Pris prynu

203,000 - 70% o’r Pris Prynu (100% Pris - £290,000)

Math yr Eiddo

Tŷ   2 Ystafell Wely

Dyddiad olaf i wneud cais:

5pm, 02.12.25

Wedi’i leoli yn Natblygiad Cwrt Sant Ioan Redrow oddi ar Heol Llantrisant yn y Tyllgoed, mae tŷ canol dwy ystafell wely ar gael.

Gyda chysylltiadau trafnidiaeth ardderchog â Chanol y Ddinas a’r M4, mae’r eiddo yn agos at siopau lleol, trafnidiaeth gyhoeddus, beicffyrdd, cyfleusterau chwaraeon rhagorol, llawer o fannau agored, ac mae hefyd yn nalgylch nifer o ysgolion cynradd ac uwchradd – Ysgol Gynradd Peter Lea, Ysgol Gymraeg Coed y Gof, Ysgol Uwchradd Cantonian ac Ysgol  Gyfun Gymraeg Plasmawr.

Wedi’i adeiladu yn 2020, mae’r tŷ pen 2 ystafell wely hynod ynni-effeithlon hwn wedi’i addurno i safon ardderchog ac mae ganddo wydr dwbl drwyddi draw, lloriau o ansawdd da, boeler cyfunol Logic gradd A, system gwres canolog nwy, synwyryddion mwg a charbon monocsid wedi’u cysylltu â’r prif gyflenwad, digon o le storio gan gynnwys nifer o gypyrddau storio ynghyd â mynediad i’r atig, toiled ar y llawr gwaelod, dwy ystafell wely ddwbl, ystafell ymolchi i’r teulu, parcio dynodedig, goleuadau synhwyro symud yn y cefn a’r blaen a lolfa fawr gyda drysau Ffrengig sy’n agor allan ar ardd o faint da, wedi’i chadw’n dda gyda mynediad o’r ochr.

Manyleb Eiddo

Cyntedd — Ardal fynedfa gyda llawr finyl o liw derw.    Mynediad i ddau gwpwrdd storio a thoiled.   Goleuadau synhwyro symud y tu flaen i’r eiddo.

Toiled – (1.64m x 1.11m) – lloriau laminedig lliw derw a phanel tasgu ar ffurf teilsen lliw niwtral y tu ôl i’r basn golchi dwylo.  Rheilen gwresogi tywelion ar y wal.

Lolfa (3.98m x 3.91m) – ardal fyw cynllun agored eang a lle i fwyta gyda llawr laminedig lliw derw a drysau Ffrengig yn agor allan ar ardd gefn.   Polyn llenni i aros.

Cegin (2.78m x 1.89m) – Cegin fodern wedi’i ffitio’n llawn ym mlaen yr eiddo gyda chypyrddau cegin lliw hufen golau, arwyneb gwaith o liw pren tywyll, ffwrn drydan Zanussi integredig, hob nwy gyda phanel tasgu dur gwrthstaen a ffan echdynnu.  Lloriau laminedig lliw derw, ffan echdynnu ychwanegol ar y wal ffenestr allanol a lle ar gyfer nwyddau gwyn eraill.   Bleindiau i aros.

Prif ystafell wely (3.91m x 3.37m) – Ystafell wely ddwbl o faint da yng nghefn yr eiddo gyda charpedi o liw niwtral, a wal nodwedd wedi’i phaentio. Bleindiau a pholyn llenni i aros.

Ystafell wely 2 (3.92m x 2.52m) – Ystafell wely ddwbl maint da i flaen yr eiddo gyda charped o liw niwtral, mynediad i gwpwrdd storio â pholyn crogi dillad.   Bleindiau i aros.

Ystafell ymolchi (2.00m x 1.71m) — Celfi ystafell ymolchi gwyn gyda chawod uwchben wedi’i gysylltu â’r prif gyflenwad, panel cawod gwydr, teils wal o liw niwtral a lloriau feinyl o liw derw.  Silff ar y wal i aros.

Atig – atig heb ei bordio sy’n cynnig lle storio ychwanegol.   Gorddrws y gellir mynd ato o landin y llawr cyntaf.

Gardd gefn — Gardd gefn wedi’i sefydlu a’i chynnal yn wynebu’r gogledd-orllewin gydag ardal patio mawr ac 3 gris i lawr i’r lawnt a’r gwelyau blodau.  Goleuadau synhwyro symud, tap  a mynediad ochr.  Sied i aros.

Parcio – 1 lle wedi ei neilltuo o flaen yr eiddo, a pharcio ar y stryd yn y cyffiniau.

Treth Gyngor – D (£1922 y flwyddyn 24/25)

Deiliadaeth – RHYDD-DDALIAD

Tâl Rheoli’r Ystâd — yn cwmpasu cynnal a chadw a draenio ardaloedd cymunedol wedi’u tirlunio (taliadau heb eu gweithredu eto, ond byddant oddeutu £200 y flwyddyn)

Sgôr TPY — B (yn ddilys hyd at fis Tachwedd 2030. Adroddiad llawn ar gael ar-lein yn www.gov.uk)

Gwarant NHBC – yn ddilys hyd at fis Rhagfyr 2030.

Mae holl loriau, bleindiau a pholion llenni’r eiddo, ynghyd â’r holl nwyddau gwyn integredig i aros.

Mae’r perchennog hefyd yn agored i gynigion ar gyfer yr eitemau canlynol –

  • Bwrdd bwyta a chadeiriau yn y Lolfa (Cwmni Cotswold)
  • Bwrdd coffi yn y Lolfa (Cwmni Cotswold)
  • Uned deledu yn Lolfa (Cwmni Cotswold)
  • Soffa dwy sedd yn y Lolfa (Sofology)
  • Cadair Freichiau yn y Lolfa (Sofology)
  • Ryg yn y Lolfa
  • Desg a Chadair yn yr ail ystafell wely (NEXT)
  • Gwely dydd yn yr ail ystafell wely (IKEA)
  • Bwrdd patio a chadeiriau yn yr ardd gefn

Manylion Prynu

Pris

70% o’r Pris Prynu – £203,000

100% Pris – £290,000

Mae’r eiddo hwn yn cael ei werthu ar sail ECWITI A RENNIR. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn prynu cyfran ecwiti o 70% dan Gynllun Cartrefi Cyntaf Caerdydd a bydd yn berchennog cofrestredig 100% ar yr eiddo ar gwblhau’r gwerthiant.

Bydd Cyngor Caerdydd yn cadw’r gyfran ecwiti o 30% sy’n weddill ar yr eiddo.

Nid oes rhent na llog yn daladwy ar y 30%.

Gofyn am wylio

Mae’r gwylio’n digwydd 16/10/25 (rhwng 5.00pm – 7.30pm)

Heol Cynwrig, Y Tyllgoed, Caerdydd, CF5 2DB





    Lleoliad

    Ewch i Cartrefi Cyntaf Caerdydd - Telerau ac Amodau.

    Ymwadiad

    Mae’r manylion hyn am y gwerthiant at ddibenion canllawiau cyffredinol yn unig. Nid ydynt yn ffurfio unrhyw ran o gynnig neu gontract. Nid ydym wedi cynnal arolwg strwythurol ar yr eiddo nac unrhyw wasanaethau. Nid yw unrhyw o’r gosodiadau penodol y sonnir amdanynt yn y manylion hyn wedi eu profi. Rhoddir yr holl luniau, mesurau, cynlluniau llawr a phellteroedd y cyfeirir atynt fel canllaw yn unig ac ni ddylid dibynnu arnynt wrth brynu carpedi a gosodiadau eraill. Rhoddir manylion prydles, taliadau gwasanaeth a rhent tir (lle bo’n berthnasol) yn unig a dylid eu cadarnhau gyda thrawsgludwr trwyddedig cyn cyfnewid contractau.