Pris prynu
196,000 - 70% Pris Prynu (100% Pris - £280,000)
Math yr Eiddo
Tŷ 2 Ystafell Wely
Dyddiad olaf i wneud cais:
5pm, 21/10/25Wedi’i leoli yn hen Ddatblygiad Cwrt Sant Ioan Redrow oddi ar Heol Llantrisant yn y Tyllgoed, mae tŷ canol dwy ystafell wely ar gael.
Gyda chysylltiadau trafnidiaeth ardderchog â Chanol y Ddinas a’r M4, mae’r eiddo yn agos at siopau lleol, trafnidiaeth gyhoeddus, beicffyrdd, cyfleusterau chwaraeon rhagorol, llawer o fannau agored, ac mae hefyd yn nalgylch nifer o ysgolion cynradd ac uwchradd.
Wedi’i adeiladu yn 2021, mae’r tŷ canol 2 ystafell wely hynod ynni-effeithlon hwn wedi’i addurno i safon ardderchog ac mae ganddo wydr dwbl drwyddi draw, lloriau o ansawdd da yn yr eiddo cyfan, boeler cyfunol gradd A, system gwres canolog nwy, synwyryddion mwg a charbon monocsid wedi’u cysylltu â’r prif gyflenwad, digon o le storio gan gynnwys nifer o gypyrddau storio ynghyd â mynediad i’r atig, toiled ar y llawr gwaelod, dwy ystafell wely ddwbl, ystafell ymolchi deuluol, parcio dynodedig a lolfa fawr gyda drysau Ffrengig sy’n agor allan ar ardd o faint da, wedi’i chadw’n dda gyda mynediad o’r ochr.
Ynglŷn â’r eiddo hwn
Cyntedd — Mynedfa gyda llawr LVT saethben lliw derw golau gyda goleuadau cylch yn y nenfwd. Mynediad i ddau gwpwrdd storio a thoiled. Goleuadau allanol wrth y drws blaen.
Toiled – 1.64m x 1.11m) – wedi’i addurno’n chwaethus gyda theils porslen gwyn ar y llawr ac ar y waliau gyda’r waliau wedi’u paentio llwyd a goleuadau cylch yn y nenfwd.
Lolfa (3.98m x 3.91m) – ardal fyw a bwyta cynllun agored eang gyda llawr LVT saethben lliw derw golau a drysau Ffrengig yn agor allan i’r ardd gefn. Uned deledu wedi’i gosod ar y wal, polyn llenni a golau nenfwd i aros.
Cegin (2.78m x 1.89m) – Cegin fodern wedi’i ffitio’n llawn ym mlaen yr eiddo gyda chypyrddau gwyn steil y siglwyr, arwyneb gwaith a chefn effaith pren bloc golau, ffwrn drydanol integredig, hob nwy gyda phanel tasgu dur gwrthstaen a ffan echdynnu. Nwyddau gwyn integredig. Lloriau LVT saethben lliw derw golau, goleuadau cylch yn y nenfwd a ffenestr allanol. Bleind i aros.
Prif ystafell wely (3.91m x 3.37m) – Ystafell wely ddwbl o faint da yng nghefn yr eiddo gyda charpedi lliw niwtral. Bleindiau i aros.
Ystafell wely 2 (3.92m x 2.52m) – Ystafell wely ddwbl maint da i flaen yr eiddo gyda llawr laminedig a mynediad i gwpwrdd storio. Bleind i aros.
Ystafell ymolchi (2.00m x 1.71m) – Ystafell ymolchi gwyn gyda chawod uwchben, wedi’i chysylltu â’r prif gyflenwad, panel cawod gwydr, teils wal effaith marmor llwydwyn, rheiddiadur colofn gwyn a theils llawr mawr gwyn.
Atig – atig heb ei fordio sy’n cynnig lle storio ychwanegol. Gorddrws y gellir mynd ato o landin y llawr cyntaf.
Gardd Gefn — Gardd gefn sy’n wynebu’r de wedi’i chynnal yn dda gyda patio mawr a lawnt uchel. Goleuadau allanol, gyda mynediad ochr. Sied i aros.
Parcio – 2 le wedi eu neilltuo o flaen yr eiddo, gyda lleoedd ychwanegol i ymwelwyr yn y cyffiniau.
Treth Gyngor – D (£1922 y flwyddyn 24/25)
Deiliadaeth – RHYDD-DDALIAD
Tâl Rheoli Ystad — yn cwmpasu cynnal a chadw a draenio ardaloedd cymunedol wedi’u tirlunio (taliadau heb eu gweithredu eto, ond byddant oddeutu £200 y flwyddyn)
Sgôr TPY — B (yn ddilys tan Awst 2031. Adroddiad llawn ar gael ar-lein yn www.gov.uk)
Gwarant Cyngor Cenedlaethol Adeiladu Tai – yn ddilys tan fis Medi 2031.
Mae’r holl loriau, goleuadau a bleindiau ffenestri fel y’u gwelir ar draws yr eiddo, ynghyd â’r holl nwyddau gwyn integredig i aros.
Manylion Y Pryniant
Pris
70% o’r pris prynu – £196,000
Pris 100% – £280,000
Mae’r eiddo hwn yn cael ei werthu ar sail ECWITI A RENNIR. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn prynu cyfran ecwiti o 70% dan Gynllun Cartrefi Cyntaf Caerdydd a bydd yn berchennog cofrestredig 100% ar yr eiddo ar gwblhau’r gwerthiant.
Bydd Cyngor Caerdydd yn cadw’r gyfran ecwiti o 30% sy’n weddill ar yr eiddo.
Nid oes rhent na llog yn daladwy ar y 30%.
Gofyn am wylio
Mae’r gwylio’n digwydd Dydd Iau 4 Medi (Rhwng 5.00pm a 7.30pm).
Heol Cynwrig, Y Tyllgoed, Caerdydd, CF5 2DB