Mae’r prosiect wedi ei gwblhau.

Arnold Avenue

Cafodd Arnold Avenue a Bronte Crescent eu nodi fel ardaloedd o flaenoriaeth ar gyfer gwelliannau amgylcheddol o dan Raglen Adfywio Ystadau Cyngor Caerdydd, gyda’r nod o greu amgylchedd gwell i bobl fyw ynddo.

Mae’r cynllun bellach wedi ei gwblhau ac roedd y gwaith yn cynnwys:

  • waliau terfyn a rheiliau newydd i flaen eiddo
  • gwella cyrtiau cefn/gerddi fflatiau
  • ailwynebu llwybrau troed a ffyrdd
  • croesfannau parhaus wrth gyffyrdd

Cynhaliwyd arolwg adborth gyda’r trigolion ar ôl cwblhau’r gwaith ac, ar y cyfan, roedd 71% o’r trigolion yn fodlon gyda’r cynllun.  Cafodd y sylwadau canlynol eu gwneud:

“Dylid ehangu’r cynllun / y prosiect i rannau eraill o Lanrhymni”

“Roedd pob un o’r contractwyr yn gyfeillgar a chwrtais iawn”

“Rwy’n fodlon iawn gyda’r ardd a’r blaen. Gwaith da iawn”

“Mae’r palmentydd a’r rampiau yn llawer gwell”

Gwybodaeth Prosiect

Lleoliad