Pris prynu
159,250- 65% o’r Pris Prynu (100% Pris - £245,000)
Math yr Eiddo
Tŷ 2 Ystafell Wely
Dyddiad olaf i wneud cais:
5pm, 05.02.26Mae tŷ canol 2 ystafell wely ar gael yn natblygiad Charles Church oddi ar Heol Llanfihangel yn Sain Ffagan.
Gyda chysylltiadau trafnidiaeth ardderchog â chanol y ddinas a’r M4, mae’r eiddo yn agos at Groes Cwrlwys, siopau lleol eraill a thrafnidiaeth gyhoeddus. Mae’r eiddo hefyd yn nalgylch nifer o ysgolion cynradd ac uwchradd gan gynnwys Ysgol Gynradd Hywel Dda, Ysgol Gymraeg Coed-y-gof, Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Sain Ffagan, Ysgol Gynradd Llanbedr-y-Fro, Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd, Ysgol Uwchradd Esgob Llandaf ac Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr.
Wedi’i adeiladu yn 2017, mae’r eiddo wedi’i addurno i safon dda ac mae ganddo wydr dwbl ym mhob ffenest, system gwres canolog nwy â boeler cyfunol â 2 barth (lan lofft a lawr llawr), lle storio ardderchog gan gynnwys dan y grisiau ar y llawr gwaelod a chwpwrdd yn y cyntedd, toiled lawr llawr, gwres o dan y llawr yn y lolfa a phrif ystafell wely gydag ensuite ac ail ystafell wely o faint da, ystafell ymolchi i’r teulu, lle parcio wedi’i neilltuo o flaen yr eiddo, a lolfa eang gyda drysau dwbl yn agor i ardd o faint da wedi ei dirweddu ac yn addas i’r teulu cyfan.
Gwybodaeth am yr Eiddo
Cyntedd – llawr wedi’i lamineiddio ag effaith pren, waliau â phapur wal drws i’r toiled lawr llawr a’r cwpwrdd storio.
Lolfa/Ystafell Fwyta (4.5m x 3.5m) – lolfa o faint da gyda lloriau wedi’u lamineiddio ag effaith pren, gwres o dan y llawr, drysau dwbl yn agor i’r ardd gefn gyda bleindiau pwrpasol a grisiau’n arwain i’r llawr cyntaf gyda chypyrddau storio pwrpasol o dan y grisiau.
Cegin (2.91m x 2.21m) – Cegin lawn ym mlaen yr eiddo gyda drysau cwpwrdd llwyd golau a bwrdd gwaith llwyd tywyll effaith marmor a rhes o deils cyfatebol. Popty integredig, hob a ffan echdynnu a lle ar gyfer nwyddau gwyn. Ffenestr allanol gyda bleinds, drws i’r boeler a lloriau wedi’u lamineiddio ag effaith pren.
Prif ystafell wely ensuite (2.64m x 2.80m) — Ystafell wely ddwbl gydag ensuite, carped o liw niwtral o ansawdd da yn yr ystafell wely a llawr teils yn yr ensuite. Wal nodwedd wedi’i phapuro yn yr ystafell wely a bleinds gwyn pwrpasol. Ensuite gydag chawod gyda thermostatig yn gweithio o’r boeler cyfunol. Teils wal lliw hufen tywyll yn y gawod. Ffenestr allanol.
Ystafell Wely 2 (2.45m x 3.58) – Ystafell ddwbl o faint da gyda charpedi llwyd tywyll a wal nodwedd wedi’i phapuro. Bleinds gwyn pwrpasol.
Ystafell ymolchi— Ystafell ymolchi wen gyda waliau â theils du, llawr teils, a ffenestr allanol.
Atig — llofft heb fyrddau llawr gyda mynediad iddo o Ystafell Wely 2.
Gardd gefn — gardd gefn wedi’i thirlunio gyda mynediad ochr, patio i’r dde ac astroturf ar ochr chwith yr ardd, gyda goleuadau allanol. Sied i aros.
Parcio – 1 lle wedi’i neilltuo o flaen yr eiddo gyda lleoedd ychwanegol i ymwelwyr yn yr ardal gerllaw
Treth Gyngor — C
Deiliadaeth – RHYDD-DDALIAD
Tâl Gwasanaeth — tua £100 y flwyddyn (heb ei gychwyn eto, ond bydd yn cynnwys cynnal a chadw ardaloedd cymunedol)
Sgôr TPY — B (Adroddiad llawn ar gael ar-lein drwy www.gov.uk)
Gwarant NHBC – dilys tan fis Mehefin 2027
Yr holl loriau, polion llenni, llenni, bleindiau ffenestri a goleuadau fel y’u gwelir yn yr eiddo i aros.
Mae’r Perchennog hefyd yn barod i dderbyn cynigion ar yr eitemau canlynol –
- Oergell/Rhewgell
- Peiriant golchi llestri (llai na blwydd oed)
- Peiriant golchi
Manylion Prynu
Mae’r eiddo hwn yn cael ei werthu ar sail ECWITI A RENNIR. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn prynu cyfran ecwiti o 65% dan Gynllun Cartrefi Cyntaf Caerdydd a bydd yn berchennog cofrestredig 100% ar yr eiddo ar gwblhau’r gwerthiant.
Bydd Cyngor Caerdydd yn cadw 35% o’r rhanberchenogaeth sy’n weddill ar yr eiddo.
Nid oes rhent na llog yn daladwy ar y 35%.
Pris
65% Pris Prynu – £159,250
100% Pris – £245,000
Gofyn am wylio
Mae’r gwylio’n digwydd 17/12/25 (rhwng 5.00pm – 6.30pm).
Trem y Coed, Sain Ffagan, Caerdydd, CF5 6FA










