
Mae prosiect cyffrous i anadlu bywyd newydd i faestref dinas wedi’i gwblhau.
Mae adfywio ardal Siopau Uchaf Beechley Drive, Pentre-baen wedi darparu 13 o dai fforddiadwy newydd a darpariaeth siopa newydd ar ôl i’r ardal gael ei nodi yn Strategaeth Canolfannau Lleol y Cyngor fel canolfan yr oedd angen ei hailddatblygu.
Yn ystod ymgynghoriad ar y ffordd ymlaen, cytunodd y gymuned fod y siopau’n amwynder gwerthfawr yn y lle iawn ond nad oeddent yn diwallu anghenion lleol oherwydd eu cyflwr gwael. Roedd y fflatiau deulawr uwchben y siopau yn anodd eu gosod ac roedd problemau parhaus o ran ymddygiad gwrthgymdeithasol a fandaliaeth ynddyn nhw.
Gwaith a gwblhawyd
Mae datblygiad mewn partneriaeth rhwng Cyngor Dinas Caerdydd a Chymdeithas Tai Cadwyn wedi creu amrywiaeth o gartrefi 1 ystafell wely, 2 ystafell wely a 3 ystafell wely yn ogystal â phedair uned fasnachol newydd, yn fwy addas o ran maint ar gyfer busnesau lleol.
Mae’r prosiect hefyd wedi cynnwys gwelliannau i’r ardal gyhoeddus a chroesfan newydd i gerddwyr.