Mae’r prosiect wedi ei gwblhau.

Agorodd yr Hyb newydd ar gyfer Ystum Taf a Gabalfa ei ddrysau i’r cyhoedd ym mis Chwefror 2017.
Mae gwaith adnewyddu llwyr ar hen Lyfrgell a Chanolfan Ddydd Ystum Taf wedi’i throi’n adeilad cyfoes, disglair a hyblyg lle gall cwsmeriaid gael mynediad i amrywiaeth o gyngor, gwybodaeth a gwasanaethau cymunedol yn gynt ac yn fwy cyfleus nag erioed o’r blaen.
Mae’r adeilad wedi’i drawsnewid gyda chladin ac arwyddion deniadol a mynedfa wydrog groesawgar. Mae paneli solar wedi eu gosod ar y to sy’n wynebu’r de ac mae’r tirlunio, y parcio a’r standiau beiciau ar y safle wedi eu huwchraddio.
Mae gan Hyb Ystum Taf a Gabalfa ddigon i’w gynnig. Mae staff wedi’u hyfforddi wrth law i’ch helpu i ddefnyddio amrywiaeth eang o wasanaethau/gweithgareddau, gan gynnwys:
- Gwasanaeth llyfrgell, gan gynnwys ardal dawel a lle ar gyfer digwyddiadau plant.
- Gwasanaethau tai, budd-daliadau a chynghori
- Mynediad i’r rhyngrwyd, cyfrifiaduron a chysylltiad Wi-Fi am ddim
- Ffonau am ddim i gysylltu â’r Cyngor a gwasanaethau eraill
- Cyrsiau hyfforddi a chyngor i mewn i waith
- Ystafell Hyfforddiant TGCh/ystafelloedd cyfweld preifat
- Ystafelloedd ar gyfer cyfarfodydd a digwyddiadau cymunedol
- Caffi cymunedol modern
- Clybiau garddio
- Celf a Chrefft
- Toiled Changing Places cwbl hygyrch
Gwybodaeth Gyswllt
Hyb Ystum Taf a Gabalfa
Gabalfa Avenue,
Caerdydd.
CF14 2HU.
029 2078 5588
Ar gyfer oriau agor, neu i gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Cyngor Caerdydd neu dudalen Facebook Hyb Ystum Taf a Gabalfa.