afon, fel rhan o Raglen y Cynllun Adnewyddu Cymdogaeth. Rydyn ni am wneud yr ardal yn fwy diogel, yn fwy deniadol, ac yn fwy pleserus i bawb.
Mae’r gwelliannau arfaethedig yn cynnwys:
Ailwynebu llwybrau troed ger y ganolfan siopa
Gosod croesfan sebra i gerddwyr
Ychwanegu nodweddion gwyrdd i wella golwg a theimlad yr ardal
Gosod standiau beiciau a biniau gwastraff newydd
Tynnu rheiliau a gosod bolardiau i greu man diogel glanach, mwy agored.
Rhannwch eich barn trwy lenwi’r Ffurflen Sylwadau ar-lein.
I ofyn am gopi papur, e-bostiwch ni yn: adfywio@caerdydd.gov.uk
Dyddiad cau ar gyfer rhoi sylwadau: 18 Medi, 2025
Byddwn yn prosesu’ch data personol yn unol â’n tasg gyhoeddus dan GPDR y DU ac yn unol â deddfwriaeth diogelu data gyfredol.