Bydd Cyngor Caerdydd yn gwneud gwaith gwella i’r lleoliadau uchod yn dilyn ymgynghoriad â’r cyhoedd a gynhaliwyd ym mis Hydref 2023.
Bydd y gwelliannau’n cynnwys:
- Tynnu’r wal frics a’i disodli gyda rheiliau pêl du a rhwystrau igam-ogamu cyfatebol,
- Ailwynebu llwybr troed a phalmant addurniadol ger y rheiliau,
- Blwch plannu a choeden (wedi’i gosod yn ddiweddarach),
- Lle parcio ychwanegol ar Y Rhodfa Fawr,
- Bolardiau newydd,
- Cyrbau isel lle bo angen.
Penodwyd Calibre Construction Ltd yn brif gontractwyr a byddant yn gwneud y gwaith ar ran Cyngor Caerdydd, gan ddechrau ar 23 Medi 2024. Disgwylir i’r prosiect orffen ar ôl oddeutu 6-8 wythnos.
Yn ystod y cyfnod hwn, mae’n debygol y bydd ychydig o darfu, ond gwneir pob ymdrech i leihau hynny cymaint â phosib.
Cysylltwch â ni
Os oes gennych gwestiynu neu bryderon am y prosiect hwn, cysylltwch â ni.
Lleoliad
Postiwyd ar Tachwedd 9, 2023