Pris prynu

70% Pris Prynu - £175,000 | 100% Pris - £250,000

Math yr Eiddo

Tŷ   2 Ystafell Wely

Dyddiad olaf i wneud cais:

5pm, 11/05/26

Ar gael yn hen ddatblygiad Rhos yr Arian yn Llaneirwg mae tŷ pen rhes dwy ystafell wely helaeth iawn.

Gyda chysylltiadau trafnidiaeth ardderchog i ganol y ddinas a’r M4, mae’r eiddo o fewn cyrraedd hawdd i siopau lleol gan gynnwys Parc Manwerthu Porth Caerdydd, archfarchnadoedd, ynghyd â thafarndai, parc busnes, amwynderau lleol gan gynnwys meysydd chwarae, clwb golff, clwb bowlio a gwasanaethau bysus lleol.

Mae’r eiddo hefyd yn nalgylch nifer o ysgolion cynradd ac uwchradd gan gynnwys Ysgol Gynradd Meadowlane, Ysgol Pen y Pil, Ysgol Uwchradd y Dwyrain, Teilo Sant ac Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern.

Am yr eiddo hwn

Wedi’i adeiladu yn 2020, mae’r eiddo hynod ynni-effeithlon hwn wedi’i addurno i safon ardderchog ac mae ganddo ffenestri gwydr dwbl drwyddi draw, lloriau finyl effaith derw moethus ar hyd yr ardal fyw ar y llawr gwaelod, boeler cyfunol gradd A, system wresogi Hive, system chwistrelli ar gyfer tân a charbon monocsid wedi’i phweru o’r prif gyflenwad, digon o le storio gan gynnwys cwpwrdd storio mawr ar y llawr gwaelod ynghyd â mynediad at y llofft, tŷ bach ar y llawr gwaelod, dwy ystafell wely ddwbl fawr, ystafell ymolchi deuluol, 2 le parcio ar ochr yr eiddo, man gwefru cerbydau trydan ac ardal fyw cynllun agored fawr yng nghefn yr eiddo gyda drysau Ffrengig sy’n agor allan ar ardd o faint da ac sydd wedi’i chadw’n dda gyda mynediad o’r ochr.

Gwybodaeth am yr Eiddo

Cyntedd — Ardal fynediad gyda goleuadau ar y tu allan ar y wal allanol.   Mynediad i le storio o dan y grisiau a thŷ bach lawr stâr.  Lloriau finyl effaith pren derw canol a waliau lliw niwtral.

Toiled i lawr y grisiau (2.00m x 1.13m) – Toiled i lawr y grisiau gyda ffenestr allanol, gorchudd tasgu teils llwyd, drych ar y wal a golau uwchben y sinc, waliau lliw niwtral a lloriau finyl llwyd tywyll.  Mynediad i gwpwrdd storio mawr. Llenni Fenis, drych a golau i aros.

Ardal Fyw, Fwyta a Chegin (7.57m x 3.57m) – ardal fyw, fwyta a chegin cynllun agored eang yng nghefn yr eiddo.  Mae drysau Ffrengig yn agor allan o’r lolfa i’r ardd gefn. Lloriau finyl effaith pren derw canol a waliau lliw niwtral. Bleindiau fertigol i aros.

Cegin – Cegin fodern wedi’i ffitio’n llawn gyda chypyrddau cegin gwyn, arwynebau gwaith du a theils wal llwyd, ffwrn drydan integredig, hob nwy gyda ffan echdynnu uwchben.   Lloriau finyl effaith derw a ffenestr allanol ac mae lle ar gyfer nwyddau gwyn eraill. Bleindiau i aros.

Prif ystafell wely (hyd at 5.66m x hyd at 3.20m) — ystafell wely ddwbl fawr gyda mynediad i storfa integredig, waliau lliw niwtral a charped llwyd.  Bleindiau i aros.

Ystafell wely 2 (hyd at 4.27m x hyd at 3.47m) – Ystafell wely ddwbl maint da gyda ffenestr fawr, lloriau laminedig effaith derw canol, a waliau lliw niwtral.  Bleindiau i aros.

Ystafell ymolchi (2.12m x 2.10m) — Ystafell ymolchi gwyn gyda theils wal llwyd mawr, lloriau finyl llwyd tywyll a ffenestr allanol. Drych, golau wedi’i osod ar y wal a bleindiau i aros.

Llofft – llawr byrddau yn rhannau’r llofft sy’n cynnig lle storio ychwanegol.  Mynediad i’r agoriad o landin y llawr cyntaf.

Gardd Gefn — Gardd gefn â wal ffin yn rhannol, wedi’i chynnal yn dda, gyda phatio, ardal laswellt, goleuadau diogelwch allanol a mynediad ochr.  Gwefrwr car trydan Pod Point wedi’i osod ar wal gefn a sied gardd i aros.

Parcio – dreif gyda lle i 2 gerbyd ar ochr yr eiddo, gyda lleoedd ychwanegol i ymwelwyr yn y cyffiniau.

Treth Gyngor —  D

Deiliadaeth – RHYDD-DDALIADOL

Tâl Gwasanaeth Rheoli Ystadau — tua £65 y chwarter i dalu am gynnal a chadw’r ardaloedd cymunedol sydd wedi’u tirlunio, systemau draenio a’r system chwistrellu fewnol.

Sgôr TPY — B (Dilys tan 15.07.2030. Adroddiad llawn ar gael ar-lein drwy www.gov.uk)

Gwarant NHBC – dilys tan fis Hydref 2030

Mae’r holl loriau, bleinds a drychau sydd wedi’u gosod ar waliau fel y’u gwelir drwy’r eiddo, ynghyd â’r nwyddau gwyn integredig yn y gegin, y gwefrwr car trydan a’r sied yn yr ardd, yn aros.

Mae’r perchennog hefyd yn barod i dderbyn cynigion ar gyfer y cypyrddau dillad yn yr ail ystafell wely.

Manylion y Pryniant

Mae’r eiddo hwn yn cael ei werthu ar sail ECWITI A RENNIR.    Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn prynu cyfran ecwiti o 70% dan Gynllun Cartrefi Cyntaf Caerdydd a bydd yn berchennog cofrestredig 100% ar yr eiddo ar gwblhau’r gwerthiant.

Bydd Cyngor Caerdydd yn cadw’r gyfran ecwiti o 30% sy’n weddill ar yr eiddo.

Nid oes rhent na llog yn daladwy ar y 30%.

Ymwadiad

Dim ond canllaw cyffredinol yw’r manylion gwerthu hyn. Nid ydynt yn rhan o gynnig na chytundeb. Nid ydym wedi cynnal arolwg strwythurol o’r eiddo ac nid yw unrhyw wasanaethau, offer gosodiadau penodol yn y manylion hyn wedi’u profi. Rhoddir yr holl ffotograffau, mesuriadau, cynlluniau llawr a phellteroedd y cyfeirir atynt fel canllaw yn unig ac ni ddylid dibynnu arnynt wrth brynu carpedi a gosodiadau eraill. Rhoddir manylion prydles, costau gwasanaeth a rhent tir (lle bo’n berthnasol) fel canllaw yn unig a dylent gael eu gwirio a’u cadarnhau gan drawsgludwr trwyddedig cyn cyfnewid contractau.

Gofyn am wylio

Mae’r gwylio’n digwydd 23/03/26 (5.00pm – 7.30pm)

Plas Nanthelyg, Llaneirwg, Caerdydd, CF3 0FG





    Lleoliad

    Ewch i Cartrefi Cyntaf Caerdydd - Telerau ac Amodau.

    Ymwadiad

    Mae’r manylion hyn am y gwerthiant at ddibenion canllawiau cyffredinol yn unig. Nid ydynt yn ffurfio unrhyw ran o gynnig neu gontract. Nid ydym wedi cynnal arolwg strwythurol ar yr eiddo nac unrhyw wasanaethau. Nid yw unrhyw o’r gosodiadau penodol y sonnir amdanynt yn y manylion hyn wedi eu profi. Rhoddir yr holl luniau, mesurau, cynlluniau llawr a phellteroedd y cyfeirir atynt fel canllaw yn unig ac ni ddylid dibynnu arnynt wrth brynu carpedi a gosodiadau eraill. Rhoddir manylion prydles, taliadau gwasanaeth a rhent tir (lle bo’n berthnasol) yn unig a dylid eu cadarnhau gyda thrawsgludwr trwyddedig cyn cyfnewid contractau.