A computer generated image of Moorland Road building within its street setting.

Bydd ailddatblygiad Canolfan Gymunedol Moorland Road yn cynnig canolfan gymunedol bwrpasol newydd ar y llawr gwaelod gyda thair fflat ar ddeg newydd i bobl hŷn oddi uchod, gan ddarparu llety addas i bobl dros 55 oed yn ward Sblot yng Nghaerdydd.

Mae’r safle wedi’i leoli ar Moorland Road, Sblot ac yn ceisio gwneud y defnydd mwyaf effeithlon o’r safle, gan ddarparu llety byw’n annibynnol o ansawdd uchel a fydd yn helpu trigolion i gynnal eu hannibyniaeth am gyfnod hirach ac yn parhau i gynnig cyfleuster canolfan gymunedol newydd sbon i’r gymuned ehangach.

Manylion y Prosiect

Mae’r cynllun yn unigryw ac o ansawdd uchel, gyda’r dyluniad da yn adlewyrchu’r canlynol.

  • Dylunio fflatiau 1 a 2 ystafell wely yn benodol ar gyfer pobl hŷn sy’n bodloni’r meini prawf byw’n annibynnol
  • Ail-ddarparu adeilad cymunedol hyblyg ar y llawr gwaelod sy’n cynnwys cegin arlwyo, storio digonol, neuadd, swyddfa ac ystafell feddygol sy’n addas i’r grŵp cymunedol presennol barhau i’w ddefnyddio
  • Gardd gymunedol wedi’i thirlunio ar gyfer defnydd a rennir
  • System Draenio Dinesig Cynaliadwy (SDC) a all gynnwys gerddi glaw, plannu coed a seilwaith gwyrdd arall sy’n sicrhau bod dŵr glaw yn draenio’n naturiol i’r ddaear.
  • Cadw’r goeden geirios
  • Datblygiad di-gar

Gwobrau Dylunio Tai

Mae Cyngor Caerdydd yn falch iawn o fod ymysg yr enillwyr yn y Gwobrau Dylunio Tai – hyrwyddo rhagoriaeth a chynaliadwyedd mewn dylunio cartref.

Dyma’r ail flwyddyn yn olynol i Dîm Datblygu Tai’r Cyngor gael eu cydnabod a’u rhoi ar y rhestr fer ar gyfer y wobr, a’u trydydd cynllun i gyflawni hynny; y llynedd cyrhaeddodd y ddau Brosiect Byw yn y Gymuned ar Stryd Bute a Heol Lecwydd y rhestr fer am wobr.  Mae gwaith yn mynd rhagddo ar y safleoedd hynny ar hyn o bryd.

Sefydlwyd y Gwobrau Dylunio Tai gyda’r pwrpas gwreiddiol i esbonio beth yw barn trigolion am ddylunio arloesol ac a oes modd ei efelychu. Dyma’r unig Wobrau a hyrwyddir gan y pum sefydliad proffesiynol mawr – Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS), Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain (RIBA), Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol (RTPI), Sefydliad Tirwedd a Sefydliad Siartredig Technolegwyr Pensaernïol.

Dyma uchafbwyntiau dyluniad Moorland:

  • Mae’r dull dylunio wedi’i lunio gan argymhellion craidd HAPPI ar gyfer darparu tai o ansawdd uchel i bobl hŷn
  • Mae llety yn cael ei ffitio ar safle cornel dynn, gan ddiogelu coed aeddfed presennol a sicrhau’r preifatrwydd mwyaf posibl i breswylwyr a chymdogion
  • Mae pob fflat yn elwa o ofodau byw aml agwedd
  • Mae’r cynllun yn cynnig manteision i gymuned ehangach y Sblot drwy gynnig canolfan gymunedol well ar y safle gyda mynediad i ardd cwrt a rennir
  • Mae pob fflat yn ‘gofal barod’ ac yn cydymffurfio â Gofynion Ansawdd Datblygu Cymru (DQR)

Gallwch weld mwy amdanom ni ac eraill ar wefan y Gwobrau Dylunio Tai.

Statws Presennol

Yn ddiweddar cawsom ganiatâd cynllunio ar 2 Chwefror 2023.  Dros y flwyddyn a hanner nesaf byddwn yn ceisio penodi contractwr i fanylu ar y dyluniadau ac adeiladu’r datblygiad newydd.

Cysylltwch â ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon am y prosiect hwn, cysylltwch â ni.





    Lleoliad