Pris prynu

150,500 - 70% o’r pris prynu (100% Pris - £215,000)

Math yr Eiddo

Tŷ   2 Ystafell Wely

Dyddiad olaf i wneud cais:

5pm, 12.12.25

Wedi’i leoli’n gyfleus ar ddatblygiad Persimmon ychydig oddi ar Heol Llantrisant yng Nghreigiau, mae tŷ teras dwy ystafell wely deniadol iawn.

Cafodd yr eiddo ei adeiladu ar ddiwedd 2021, a dim ond 8 milltir i’r gogledd-orllewin o Gaerdydd, mae’n agos at siopau, tafarndai, bwytai, ac mae ganddo gysylltiadau trafnidiaeth gwych i ganol y ddinas, yr M4 a thu hwnt.

Mae hefyd yn nalgylch nifer o ysgolion cynradd gan gynnwys Ysgol Gynradd Creigiau, Ysgol Gynradd Pentyrch ac Ysgol Gynradd Creigiau (cyfrwng Cymraeg) ac mae ysgolion uwchradd yn cynnwys Ysgol Gyfun Radur, Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr.

Mae’r tŷ wedi’i addurno i safon dda iawn ac mae ganddo wydr dwbl drwyddi draw, lloriau o ansawdd da yn yr eiddo cyfan, boeler cyfunol gradd A, system gwres canolog nwy, synwyryddion mwg a charbon monocsid wedi’u cysylltu â’r prif gyflenwad, digon o le storio gan gynnwys nifer o gypyrddau storio ynghyd â mynediad i’r atig, toiled ar y llawr gwaelod, dwy ystafell wely ddwbl, ystafell ymolchi deuluol, parcio dynodedig a gofod byw cynllun agored yng nghefn yr eiddo gyda drysau Ffrengig sy’n agor allan ar ardd o faint da, wedi’i chynnal yn dda gyda mynediad o’r ochr.

Gwybodaeth am yr Eiddo 

Neuadd Fynedfa — Ardal fynedfa gyda llawr finyl o effaith lliw derw ysgafn. Goleuadau allanol wrth y drws blaen.

Toiled (1.64m x 1.11m) – toiled i lawr y grisiau o dan y grisiau. Toiled gwyn a basn dwylo golchi bach. Llawr finyl o effaith lliw derw ysgafn a waliau gwyn.

Ardal fyw (6.75m x 3.73m – yn cynnwys cegin) – Ardal fyw a bwyta cynllun agored gyda llawr finyl o effaith lliw derw ysgafn, a drysau Ffrengig yn agor allan i’r ardd gefn. Bleinds i aros.

Cegin – Cegin fodern wedi’i ffitio’n llawn ym mlaen yr eiddo, gyda chypyrddau effaith pren tywyll, byrddau gwaith ac uwchfyrddau effaith marmor llwyd, oergell-rewgell integredig, popty trydan, hob nwy gyda phanel dur gwrthstaen y tu ôl i’r popty, a ffan echdynnu. Bar brecwast, llawr finyl o effaith lliw derw ysgafn a ffenestr allanol. Lle i nwyddau gwyn a’r bleinds i aros.

Prif ystafell wely (3.71m x 2.38m) – Ystafell wely ddwbl o faint da yng nghefn yr eiddo gyda charpedi o liw niwtral, cypyrddau wedi’u gosod a wal nodwedd wedi’i phaentio. Bleinds Fenis i aros.

Ystafell wely 2 (3.71 x 2.38m) – Ystafell wely ddwbl o faint da ym mlaen yr eiddo, sy’n cael ei defnyddio fel ystafell astudio ar hyn o bryd. Carped o ansawdd da, a 2 ffenestr gyda bleindiau Fenis gwyn i aros.

Ystafell ymolchi — Ystafell ymolchi gyda swît gwyn, a chawod Mira uwchben, wedi’i chysylltu â’r prif gyflenwad, panel cawod gwydr, teils wal tywyll mawr, a llawr finyl patrymog gwyn / llwyd.

Atig – atig heb ei bordio sy’n cynnig lle storio ychwanegol. Gorddrws y gellir mynd ato o landin y llawr cyntaf.

Gardd Gefn — Gardd gefn sydd wedi’i chynnal yn dda, gyda phatio, a lawnt sydd newydd ei gosod. Goleuadau allanol, tap a phlwg awyr agored, gyda mynediad ochr. Sied i aros.

Parcio – 1 lle wedi ei neilltuo o flaen yr eiddo, gyda lleoedd ychwanegol i ymwelwyr yn y cyffiniau

Treth Gyngor — C

Deiliadaeth – RHYDD-DDALIAD

Sgôr TPY — B (yn ddilys hyd at fis Tachwedd 2031. Adroddiad llawn ar gael ar-lein yn www.gov.uk)

Gwarant NHBC – yn ddilys hyd at fis Rhagfyr 2031.

Mae’r holl loriau, goleuadau a bleinds ffenestri fel y’u gwelir ar draws yr eiddo, ynghyd â’r holl nwyddau gwyn integredig i aros.

Manylion Prynu

Mae’r eiddo hwn yn cael ei werthu ar sail ECWITI A RENNIR. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn prynu cyfran ecwiti o 70% dan Gynllun Cartrefi Cyntaf Caerdydd a bydd yn berchennog cofrestredig 100% ar yr eiddo ar gwblhau’r gwerthiant.

Bydd Cyngor Caerdydd yn cadw’r gyfran ecwiti o 30% sy’n weddill ar yr eiddo.

Nid oes rhent na llog yn daladwy ar y 30%.

Pris

70% o’r pris prynu – £150,500

100% Pris – £215,000

Floor plan - Gwern Gwynfael

Gofyn am wylio

Mae’r gwylio’n digwydd 06/10/25 (Rhwng 5.00pm – 7.30pm).

Gwern Gwynfael, Creigiau





    Lleoliad

    Ewch i Cartrefi Cyntaf Caerdydd - Telerau ac Amodau.

    Ymwadiad

    Mae’r manylion hyn am y gwerthiant at ddibenion canllawiau cyffredinol yn unig. Nid ydynt yn ffurfio unrhyw ran o gynnig neu gontract. Nid ydym wedi cynnal arolwg strwythurol ar yr eiddo nac unrhyw wasanaethau. Nid yw unrhyw o’r gosodiadau penodol y sonnir amdanynt yn y manylion hyn wedi eu profi. Rhoddir yr holl luniau, mesurau, cynlluniau llawr a phellteroedd y cyfeirir atynt fel canllaw yn unig ac ni ddylid dibynnu arnynt wrth brynu carpedi a gosodiadau eraill. Rhoddir manylion prydles, taliadau gwasanaeth a rhent tir (lle bo’n berthnasol) yn unig a dylid eu cadarnhau gyda thrawsgludwr trwyddedig cyn cyfnewid contractau.