Mae’r prosiect wedi ei gwblhau.

Trosolwg o’r prosiect
Adeiladwyd Gardd-Bentref Arglawdd Afon Taf yn y 1970au. Fflatiau yw’r rhan fwyaf o’r eiddo, gydag ambell dŷ a byngalo.
Yn wreiddiol, roedd y ffiniau blaen a’r gerddi cymunedol yn cynnwys rheiliau pren hyd at uchder y pen-glin a oedd mewn cyflwr gwael neu wedi torri. Roedd angen atgyweirio’r palmantau ac nid oedd gan y preswylwyr unman i storio eu biniau gwastraff.
Gwaith a gwblhawyd
Rydym wedi gwneud y gwelliannau canlynol:
- Gosod ffens ffin ddur
- Diogelu’r mynedfeydd i’r iardiau cefn gyda ffens bren a gatiau newydd
- Gwella gerddi a chyrtiau blaen gyda chyfuniad o balmentydd a glaswellt newydd
- Nodi mannau penodol ar gyfer storio biniau
- Gwaith penodol ar y llwybrau cerdded i gynorthwyo gyda symudedd
- Bolardiau traffig newydd
Statws cyfredol
Cwblhawyd prif rannau’r cynllun ym mis Rhagfyr 2019. Rhoddwyd wyneb newydd ar lwybrau troed yr ystâd ym mis Medi 2020 i gwblhau’r cynllun.
Lleoliad
Postiwyd ar Rhagfyr 21, 2021














