Mae’r prosiect wedi ei gwblhau.

Mae Cynllun Adfywio Maelfa yn broject sydd werth sawl miliwn i drawsffurfio’r ardal yn hyb newydd a bywiog yng nghymuned Llanedern. Roedd y cynllun yn cynnwys dwy elfen a ddatblygwyd ar y cyd:
- Ailddatblygu safle hen Ganolfan Siopa’r Maelfa
- Adnewyddu y Tu Allan i Tŷ Maelfa, datblygiad blociau fflatiau uchel preswyl sy’n eiddo i’r Cyngor
Cafodd Canolfan Siopa’r Maelfa ei hadeiladu yn ystod yr 1970au ac mae wedi bod yn gyfleuster siopa a chymunedol pwysig i ardaloedd preswyl Llanedern ers blynyddoedd. Dros amser, a gyda newid mewn arferion siopa, daeth yn anodd gosod yr unedau siopau ac roedd y rhan fwyaf ohonynt wedi bod yn wag ers blynyddoedd lawer. Daeth y ganolfan yn adfeiliedig mewn rhannau, gan arwain at amgylchedd siopa gwael iawn a oedd yn golygu nad oedd pobl eisiau ei defnyddio – er anfantais i ychydig o fanwerthwyr a oedd dal yno.
Gwaith a gwblhawyd
Er mwyn mynd i’r afael â’r sefyllfa, cychwynnodd Cyngor Caerdydd gytundeb ailddatblygu mewn partneriaeth â Chymdeithas Tai Cymunedol Caerdydd (CTCC). Drwy ddymchwel hen Ganolfan Siopa’r Maelfa, roedd lle i gyflwyno:
- Naw uned siop newydd, fydd yn cael eu gosod a’u rheoli ar delerau masnachol gan Gyngor Caerdydd;
- Cyfleusterau parcio, croesfannau i gerddwyr a mannau cyhoeddus newydd;
- 54 o fflatiau a thai fforddiadwy, a reolir gan Gymdeithas Tai Cymunedol Caerdydd;
- 57 o dai ar werth gan Persimmon Homes.
Gweithredodd CTCC fel datblygwr mewn rhaglen waith fesul cam a ddechreuodd yn 2017 ac a ddaeth i ben yn 2020.
Adeiladwyd Tŷ Maelfa, bloc preswyl uchel o 45 o fflatiau, gyda Chanolfan Siopa’r Maelfa o’i hamgylch. Er mwyn unioni newidiadau strwythurol sy’n angenrheidiol drwy ddymchwel y ganolfan siopa a gwneud gwelliannau i’r estheteg allanol yn unol â’r datblygiad newydd sy’n digwydd o’i amgylch, roedd angen gwaith adnewyddu allanol helaeth. Cynhaliwyd y gwaith prosiect rhwng mis Tachwedd 2017 a mis Gorffennaf 2019 ac roedd yn cynnwys:
- Glanhau gwaith brics allanol a gwelliannau esthetig eraill.
- Ffenestri newydd drwy’r adeilad
- Adnewyddu’r balconïau presennol, gan gynnwys ychwanegu sgriniau gwydr lliw
- Gwella’r storfa biniau
Mae’r llawr gwaelod wedi cael ei ail-fodelu gyda mynedfa ffrynt mynediad gwastad newydd, lolfa gymunedol i breswylwyr y bloc ac uned siop y mae’r elusen leol, Eglwysi Ynghyd, yn ei defnyddio.