Mae’r Cynllun Adnewyddu Cymdogaethau yn fenter ledled y ddinas sy’n ceisio mynd i’r afael â blaenoriaethau adfywio lleol. Mae’r rhaglen yn darparu prosiectau adfywio ar raddfa fach a gyflwynwyd gan Aelodau Lleol.
Mae prosiectau wedi’u cynllunio a’u datblygu mewn partneriaeth â thrigolion lleol, grwpiau cymunedol ac asiantaethau i fynd i’r afael ag angen neu broblem a nodwyd.
Yn dilyn syniadau a gyflwynwyd gan Aelodau Wardiau Lleol a sylwadau a dderbyniwyd mewn digwyddiad ymgynghori a gynhaliwyd yng Ngŵyl Glan yr Afon, bydd y cynllun arfaethedig yn cynnwys:
- Ardal gardd gymunedol, gyda gwelyau wedi’u codi.
- Llwybrau troed o’r newydd
- Biniau ychwanegol
- Dolydd deniadol a phlannu lefel isel
- Byrddau picnic
- Meinciau newydd
- Nodwedd seddi
- Ardal calisthenics / ymarfer corff
- Bwrdd tenis bwrdd a bwrdd gwyddbwyll
- Gatiau hunan-gau ychwanegol.
- Lluniau lleol hanesyddol, wrth yr is-orsaf
Rydym hefyd yn edrych ar ddisodli’r gwaith celf cymunedol yng nghanol Gerddi Despenser, yn ogystal â thrwsio offer chwarae sydd wedi’i ddifrodi.
Gwybodaeth Prosiect
Statws Presennol
Mae gwaith ar y gweill yng Ngerddi Clare ac mae disgwyl iddo gael ei gwblhau erbyn diwedd mis Awst, 2024. Yn ystod cyfnod y gwaith, bydd Gerddi Clare ar gau i’r cyhoedd er mwyn sicrhau y gellir gwneud y gwaith yn ddiogel. Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y gwaith yn tarfu cyn lleied â phosibl.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â’r cynllun, cysylltwch â ni drwy’r adran Cysylltu â ni.
Cysylltwch â ni
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon am ddiweddariadau Pennsylvania, Llanedern, cysylltwch â ni.