Pris prynu

203,000 - 70% o’r Pris Prynu (100% Pris - £290,000)

Math yr Eiddo

Tŷ   2 Ystafell Wely

Dyddiad olaf i wneud cais:

5pm, 28.11.25

Wedi’i leoli yn hen Ddatblygiad Cwrt Sant Ioan Redrow oddi ar Heol Llantrisant yn y Tyllgoed, mae tŷ pâr dwy ystafell wely ar gael.

Gyda chysylltiadau trafnidiaeth ardderchog â Chanol y Ddinas a’r M4, mae’r eiddo yn agos at siopau lleol, trafnidiaeth gyhoeddus, beicffyrdd, cyfleusterau chwaraeon rhagorol, llawer o fannau agored, ac mae hefyd yn nalgylch nifer o ysgolion cynradd ac uwchradd.

Wedi’i adeiladu yn 2022, mae’r tŷ pâr 2 ystafell wely hwn, sy’n hynod o effeithlon o ran ynni, wedi’i addurno i safon dda iawn ac mae ganddo wydr dwbl drwyddi draw, lloriau o ansawdd da yn yr eiddo cyfan gan gynnwys carpedi ar y landin a’r grisiau, boeler cyfunol gradd A, system gwres canolog nwy, synwyryddion mwg a charbon monocsid wedi’u cysylltu â’r prif gyflenwad, digon o le storio gan gynnwys nifer o gypyrddau storio ynghyd â mynediad i’r atig, toiled ar y llawr gwaelod, dwy ystafell wely ddwbl, ystafell ymolchi deuluol, tap allanol ar flaen yr eiddo, parcio dynodedig a lolfa fawr gyda drysau Ffrengig sy’n agor allan ar ardd furiog o faint da, wedi’i chadw’n dda gyda mynediad o’r ochr.

Manyleb Eiddo

Neuadd Fynedfa — Ardal fynedfa gyda llawr finyl o liw derw. Mynediad i ddau gwpwrdd storio a thoiled.  Goleuadau allanol i’r chwith o’r drws ffrynt.

Toiled – (1.64m x 1.11m) – lloriau laminedig lliw derw a phanel tasgu ar ffurf teilsen lliw niwtral y tu ôl i’r basn golchi dwylo.

Lolfa (3.98m x 3.91m) – ardal fyw a bwyta cynllun agored eang gyda llawr laminedig lliw derw a drysau Ffrengig yn agor allan ar ardd gefn.  Bleindiau i aros.

Cegin (2.78m x 1.89m) – Cegin fodern wedi’i ffitio’n llawn ym mlaen yr eiddo gyda chypyrddau cegin dau liw, arwyneb gwaith a chefn o liw pren tywyll, ffwrn drydanol integredig, hob nwy gyda phanel tasgu dur gwrthstaen a ffan echdynnu.  Oergell-rewgell integredig i aros.  Lloriau laminedig lliw derw, ffan echdynnu yn y nenfwd, ffenestr allanol a lle ar gyfer nwyddau gwyn eraill.  Bleinds i aros.

Prif ystafell wely (3.91m x 3.37m) – Ystafell wely ddwbl o faint da yng nghefn yr eiddo gyda lloriau laminedig lliw derw.  Bleinds i aros.

Ystafell wely 2 (3.92m x 2.52m) – Ystafell wely ddwbl maint da ym mlaen yr eiddo gyda lloriau laminedig, mynediad i gwpwrdd storio a wal nodwedd chwaethus. Bleinds i aros.

Ystafell ymolchi (2.00m x 1.71m) — Celfi ystafell ymolchi gwyn gyda chawod uwchben sydd wedi’i gysylltu â’r prif gyflenwad, panel cawod gwydr, teils wal gweadog lliw carreg a lloriau laminedig.

Atig – atig heb ei bordio sy’n cynnig lle storio ychwanegol.  Gorddrws y gellir mynd ato o landin y llawr cyntaf.

Gardd Gefn — Gardd gefn furiog sy’n wynebu’r de wedi’i chynnal yn dda gyda phatio mawr a lawnt (porfa ffug 3G).  Goleuadau allanol a mynediad o’r ochr.  Sied i aros.

Parcio – 2 le wedi eu neilltuo o flaen yr eiddo, gyda lleoedd ychwanegol i ymwelwyr yn y cyffiniau.

Treth Gyngor – D (£1922 y flwyddyn 24/25)

Deiliadaeth – RHYDD-DDALIAD

Tâl Rheoli Ystad — yn cwmpasu cynnal a chadw a draenio ardaloedd cymunedol wedi’u tirlunio (taliadau heb eu gweithredu eto, ond byddant oddeutu £200 y flwyddyn)

Sgôr TPY — B (Dilys tan Chwefror 2032. Adroddiad llawn ar gael ar-lein drwy www.gov.uk)

Gwarant y Cyngor Cenedlaethol Adeiladu Tai – yn ddilys tan fis Ebrill 2032.

Mae’r holl loriau a bleinds fel y’u gwelir ar draws yr eiddo, ynghyd â’r holl nwyddau gwyn integredig i aros.

Manylion Prynu

Mae’r eiddo hwn yn cael ei werthu ar sail ECWITI A RENNIR.    Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn prynu cyfran ecwiti o 70% dan Gynllun Cartrefi Cyntaf Caerdydd a bydd yn berchennog cofrestredig 100% ar yr eiddo ar gwblhau’r gwerthiant.

Bydd Cyngor Caerdydd yn cadw’r gyfran ecwiti o 30% sy’n weddill ar yr eiddo.

Nid oes rhent na llog yn daladwy ar y 30%.

Pris

70% o’r Pris Prynu – £203,000

100% Pris – £290,000

Clos y Faenor - Floor plan (English) - Ground floor
Clos y Faenor - Floor plan (Welsh) - first floor

Gofyn am wylio

Mae’r gwylio’n digwydd 15/10/25  (rhwng 5.00pm – 7.30pm).

Clos y Faenor, y Tyllgoed, Caerdydd, CF5 2FA





    Lleoliad

    Ewch i Cartrefi Cyntaf Caerdydd - Telerau ac Amodau.

    Ymwadiad

    Mae’r manylion hyn am y gwerthiant at ddibenion canllawiau cyffredinol yn unig. Nid ydynt yn ffurfio unrhyw ran o gynnig neu gontract. Nid ydym wedi cynnal arolwg strwythurol ar yr eiddo nac unrhyw wasanaethau. Nid yw unrhyw o’r gosodiadau penodol y sonnir amdanynt yn y manylion hyn wedi eu profi. Rhoddir yr holl luniau, mesurau, cynlluniau llawr a phellteroedd y cyfeirir atynt fel canllaw yn unig ac ni ddylid dibynnu arnynt wrth brynu carpedi a gosodiadau eraill. Rhoddir manylion prydles, taliadau gwasanaeth a rhent tir (lle bo’n berthnasol) yn unig a dylid eu cadarnhau gyda thrawsgludwr trwyddedig cyn cyfnewid contractau.