
Mae Cyngor Caerdydd yn cynnig cae pêl-droed 3G ym Mharc Sblot. Cyflwynwyd y prosiect gan Gynghorwyr lleol a chaiff ei ariannu trwy Raglen Cynlluniau Adnewyddu Cymdogaethau’r Cyngor. Mae’r cynnig yn cynnwys arwyneb synthetig pob tywydd newydd a fydd yn galluogi chwarae trwy gydol y flwyddyn ac yn trawsnewid yr ardal bêl-fasged bresennol, sydd mewn cyflwr gwael, yn gyfleuster newydd sbon i’r gymuned.
Bydd modd i glybiau pêl-droed ieuenctid lleol ddefnyddio’r cyfleuster am ddim a bydd slotiau amser ar gael i’w logi’n breifat. Bydd yn cael ei reoli gan Glwb Pêl-droed Splott Albion a bydd mynediad i’r cyfleuster trwy giât ochr ger y Pafiliwn.
Mae’r cynigion yn cynnwys:
- Arwyneb 3G artiffisial 40x22m
- Ffensys perimedr 5m o uchder
- Llifoleuadau
- Mynediad bysellbad ar gyfer diogelwch
Gwybodaeth Prosiect
Statws presennol
Mae’r ymgynghoriad wedi cau nawr. Caiff yr holl sylwadau eu hystyried a’r dyluniad ei ddiweddaru yn ôl y gofyn. Hoffem ddiolch i chi am eich amser.