Mae’r prosiect wedi ei gwblhau.

View from Louden House

Trosolwg o’r prosiect

Cafodd yr ardaloedd o flaen a’r tu ôl i Dŷ Loudon a Thŷ Nelson eu blaenoriaethu i gael eu gwella gan y Cyngor. Mynegwyd pryderon ynghylch sut roedd y rhain yn gweithio ar gyfer preswylwyr yn byw yn Nhŷ Loudon a Thŷ Nelson, a sut olwg oedd arnyn nhw.

Gwaith a gwblhawyd

Gwnaed gwelliannau i’r ardal o flaen yr eiddo, gan gynnwys:

  • Palmant newydd i greu llwybr uniongyrchol i fynedfeydd Tŷ Loudon a Thŷ Nelson.
  • Gosodiad celf concrid newydd wedi ei gynllunio mewn partneriaeth â’r preswylwyr
  • Meinciau concrid newydd, sy’n hollol weladwy ar CCTV.
  • Raciau beiciau ychwanegol, sy’n hollol weladwy ar CCTV.
  • Gwaredu llwyni a choed
  • Ardal newydd o laswellt a choed newydd
  • Uned storio sgwteri newydd.
  • Rheiliau llaw newydd ar hyd y prif lwybr i’r adeilad.

Gwelliannau i’r ardal y tu ôl i’r eiddo, gan gynnwys:

  • Ardal newydd ar gyfer chwarae anffurfiol i blant ifanc gydag arwyneb meddal ac ardaloedd o laswellt.
  • Ffensys newydd ar hyd ymyl yr ardal laswellt i wahanu ceir a cherddwyr.
  • Llwybr newydd o amgylch y man agored gyda seddi.
  • Palmant newydd, mannau plannu, lloches a lleoedd eistedd i breswylwyr Tŷ Nelson.

Roedd elfen Wal Gelf y cynllun yn llwyddiant ysgubol. Cyfarfu’r preswylwyr â’r artist a benodwyd i rannu straeon, i drafod eu perthynas â’r ardal ac i gynorthwyo i ddiffinio’r darnau celf terfynol.

Statws cyfredol

Cwblhawyd y gwaith ym mis Mai 2016.

Lleoliad