Mae’r prosiect wedi ei gwblhau.

Butetown improvements

Trosolwg o’r prosiect

Mae gwelliannau yn helpu i drawsnewid ardal Rhodfa Belmont a Stryd Alice yn Butetown.  Mae’r gwelliannau’n canolbwyntio ar yr ardaloedd o gwmpas y tai a’r fflatiau, gyda’r nod o greu amgylchedd gwell i bobl fyw ynddo.

Gwaith a gwblhawyd

Mae pob un o’r tair iard ar gyfer y blociau o fflatiau wedi cael eu gwella, gyda phalmentydd newydd, tirwedd feddal, waliau brics a rheiliau sy’n amgáu ardaloedd dynodedig ar gyfer leiniau sychu dillad a biniau storio.

Roedd y gwelliannau pellach yn cynnwys:

  • Ardaloedd gerddi blaen a waliau a rheiliau ffin newydd ar gyfer y tai.
  • Mae blychau plannu wedi’u darparu i’r rhan fwyaf o’r eiddo.
  • Palmentydd newydd o safon ym mhob rhan o’r ardal.
  • Tyllau coed newydd.
  • Gosod gatiau ar ambell gyli er mwyn gwella diogelwch.
  • Goleuadau stryd gwell.
  • System ddraenio well.

Lleoliad