Gall sefydliadau cymunedol y sector gwirfoddol wneud cais am grantiau ar gyfer prosiectau sy’n gwella’u hadeiladau cymunedol ac yn helpu i sicrhau neu gynyddu eu defnydd gan y gymuned leol.

Mae uchafswm grant o £10,000 ar gael tuag at welliannau mewnol ac allanol i adeiladau cymunedol fel gwella hygyrchedd, gwelliannau diogelwch, adnewyddiadau cegin, a mesurau effeithlonrwydd ynni.

Ni ddyfernir cyllid 100% i unrhyw grŵp ar gyfer eu cynllun arfaethedig. Mae’n ofynnol i grwpiau ariannu o leiaf 15% o gostau’r prosiect cyffredinol o ffynonellau eraill.

Beth yw Adeilad Cymunedol?

Mae adeiladau cymunedol cymwys yn cynnwys neuaddau cymunedol, canolfannau cymunedol a chyfleusterau eraill sy’n cael eu defnyddio gan, ac sy’n hygyrch i’r gymuned gyfan, ac nid dim ond yn cael ei ddefnyddio gan un grŵp neu nifer gyfyngedig o grwpiau.

Nid yw adeiladau cymunedol cymwys yn cynnwys ‘clybiau sy’n caniatáu aelodau’n unig’, swyddfeydd sefydliadau gwirfoddol na busnesau masnachol.

Pwy all wneud Cais?

Mae’r rhaglen Grantiau Adeiladu Cymunedol yn targedu grwpiau cymunedol a gwirfoddol lleol. Rhaid i grwpiau cymwys fod â chyfansoddiad neu fod â datganiad o nodau ar gyfer eu sefydliad a bod â chyfrif banc.

Bydd ceisiadau sydd wedi’u derbyn ar gyfer adeiladau sydd wedi’u lleoli o fewn ardaloedd o amddifadedd (a nodwyd trwy Fynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2019 fel yn yr 20% â’r amddifadedd mwyaf yng Nghymru) yn cael eu sgorio fel blaenoriaeth uwch o’i gymharu â cheisiadau eraill.

Gall sefydliadau sydd wedi derbyn cyllid gan Gyngor Caerdydd o fewn y ddwy flynedd ddiwethaf wneud cais am Grant Adeiladu Cymunedol ond byddant yn cael eu sgorio fel blaenoriaeth is o gymharu â sefydliadau eraill.

Pa fathau o brosiectau sy’n cael eu hariannu?

Rhaid i brosiectau ddod o dan y categorïau canlynol i fod yn gymwys i gael cyllid:

  • Gwella neu ychwanegu at strwythur yr adeilad
  • Uwchraddio darpariaethau diogelwch tân, darpariaethau iechyd a diogelwch/mesurau diogelwch
  • Cyfleusterau cegin neu doiledau newydd
  • Gwella hygyrchedd i mewn i’r adeilad, ac o fewn yr adeilad
  • Uwchraddio systemau Trydanol , Draeniau a Goleuadau
  • Gosod ffenestri a drysau gwydr dwbl
  • Gosod mesurau effeithlonrwydd ynni

Pa fathau o brosiectau sydd ddim yn cael eu hariannu?

Ymhlith y prosiectau nad ydynt yn gymwys am gyllid mae’r canlynol:

  • Gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio rheolaidd
  • Costau staffio neu gostau rhedeg
  • Prosiectau sydd o fudd i aelodaeth gyfyngedig megis clybiau chwaraeon a ddefnyddir gan un tîm yn unig, neu addoldai a ddefnyddir at ddibenion crefyddol yn unig
  • Prosiectau sydd eisoes wedi dechrau neu waith sydd wedi’i gwblhau cyn i gynnig grant ddod i law
  • Astudiaethau Dichonoldeb
  • Prynu offer sydd heb ei osod

Amserlenni

Dyddiad cau ar gyfer dychwelyd ffurflen gais: 28 Mehefin 2024
Dyddiad cau’r prosiect wedi’i gwblhau: 21 Chwefror 2025

Os oes unrhyw gwestiynau gennych, angen gwybodaeth bellach, neu fod gofynion arbennig gennych, cysylltwch â ni yn adfywio@caerdydd.gov.uk

Bwriad y canllawiau hyn yw eich helpu i lenwi’r ffurflen gais ar gyfer Rhaglen Grantiau Adeiladu Cymunedol 2024/25. Mae’r ffurflen hon yn bwysig gan y bydd yn helpu i benderfynu pa gynlluniau sy’n llwyddo i dderbyn grant. Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, anfonwch e-bost atom yn Adfywio@caerdydd.gov.uk

Wrth lenwi’r ffurflen, ymatebwch i’r cwestiynau’n gywir ac yn llawn, ond peidiwch â mynd y tu hwnt i’r gofodau a ddarperir ar y ffurf.

Rydym hefyd yn gofyn am y gyfres ddiweddaraf o gyfrifon ar gyfer eich sefydliad a thri dyfynbris gan gontractwyr ar gyfer y gwaith arfaethedig. (Os bydd eich cynllun arfaethedig yn costio llai na £5000, dim ond dau ddyfynbris contractwr sydd angen i chi eu darparu.) Bydd hyn yn ein galluogi i benderfynu a oes modd cyflawni’r prosiect arfaethedig.

Sylwer, o fewn y ffurflen gais, bod angen gwybodaeth am y prosiect adeiladu a’r sefydliad. Rhaid ateb pob cwestiwn.

Dyddiad cau ar gyfer dychwelyd ffurflen gais: 28 Mehefin 2024

Dyddiad cau’r prosiect wedi’i gwblhau: 21 Chwefror 2025

A) Enw’r Sefydliad

Mae hyn yn cyfeirio at y sefydliad sy’n berchen ar, neu’n prydlesu adeilad cymunedol.

B) Manylion cyswllt Sefydliad ac Unigolyn

Mae hyn yn cyfeirio at fanylion cyswllt y sefydliad ac NID yr adeilad cymunedol dan sylw. Yn ogystal at ddibenion gohebiaeth, mae angen manylion cyswllt yr unigolyn sy’n cwblhau’r ffurflen. Oni nodir yn wahanol, y manylion cyswllt unigol y byddwn yn e udefnyddio ar gyfer gohebiaeth.

C) Lleoliad a chyfeiriad Adeilad Cymunedol

Mae hyn yn cyfeirio at y lleoliad, cyfeiriad ac unrhyw fanylion cyswllt arall sydd gennych ar gyfer yr adeilad dan sylw. Os yw’r cyfeiriad yr un peth â chyfeiriad y sefydliad, nodwch hynny. Yn ogystal, er bod ceisiadau’n cael eu hannog o bob rhan o’r ddinas, rhoddir mwy o flaenoriaeth i brosiectau sydd mewn ardaloedd a nodwyd drwy Fynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2019 fel yn yr 20% â’r amddifadedd mwyaf yng Nghymru, neu sy’n gwasanaethu nifer sylweddol o bobl o’r ardaloedd hyn.

D) Pryd ffurfiwyd eich sefydliad? Rhowch y dyddiad cywiraf posibl.

Beth yw statws eich sefydliad? A yw’n Elusen Gofrestredig, Cymdeithas Les Gofrestredig, Cwmni Cyfyngedig, Sefydliad Gwirfoddol Anghofrestredig, neu Arall? Nodwch.

Ydych chi wedi cofrestru ar gyfer TAW? Atebwch Ydw neu Nac ydw.

Ydych chi’n gangen leol o sefydliad cenedlaethol? Atebwch Ydw neu Nac ydw.

Ydych chi’n berchen ar yr adeilad neu os oes gennych chi brydles o leiaf bum mlynedd yn weddill? Nodwch, ac os yw’n cael ei brydlesu, nodwch nifer y blynyddoedd sy’n weddill.

E) Beth yw nodau eich sefydliad, a beth yw’r prif weithgareddau rydych yn eu cynnig?

Nodwch beth mae eich sefydliad yn ceisio ei ddarparu i ddefnyddwyr eich gwasanaethau. Cofiwch gynnwys crynodeb o’r gweithgareddau y mae’r sefydliad yn eu darparu, i bwy a beth yw nodau cyffredinol y sefydliad. Noder, mae hyn yn cyfeirio at y sefydliad, ac NID y gwahanol weithgareddau a gynhaliwyd yn yr adeilad cymunedol.

F) Gwybodaeth am y Prosiect

Disgrifiwch y prosiect yr ydych yn ceisio cyllid ar ei gyfer. Dylech gynnwys manylion y gwaith ffisegol sydd i’w wneud. Rhowch gymaint o wybodaeth â phosib yn y lle a ddarperir. Rhaid i’r prosiectau hyn fod dan un o’r meini prawf isod:

  • Gwella neu ychwanegu at strwythur yr adeilad
  • Uwchraddio darpariaethau diogelwch tân, darpariaethau iechyd a diogelwch/mesurau diogelwch
  • Cyfleusterau cegin neu doiledau newydd.
  • Gwella mynediad i’r adeilad ac oddi fewn yr adeilad.
  • Uwchraddio systemau trydanol , draeniau a goleuadau
  • Gosod ffenestri a drysau gwydr dwbl
  • Gosod mesurau effeithlonrwydd ynni

G) Beth yw nodau’r prosiect?

Sut bydd eich prosiect yn gwella eich adeilad ac yn annog defnydd ehangach gan y gymuned leol?

Dyma’ch cyfle chi i ddatgan nodau’r prosiect arfaethedig yr ydych yn chwilio am gyllid ar ei gyfer. Ceisiwch ddatgan pa fuddion y bydd yn eu cyflwyno i’r adeilad, pam mae ei angen, a pha wahaniaeth y bydd y prosiect yn ei wneud i bobl/grwpiau lleol o ddefnyddio’r adeilad.

Meddyliwch yn benodol am effaith y prosiect arfaethedig ar y gymuned leol. A fydd yn helpu i ddenu grwpiau newydd i ddefnyddio’r adeilad? A fydd yn helpu i sicrhau bod defnyddwyr presennol yn gallu parhau yn yr adeilad?

H) Pa weithgareddau a rhaglenni sy’n cael eu cynnal yn rheolaidd yn yr adeilad cymunedol ar hyn o bryd sydd o fudd i’r gymuned leol?

Dyma lle y dylech chi ddangos pa mor aml mae’r adeilad yn cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd.  Cwblhewch yr amserlen i ddangos pa weithgareddau a gynhelir mewn wythnos safonol.

Pa weithgareddau a rhaglenni sy’n digwydd yn llai rheolaidd yn yr adeilad cymunedol?

Rhestrwch ddigwyddiadau neu weithgareddau sy’n digwydd yn llai rheolaidd yn yr adeilad, megis defnydd blynyddol neu fisol neu arall llai aml gan grwpiau cymunedol.

Oes yna grwpiau a hoffai ddefnyddio’r adeilad na all ar hyn o bryd, ac a fyddai’n elwa o’r gwelliannau arfaethedig?

Ystyriwch unrhyw grwpiau, gweithgareddau neu ddigwyddiadau cymunedol nad ydyn nhw’n digwydd ar hyn o bryd, ond a allai fod yn fwy tebygol pe byddech chi’n llwyddo i dderbyn grant.

I) A fydd eich sefydliad yn gallu ariannu o leiaf 15% o’r gost prosiect amcangyfrifedig.

Beth bynnag yw cost derfynol y prosiect arfaethedig, uchafswm y grant y gellir ei ddyfarnu yw £10,000. Yn ogystal, ni all Cyngor Caerdydd ariannu 100% o gostau’r prosiect. A fydd y sefydliad yn gallu talu o leiaf 15% o’r anfoneb derfynol? Atebwch Bydd neu Na fydd. Sicrhewch fod copi o’r gyfres ddiweddaraf o gyfrifon, dogfen gyfansoddiadol a thri dyfynbris ar gyfer y gwaith arfaethedig (dau ddyfynbris ar gyfer cynlluniau sy’n costio llai na £5,000) wedi’u cynnwys yn y cais.

J) Cyllid eich Sefydliad

Manylwch ar enw, rhifau cyfrif a chod didoli cyfrif banc eich sefydliad. Manylwch ar gyfanswm gwariant ac incwm am y 2 flynedd ddiwethaf.

K) Arian ar gyfer y Prosiect:

Nodwch y costau ar gyfer y prosiect, yn seiliedig ar bris gorau’r ddau / tri dyfynbris a roddwyd.  Dylech gynnwys dadansoddiad o brif elfennau’r cynllun. Mae’n bwysig eich bod yn cynnig dadansoddiad llawn o gost y project yr ydych yn gwneud cais am arian ar ei gyfer, a’ch bod yn cynnig manylion cywir am eich gwariant arfaethedig. A ydych wedi derbyn cyllid gan sefydliadau neu unigolion eraill ac a yw’r cyllid hwn wedi’i gadarnhau? Mae’n bwysig ein bod yn gwybod a ydych yn derbyn cyllid o ffynonellau eraill ar gyfer y gweithgareddau, oherwydd efallai y bydd yn helpu i ddangos cyfanswm y gwerth a sefydlogrwydd. Gallai ffynonellau ariannu eraill gynnwys codi arian, benthyciadau banc, rhoddion ac arian wrth gefn ynghyd â grantiau gan sefydliadau eraill. Dylech gynnwys ffioedd Rheolaeth Adeiladu neu Gynllunio os yw’n berthnasol.

L) Sylwadau Rheoli Adeiladu:

Yn aml mae newidiadau mewnol ac allanol i adeiladau angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu. Gall newidiadau hefyd fod angen caniatâd cynllunio neu ganiatâd adeilad rhestredig. Manylwch ar unrhyw drafodaethau rydych chi wedi’u cael gyda swyddogion Rheoli Adeiladu neu Gynllunio ynglŷn â’ch cynigion.

M) Rhaglen

Manylwch ar yr amserlenni ar gyfer cwblhau eich cynllun, i ddangos y gellir ei gwblhau erbyn 21 Chwefror 2025.

N) Dyfynbrisiau

Mae angen i chi ddarparu tri dyfynbris wedi’u heitemeiddio ar gyfer y gwaith arfaethedig, neu ddau ddyfynbris ar gyfer cynlluniau a fydd yn costio llai na £5,000. Os ydych chi’n bwriadu peidio â defnyddio’r cwmni gyda’r dyfynbris lleiaf drud, esboniwch pam.

O) Ymgynghoriad a Chanolwyr

Wrth bennu eich cais am grant, efallai y bydd angen ymgynghori â phobl eraill yn y Cyngor (Cynghorwyr a Swyddogion) ac yn allanol gyda sefydliadau eraill.

Os oes Cynghorydd neu Swyddog ynghlwm wrth waith eich sefydliad, rhaid i chi roi gwybod i ni am hyn. Mae arnom angen y wybodaeth hon i osgoi unrhyw wrthdaro buddiannau posib wrth asesu a gwneud penderfyniad.

Rhaid i chi hefyd gyflwyno manylion canolwr nad ydynt yn ymwneud â’ch sefydliad y mae modd i ni gysylltu â hwy. Efallai y byddwn yn cysylltu â’r canolwr os oes arnom angen gwybod mwy am eich gwaith a’r project. Rhaid beidio â bod ynghlwm wrth eich sefydliad, nac yn berson sydd wedi chwarae rôl o ran paratoi’r cais hwn. Gallent fod yn:

  • Gynrychiolydd sefydliad sy’n ariannu eich gwaith;
  • Cynrychiolydd sefydliad yr ydych wedi gweithio gyda hwy yn y gorffennol; neu
  • Rhywun y mae gan eich sefydliad berthynas broffesiynol â hwy.

Er ein bod yn gofyn am swydd a sefydliad eich canolwr, does dim bwys os ydynt yn ddi-waith neu wedi ymddeol. Ni fydd hyn yn effeithio ar eich cais.

P) Datganiad

Rhaid i’r datganiad hwn gael ei lofnodi gan gadeirydd, ysgrifennydd neu drysorydd eich sefydliad sy’n wahanol i’r person cyswllt a enwir yn adran B. Wrth lofnodi’r cais, mae’r ymddiriedolwr yn:

  • Datgan bod y wybodaeth yn y cais yn gywir; ac yn
  • Cydnabod y bydd unrhyw grant yn destun telerau ac amodau.

Q) Gwybodaeth Arall

Rhowch y wybodaeth hon gyda’r ffurflen wedi’i chwblhau

Diben –

Mae’r Rhaglen Grantiau Adeiladu Cymunedol yn bodoli i gefnogi sefydlaidau cymunedol yn y sector gwirfoddol lleol wrth ddarparu a gwella adeiladau cymunedol er lles trigolion.

Nodau –

Nod y Rhaglen Grantiau Adeiladu Cymunedol yw:

  • Annog a chefnogi gwelliannau i adeiladau cymunedol lleol.
  • Annog pobl leol a grwpiau i ddefnyddio adeiladau cymunedol yn ehangach.

Ariannu

Gellir gofyn am arian ar gyfer gwaith cyffredinol i wella adeiladau a chyfleusterau cymunedol, yn fewnol neu’n allanol. Gweler y meini prawf cymhwysedd isod.

Nid yw ceisiadau sy’n ymwneud â chynnal a chadw rheolaidd, gwaith atgyweirio cyffredinol, peintio ac addurno, astudiaethau dichonoldeb, offer nad ydynt wedi’u ffitio a staffio neu gostau rhedeg yn gymwys.

Mae uchafswm grant o £10,000 ar gael ar gyfer gwaith adnewyddu. Ni fydd y Cyngor yn rhoi 100% o arian tuag at brosiect. Mae gofyn i grwpiau gyfrannu o leiaf 15% o gyllid cyfatebol ar gyfer rhan o gostau’r prosiect o ffynonellau eraill. Y gyllideb ar gyfer rhaglen 2024/25 yw £70,000. Rhagwelir y bydd tua 10 prosiect yn derbyn cymorth.

Rhaid i grwpiau allu dangos angen cymorth grant i ganiatáu i’r prosiect fwrw ymlaen – nid yw prosiectau sydd eisoes wedi dechrau neu waith wedi’i gwblhau cyn cynnig grant yn gymwys.

Meini Prawf Cymhwysedd y Prosiect

Bydd Rhaglen 2024/2025 yn canolbwyntio ar strwythur corfforol mewnol ac allanol yr adeilad. Rhaid i brosiectau ddod o dan y categorïau yma i fod yn gymwys i dderbyn arian

  • Gwella neu ychwanegu at strwythur yr adeilad
  • Uwchraddio darpariaethau diogelwch tân, darpariaethau iechyd a diogelwch
  • Cyfleusterau cegin neu doiledau newydd.
  • Gwella mynediad i’r adeilad ac oddi fewn yr adeilad.
  • Uwchraddio systemau trydanol, draeniau a goleuadau
  • Gosod ffenestri gwydr dwbl
  • Gosod mesurau effeithlonrwydd ynni

Er bod ceisiadau’n cael eu hannog o bob rhan o’r ddinas, rhoddir mwy o flaenoriaeth i’r prosiectau hynny sydd wedi’u lleoli o fewn ardaloedd a nodwyd drwy Fynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2019 fel yn y 20% mwyaf difreintiedig yng Nghymru.

Gall sefydliadau sydd wedi derbyn cyllid gan Gyngor Caerdydd o fewn y ddwy flynedd ddiwethaf wneud cais am Grant Adeiladu Cymunedol ond byddant yn cael eu sgorio fel blaenoriaeth is o gymharu â sefydliadau eraill.

Meini Prawf Cymhwysedd Ymgeiswyr

Bydd disgwyl i ymgeiswyr ddangos eu bod yn bodloni’r meini prawf cyffredinol canlynol:

  • bod yn sefydliad gwirfoddol;
  • meddu ar statws cyfreithiol a chyfansoddiadol cydnabyddedig;
  • mae’n annibynnol ar y sectorau statudol a phreifat;
  • gallu’n gyfreithlon ymgymryd â gweithgareddau yng Nghaerdydd;
  • bod â nodau ac amcanion yn gydnaws â’r gweithgareddau a ariennir dan gynllun grant ac amcanion y Cyngor;
  • meddu ar strwythur rheoli clir;
  • meddu ar gyfrif banc
  • meddu ar reolaethau ariannol clir (manylion yn nhaflen Comisiwn Elusennol CC8 Rheolaethau Ariannol Mewnol i Elusennau)
    naill ai’n berchen ar neu’n cael prydles gyda thymor lleiaf o 5 mlynedd nad yw wedi dod i ben ar yr adeilad.
  • bod yn sefydliad nid-er-elw, ond mae’n bosib bod gan y grŵp aelodau o staff a delir.

Meini Prawf Asesu

Yn ogystal â’r meini prawf cymhwysedd cyffredinol, bydd ceisiadau’n cael eu hasesu yn erbyn y meini prawf canlynol:

Rhaid i’r prosiect roi budd uniongyrchol i gymuned leol trwy wella adeilad cymunedol lleol drwy gefnogi / annog ei ddefnydd ehangach. Mae adeiladau cymunedol yn cynnwys neuaddau cymunedol, neuaddau crefyddol (nid yn unig a ddefnyddir at ddibenion crefyddol), tai clwb chwaraeon a neuaddau Sgowtiaid a Geidiau sy’n cael eu defnyddio gan / yn hygyrch i’r gymuned ehangach, ac nad ydynt yn cael eu defnyddio gan un grŵp defnyddiwr yn unig.

Mae adeiladau cymunedol anghymwys yn cynnwys swyddfeydd ‘clybiau i aelodau yn unig’ a mudiadau gwirfoddol. Nid yw grwpiau sy’n gweithredu gwasanaeth ledled y ddinas yn gymwys oni bai bod modd dangos defnydd lleol sylweddol. Nid yw ystafelloedd newid chwaraeon yn gymwys.

Bydd y prosiect yn cael ei asesu yn erbyn nifer y grwpiau sy’n defnyddio’r adeilad ac amlder ei ddefnydd ac a fydd y prosiect yn hybu defnydd mwy cymunedol.

Ni fydd unrhyw grŵp yn derbyn 100% o gyllid ar gyfer eu cynllun arfaethedig. Bydd gofyn i grwpiau ariannu isafswm o 15% o gostau’r prosiect cyffredinol o ffynonellau eraill.

Fel y nodir o dan ‘Meini Prawf Cymhwysedd Ymgeiswyr’, tra bod croeso i geisiadau o bob rhan o Gaerdydd, bydd pwysau ychwanegol yn cael ei roi i brosiectau sydd wedi’u lleoli o fewn cymunedau difreintiedig.

Gwybodaeth Gefndirol

Awdurdod Statudol y mae’r cynllun yn gweithredu Adran 2(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 oddi tanynt.

Cefndir polisi

Cryfach, Tecach, Gwyrddach 2022

Mae’r Rhaglen Grantiau Adeiladau Cymunedol yn cyfrannu at sawl un o nodau strategaeth Cryfach, Tecach, Gwyrddach drwy greu cymunedau diogel, hyderus a grymusol, rhoi cymorth i’r rhai sy’n dioddef effeithiau tlodi ac ymateb i’r argyfwng hinsawdd drwy leihau’r defnydd o ynni a darparu cyfleusterau lleol, hygyrch ger lle mae pobl yn byw.

Cynllun Corfforaethol Cyngor Caerdydd 2024-27 – Cyflawni Caerdydd Gryfach, Tecach, Gwyrddach

Mae’r Rhaglen Grantiau Adeiladu Cymunedol yn cyfrannu at amcanion allweddol y Cynllun Corfforaethol drwy gyfrannu tuag at gymunedau diogel, hyderus a grymus. Mae’n cefnogi Caerdydd yn ei hamcanion o fod yn lle gwych i gael eich magu ac yn lle gwych i dyfu’n hŷn, ac yn darparu’r seilwaith i gefnogi pobl allan o dlodi.

Manylion Cyswllt

Y Grŵp Adfywio mewn Tai a Chymunedau sy’n rheoli’r cynllun. Os oes unrhyw gwestiynau gennych, angen gwybodaeth bellach, neu bod gofynion arbennig gennych, cysylltwch â ni yn adfywio@caerdydd.gov.uk

Siarter Cwsmeriaid Grantiau Adeiladau Cymunedol

Trafodaethau Cyn Gwneud Cais

Mae croeso i grwpiau gysylltu â’r Grŵp Adfywio i drafod eu prosiect posib, cyn cyflwyno ffurflen gais. Bydd modd i swyddogion gynnig cyngor ynghylch cymhwysedd cynnig y prosiect.

Terfynau amser ymgeisio a phrosiectau

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ffurflenni cais o dan raglen 2024/2025 yw 28 Mehefin 2024 a’r dyddiad cwblhau’r Prosiect yw 21 Chwefror 2025.

Dylid ateb pob cwestiwn ar ffurflenni cais a phob gwybodaeth atodol ynghlwm, pan gyflwynir y cais. Ni chaiff ceisiadau anghyflawn eu prosesu.

Asesu a gwneud penderfyniadau

Bydd asesu prosiectau yn cymryd tua 4 i 6 wythnos.

Bydd swyddog achos yn cael ei neilltuo i bob cais. Cwblheir ffurflen asesu a gwneir argymhelliad ysgrifenedig ar gyfer pob cais. Ymgynghorwyd â Chynghorwyr Lleol ar bob cais a dderbynnir o fewn eu ward, a bydd y penderfyniad terfynol ar ddyrannu cyllid yn cael ei benderfynu o dan Gynllun Dirprwyo’r Weithrediaeth.

Mae ymgeiswyr a Chynghorwyr Lleol yn cael gwybod am benderfyniadau yn ysgrifenedig. Mae pob cynnig grant yn amodol ac mae’n ofynnol i ymgeiswyr gadarnhau derbyn neu wrthod cynigion grant yn ysgrifenedig.

Rhaid cwblhau pob prosiect erbyn 21 Chwefror 2025.

Cyflawni Prosiect

Mae ymgeiswyr yn cael terfyn amser lle i gwblhau’r gwaith sy’n derbyn cymorth grant. Mae grantiau yn cael eu talu ar ôl i waith gael ei wneud. I hawlio grant:

Mae’n rhaid i swyddog ymweld â’r prosiect i wirio bod gwaith wedi’i gwblhau’n foddhaol. Nid ardystiad technegol o’r gwaith mo hwn. Cynghorir ymgeiswyr i ddefnyddio ymgynghorydd proffesiynol i baratoi cynllun, i benodi contractwr i ymgymryd â’r gwaith ac i gael y gwaith wedi’i ardystio. Mae ffioedd proffesiynol yn gymwys i gael arian o dan y Rhaglen Grantiau Adeiladau Cymunedol.

Rhaid i’r ymgeisydd ddarparu llythyr a nodwyd bod y gwaith wedi’i gwblhau er eu boddhad ac amgáu copi o anfoneb cofrestredig â TAW wedi’i heitemeiddio’n llawn ar gyfer y gwaith.

Ar ôl i’r uchod gael ei wirio a’i dderbyn, bydd y swyddog achos yn prosesu’r taliad grant.

Adborth

Mae’r Cyngor yn ymdrechu i wella ei wasanaethau yn barhaus. Er mwyn helpu gwella’r rhaglen ar gyfer y blynyddoedd i ddod, gofynnir i bob ymgeisydd llwyddiannus lenwi ffurflen adborth.

Cyhoeddusrwydd

Mae’r Cyngor yn ceisio hyrwyddo ei Raglen Grantiau Adeiladu Cymunedol. Gellir gofyn i ymgeiswyr sy’n derbyn cymorth grant a fyddant yn cymryd rhan mewn cyhoeddusrwydd i’w prosiectau.

Cwynion

Os yw ymgeiswyr yn anhapus ag unrhyw agwedd ar y gwasanaeth a dderbyniwyd, dylid cysylltu â’r swyddog achos ar unwaith.

Telerau ac Amodau Safonol Grantiau Cyngor Caerdydd

Bydd cymeradwyo a thalu Grant neu gymorth ariannol gan y Cyngor i sefydliad gwirfoddol yn destun y telerau ac amodau canlynol, ynghyd ag unrhyw amrywiadau neu amodau arbennig y gall y Cyngor eu rhagnodi’n ysgrifenedig ar adeg cymeradwyo’r grant.

Diffiniadau

Yn y Telerau ac Amodau Safonol, bydd gan y geiriau canlynol yr ystyron canlynol:

Grant – y swm neu’r symiau a nodwyd yn y llythyr cynnig.
Grantî – y sefydliad neu’r corff a enwyd yn y llythyr cynnig.
Y Cyngor – Cyngor Caerdydd
Prosiect –  Rhaglen o gamau gweithredu, gwaith ymchwil, gwaith datblygu neu weithgareddau eraill a nodir yn y cais neu’r fanyleb

Telerau Cyffredinol

1. Rhaid i’r Grantî dderbyn y telerau ac amodau hyn yn ysgrifenedig cyn y telir unrhyw Grant, ac os bydd diffyg talu neu oedi gan y Grantî o ran derbyn unrhyw Grant neu unrhyw ran o’r Grant, bernir bod y telerau hyn wedi’u derbyn.

2. Rhaid i unrhyw Grant a ddyfernir gan y Cyngor gael ei ddefnyddio dim ond at y dibenion a gymeradwywyd yn y llythyr cynnig grant gan y Cyngor. Mewn achosion lle nad oes unrhyw ddibenion wedi’u rhagnodi yn y llythyr hwnnw, y dibenion cymeradwy fydd y rheini a ragnodwyd yn y ffurflen gais a/neu’r fanyleb Grant ac unrhyw atodiad cytunedig. Fodd bynnag, gellir newid y dibenion cymeradwy hynny drwy gytundeb ysgrifenedig rhwng y Cyngor a’r Grantî. Y sefyllfa ragosodedig fydd y dibenion hynny a ragnodwyd yn y ffurflen gais, y fanyleb grant ac unrhyw atodiad cytunedig ar bob adeg. Yn yr achosion hynny lle bo’r Cyngor yn barnu fod ymrwymo i gytundeb grant yn ddymunol, gall rhyddhau’r Grant fod yn amodol ar y Grantî yn llofnodi cytundeb.

3. Dyfernir unrhyw Grant gan ddibynnu ar y wybodaeth a roddir ar datganiad o ddiddordeb, ffurflen cais a/neu’r Fanyleb Grant ac unrhyw wybodaeth atodol a roddir gan y Grantî, a bydd unrhyw gamliwio, gan gynnwys celu neu atal gwybodaeth berthnasol gan y Grantî yn golygu, yn ôl disgresiwn y Cyngor, methiant i gydymffurfio â’r telerau ac amodau hyn.

4. Bydd y datganiad o ddiddordeb, ffurflen gais, y Fanyleb Grant ac unrhyw wybodaeth atodol gytunedig, ynghyd ag unrhyw lythyr cynnig, ffurflen dderbyn a’r Cytundeb Grant (os y bydd yn ofynnol) yn ffurfio holl sail y grant, a bernir nad yw unrhyw sylwadau llafar a wnaed gan y Grantî na’r Cyngor wedi’u hymgorffori fel un o delerau nac amodau’r cynnig na derbyn y Grant nac unrhyw ran ohono.

5. Rhaid peidio â barnu bod dyfarnu grant mewn un flwyddyn ariannol (1 Ebrill i 31 Mawrth) yn golygu unrhyw warant y dyfernir Grant ar gyfer y flwyddyn ganlynol, oni bai bod telerau’r cynnig ffurfiol yn rhagnodi hynny. Ni fydd y Cyngor yn atebol ar gyfer unrhyw ymrwymiadau a wnaed gan y Grantî wrth ragweld derbyn Grant nas dyfarnwyd ar ôl hynny.

6. Caiff y Cyngor ymrwymo i ddyfarnu Grant am gyfnod o hyd at dair blynedd. Bydd Grant o’r fath yn destun darpariaethau paragraff 5 uchod, a bydd parhau i dalu’r grant ym mlwyddyn dau a thri yn ôl disgresiwn y Cyngor ac yn amodol ar fonitro perfformiad, monitro ariannol ac argaeledd y cyllid.

7. Pan fo Grant yn daladwy mewn rhandaliadau, gall y Cyngor atal talu unrhyw randaliadau neu rannau ohonynt os fydd y Grantî yn methu â bodloni’r Cyngor bod y grant wedi ei ddefnyddio, neu y caiff ei ddefnyddio yn y dyfodol at y dibenion a gymeradwywyd, neu os bydd y Cyngor o’r farn nad yw unrhyw un o delerau neu amodau eraill y Grant yn cael eu cyflawni, neu o dan yr amgylchiadau a ragnodir ym mharagraff 40 isod.

8. Rhaid peidio â defnyddio unrhyw ran o’r Grant at ddibenion gwleidyddiaeth bleidiol, ac ni all unrhyw agwedd ar y gweithgareddau sy’n derbyn cymorth grant fod at ddibenion, defnydd na chyflwyniadau gwleidyddiaeth bleidiol.

9. Cyn cymeradwyo unrhyw grant, os bydd unrhyw newid o ran unrhyw wybodaeth a gyflwynwyd i’r Cyngor yn ystod y broses ymgeisio, rhaid i’r Grantî hysbysu’r Cyngor ar unwaith.

10. Fel arfer ni chymeradwyir grantiau yn ôl-weithredol ar gyfer projectau sy’n mynd rhagddynt eisoes, gwaith a gwblhawyd na chyfarpar a brynwyd cyn dyddiad y cais. Dim ond o dan amgylchiadau eithriadol y caiff cais o’r fath ei ystyried. Rhaid i’r Grantî ad-dalu unrhyw grant a ddefnyddiwyd yn ôl weithredol heb yn wybod i’r Cyngor a heb ganiatâd y Cyngor.

11. Fel mater o arfer da, rhaid i’r Grantî wneud ei ymdrechion gorau i gael cymorth ariannol o ffynonellau amrywiol, a bydd yn gwneud ymdrech i beidio â dibynnu ar y Cyngor yn unig am gyllid.

12. Yn ei ddeunydd cyhoeddusrwydd, rhaid i’r Grantî gydnabod y cyfraniad ariannol a wneir i’w weithgareddau gan y Cyngor, ond rhaid i’r Grantî beidio â defnyddio logo hawlfraint y Cyngor ar unrhyw ddeunydd na dogfennau cyhoeddusrwydd oni roddir caniatâd penodol ymlaen llaw gan y Cyngor i’w ddefnyddio ym mhob achos.

13. Yn unol ag ysbryd cydweithredu a gweithio mewn partneriaeth mae’r Grantî yn cytuno, yn y lle cyntaf, i roi cyfle i’r Cyngor ymateb i unrhyw feirniadaeth neu bryderon sydd ganddo. Bydd y Cyngor yn glynu at yr egwyddor hon ac yn trafod unrhyw bryderon sydd ganddo gyda’r grantî yn y lle cyntaf.

14. Mewn amgylchiadau eithriadol pan fo pryderon ariannol yn codi, rhaid i’r Grantî roi mynediad i’r Cyngor i’w holl lyfrau, cyfrifon a thalebau, gan gynnwys cyfriflenni banc, sieciau a ddychwelwyd a bonion sieciau o fewn 10 diwrnod gwaith o unrhyw gais, neu gyn gynted â phosibl ar ôl y cais. Drwy dderbyn y Grant neu unrhyw ran ohono, mae’r Grantî yn rhoi caniatâd i’r Cyngor gysylltu â Banc neu Gyfrifydd y Grantî, ac yn rhoi caniatâd diamod i’r Banc neu’r Cyfrifydd hwnnw roi unrhyw wybodaeth i’r Cyngor am unrhyw drafodion a wnaed gan y Grantî mewn perthynas â’r arian Grant. Mae’r Grantî yn rhoi caniatâd i’r Cyngor roi copi o’r ffurflen gais, y Fanyleb Grant, y llythyr cynnig, y ffurflen dderbyn a’r telerau ac amodau hyn i’r Banc neu’r Cyfrifydd hwnnw i gadarnhau’r sefyllfa.

Trethiant

15. Bydd y Grantî yn atebol i dalu unrhyw drethi neu dollau sy’n daladwy yn y Deyrnas Unedig mewn perthynas â chymryd rhan yn y Cytundeb, ac yn addo indemnio’r Cyngor mewn perthynas ag unrhyw drethiant o’r fath a aseswyd ac a dalwyd gan y Cyngor y mae’r Grantî yn bennaf atebol i’w dalu.

16. Bydd talu Treth Ar Werth (T.A.W.) dim ond yn cael cymorth Grant mewn achosion lle nad yw’r Grantî wedi’i gofrestru at ddibenion T.A.W neu mewn achosion lle gall brofi nad yw’n gallu adennill yr holl T.A.W neu ran ohoni gan Gyllid a a Thollau E.F

Ymddygiad Priodol

17. Bydd y Grantî yn cydymffurfio â thelerau unrhyw brydles, cytundeb tenantiaeth neu drwydded a chyda’i rwymedigaethau statudol a chyfreithiol (e.e. caniatâd cynllunio, diogelu data, cyfle cyfartal, hil, gwahaniaethu ar sail rhyw ac anabledd, cyfreithiau a rheoliadau iechyd a diogelwch a thrwyddedu) a allai effeithio ar ei weithgareddau ac ym mhob ystyr ni fydd yn fwriadol neu’n esgeulus yn cyflawni gweithredoedd neu anweithiau sy’n arwain at gamddefnydd neu wastraff cyllid Grant. Pan fo gweithgareddau’r Grantî yn golygu gweithio â phlant a phobl ifanc, rhaid i’r Grantî sicrhau bod y bobl hynny y mae’n bwriadu contractio neu weithio â hwy yn cael gwiriad manwl er mwyn cadarnhau eu bod yn addas, gan gynnwys gwiriadau Swyddfa Cofnodion Troseddol yn ôl yr angen.

Iechyd a Diogelwch

18. Bydd y Grantî yn gyfrifol am iechyd a diogelwch ei weithwyr a’i isgontractwyr ei hun tra’n rhoi’r Project ar waith a rhaid iddo sicrhau eu bod yn derbyn yr hyfforddiant priodol mewn perthynas â gweithdrefnau diogelwch a darparu’r holl offer diogelwch sy’n ofynnol yn unol â’r gyfraith neu’r hyn a gymeradwyir yn gyffredinol yn arferion gorau o bryd i’w gilydd.

19. Rhaid i’r Grantî gymryd cyfrifoldeb am ddiogelwch, cywirdeb, addasrwydd at y diben a chydymffurfiaeth â’r holl ofynion cyfreithiol yr holl offer a’r cyfarpar a ddarparwyd ganddo at ddibenion cyflawni’r Project ac, er mwyn osgoi amheuaeth, bydd y cyfrifoldeb hwn yn cynnwys sicrhau diogelwch, cywirdeb, addasrwydd at y diben yr offer a’r cyfarpar sydd yn nwylo cyflogeion neu isgontractwyr unrhyw barti neu bartïon eraill, gan gynnwys, heb gyfyngiadau, unrhyw berson a allai fod yn eu defnyddio’n briodol neu a allai fod o’u cwmpas.

20. Rhaid i’r Grantî gymryd cyfrifoldeb am sefydlogrwydd, diogelwch ac addasrwydd unrhyw eiddo sy’n berchen iddo a/neu a ddefnyddir ganddo a’r safle lle y cyflawnir y Project.

21. Os bydd un o’r canlynol yn digwydd:

a. hawliad llwyddiannus yn cael ei gyflwyno yn erbyn y Cyngor, sut bynnag y mae’n codi, p’un ai mewn perthynas ag esgeulustod, niwsans, torri dyletswydd statudol, neu unrhyw gamwedd arall neu mewn perthynas ag unrhyw hawl neu rwymedi cyfreithiol arall, sut bynnag y mae’n codi o’r Cytundeb, neu

b. erlyniad llwyddiannus yn erbyn Cyngor neu ei gyflogeion o ran unrhyw fethiant i gydymffurfio ag unrhyw ofyniad cyfreithiol i’w gwblhau o ganlyniad i’r Cytundeb hwnnw megis rhwng y Cyngor a’r Grantî, bydd y Grantî yn atebol am yr holl atebolrwydd, costau, hawliadau, galwadau, treuliau, dirwyon a chosbau eraill (gan gynnwys ffioedd cyfreithiol a threuliau) sy’n codi yn sgîl hynny neu’n ymwneud â hynny mewn unrhyw ffordd hyd eithaf ei gyfrifoldebau, a benderfynir yn unol â chymal 17 a darpariaethau’r cytundeb hwn yn gyffredinol, a bydd y Grantî yn digolledu ac yn parhau i ddigolledu ac yn rhoi cyfrif i’r Cyngor yn unol â hynny.

22. Bydd darpariaethau cymalau 17 – 20 yn goroesi terfyniad y trefniadau grant.

Offer

23. Lle bo’r Grant neu unrhyw ran ohono yn cael ei ddefnyddio gan y Grantî i brynu neu gaffael unrhyw fuddiant mewn unrhyw ased (gan gynnwys tir ac adeiladau, cerbydau, celfi neu gyfarpar), a bod yr ased neu’r buddiant ynddo yn cael ei werthu wedyn neu y rhoir y gorau i’w ddefnyddio ar gyfer y diben cymeradwy y’i cafwyd, rhaid i’r Grantî, os ydyw’r Cyngor yn gorchymyn hynny, ad-dalu i’r Cyngor gwerth llawn yr ased ar y farchnad fel yr oedd ar ddyddiad ei werthu neu’r dyddiad y rhoddwyd y gorau i’w ddefnyddio ar gyfer y diben cymeradwy, neu swm llai y mae’r Cyngor yn ôl ei ddisgresiwn yn ei ystyried yn gyfran deg o werth yr ased ar y farchnad.

Elw Preifat

24. Ni chaiff y Grantî o dan unrhyw amgylchiadau ddefnyddio’r arian Grant yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol mewn ffordd a fydd yn elwa unrhyw unigolyn preifat, cwmni preifat neu gorff o bersonau preifat yn ddiarwybod i’r Cyngor neu heb ganiatâd ymlaen llaw gan y Cyngor.

Yswiriant

25. Mae’r Grantî yn gyfrifol am yswirio rhag unrhyw risgiau a allai godi mewn cysylltiad ag unrhyw eiddo sy’n perthyn i’r Grantî neu unrhyw weithgaredd a gyflawnir gan y Grantî a ariennir yn gyfan gwbl neu’n rhannol drwy gymorth grant gan y Cyngor. Mae hyn yn cynnwys unrhyw golled neu anaf personol i staff neu wirfoddolwyr sy’n cyflawni’r gweithgareddau hynny. Ceidw’r Cyngor yr hawl i’w wneud yn ofynnol i’r Grantî gyflwyno unrhyw ddogfennau perthnasol mewn perthynas â’r polisïau yswiriant ar gyfer eu harchwilio Ni fydd y Cyngor o dan unrhyw amgylchiadau yn atebol am unrhyw hapddigwyddiad mewn perthynas ag eiddo neu weithgareddau y rhoddwyd grant ar ei gyfer yn gyfan gwbl neu yn rhannol. Mae’r cyfrifoldeb am unrhyw hapddigwyddiad o’r fath yn perthyn yn gyfan gwbl i’r Grantî a bydd rhaid iddo drefnu sicrwydd yswiriant ar gyfer pob posibilrwydd drwy gael polisïau yswiriant digonol. Mae’r Grantî yn rhyddarbed y Cyngor yn erbyn yr holl gostau a cheisiadau yn hynny o beth.

Cyflogaeth

26. Ni chaiff y Grantî, o dan unrhyw amgylchiadau, drwy weithred neu esgeulustra achosi i unrhyw weithiwr neu wirfoddolwr sy’n gweithio iddo gredu bod perthynas gyflogaeth yn cael ei chreu neu yn bodoli rhwng y cyflogai neu’r gwirfoddolwr hwnnw â’r Cyngor.

27. Rhaid i’r Grantî gydymffurfio â’r holl ddeddfwriaethau perthnasol mewn perthynas â chyflogaeth, cysylltiadau llafur a iechyd a diogelwch yn y gwaith. Rhaid i Grantî sydd â chyflogeion sicrhau bod ganddo Yswiriant Atebolrwydd Cyflogwyr.

28. Rhaid i’r Grantî beidio â chyflogi unrhyw aelod o’i Bwyllgor Rheoli fel staff cyflogedig. Os penodir aelod o’r Pwyllgor Rheoli i swydd o fewn y sefydliad gwirfoddol, mae’n rhaid iddo/iddi ymddiswyddo o’r Pwyllgor Rheoli cyn cychwyn ar gyflogaeth o’r fath. Rhaid i aelodau o’r Pwyllgor Rheoli sy’n ffrind agos neu yn perthyn i berson a gyflogir gan y Grantî ddatgan y berthynas yn ysgrifenedig i aelodau eraill y Pwyllgor. Pan y bo’n briodol gall Swyddogion y Cyngor fynychu cyfarfodydd y Pwyllgor Rheoli, fel ymgynghorwyr yn unig.

Newid o ran Personél neu Leoliad

29. Pan fo’r ffurflen datganiad o ddiddordeb a’r fanyleb Grant yn nodi y bydd aelod neu dîm penodol o bersonél y Grantî yn rheoli neu’n cyflawni’r gwaith sy’n derbyn cymorth Grant o leoliad penodol, ni chaiff y Grantî newid yr aelod na’r tîm na’r lleoliad hwnnw heb ganiatâd y Cyngor, ond ni fydd cais am ganiatâd o’r fath yn cael ei atal yn afresymol.

Cyfrifon

30. Rhaid i’r Grantî gadw cyfrifon cyfoes yn barod ar gyfer eu harchwilio gan y Cyngor ar unrhyw adeg. Dylai’r cyfrifon gael eu paratoi yn ôl yr arferion gorau a gymeradwyir. Dylid defnyddio’r flwyddyn ariannol 1 Ebrill – 31 Mawrth lle bo hynny’n bosib, oni bai fod natur gweithgareddau’r Grantî yn rhwystro hynny.

31. Mae’r Cyngor yn gofyn i bob Grantî sy’n derbyn Grant ddarparu cyfrifon blynyddol a gaiff eu paratoi yn unol â’r arferion gorau a gymeradwyir.

32. Bydd yr holl gyfrifon yn nodi’n glir holl grantiau’r Cyngor ac unrhyw Grantiau eraill a dderbyniwyd yn ystod y flwyddyn ariannol honno.

33. Rhaid paratoi’r cyfrifon yn y fath fodd fel y gall y Cyngor adnabod at ba ddiben y defnyddiwyd y Grant gan y Grantî.

Monitro Cynnydd a Phrosesu Data

34. Rhaid i’r Grantî gydymffurfio â’r trefniadau monitro fel y’u nodir yn y llythyr cynnig neu’r Fanyleb Grant ar gyfer y Cynllun Grant y gwneir cais amdano.

35. Rhaid i’r Grantî, ar gais, baratoi adroddiad ysgrifenedig i’r Cyngor ar gyflawniad a chynnydd y gwaith y dyfarnwyd y Grant ar ei gyfer. Rhaid i’r Grantî, heb godi tâl, ganiatáu i unrhyw swyddog neu swyddogion y Cyngor ar unrhyw adeg resymol ymweld â’i eiddo a/neu archwilio unrhyw rai o’i weithgareddau a/neu archwilio a chymryd copïau o lyfrau cyfrifon y Grantî ac unrhyw ddogfennau neu gofnodion tebyg a allai fod ym marn y swyddogion yn berthnasol mewn unrhyw ffordd i’r defnydd a wneir o’r Grant gan y Grantî. Mae’r amod hwn heb ymrwymiad ac yn amodol ar unrhyw hawliau statudol a phwerau eraill a arferir gan y Cyngor neu unrhyw swyddog, gwas neu gynrychiolydd y Cyngor.

36. Rhaid i’r Grantî ddarparu gwybodaeth arall i’r Cyngor ynglyn â’i weithgareddau neu’r gweithgareddau arfaethedig, ac ynglyn â’r defnydd a’r defnydd arfaethedig o’r cyfan neu unrhyw ran o Grant y Cyngor, yn ôl gofyn y Cyngor o bryd i’w gilydd. Bydd gan y Cyngor yr hawl i ddefnyddio hwn a’r holl wybodaeth a ddarparwyd gan y Grantî mewn perthynas â’r Grant fel y mynna.

37. Bydd rhan neu’r cyfan o’r wybodaeth a ddarperir ar y ffurflen gais yn cael ei gadw ar gyfrifiadur a rhydd y Grantî ei ganiatâd i brosesu unrhyw wybodaeth bersonol o dan y Ddeddf Diogelu Data ar yr amod y bydd y data hwnnw’n parhau i fod yn gyfrinachol rhwng y Grantî a Swyddogion ac Aelodau perthnasol y Cyngor perthnasol oddieithr lle mae’r gyfraith yn caniatáu datgelu data, yna mae’n bosib y bydd Cyngor yn gwneud hynny. Bydd y wybodaeth hon yn cael ei defnyddio ar gyfer gweinyddu ceisiadau Grant ac ar gyfer dadansoddi ystadegau. Cyhoeddir manylion yr holl geisiadau Grant llwyddiannus mewn adroddiad blynyddol i’r Cyngor.

Rhyddid Gwybodaeth

38. Caiff y Cyngor ddatgelu gwybodaeth os yw’r gyfraith yn caniatáu hynny neu os oes gan y Cyngor ddyletswydd i wneud hynny. Nid yw gwybodaeth a geir yn destun dyletswydd cyfrinachedd o fewn ystyr Adran 41 Deddf Rhyddid Gwybodaeth, a bydd ceisiadau datgelu o dan y Ddeddf honno yn cael eu trin yn unol â’r Cod Ymarfer dan Adran 45 Deddf Rhyddid Gwybodaeth gan ystyried egwyddorion diogelu data yn Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) 2018 mewn perthynas â data personol.

Rheoli Arian

39. Rhaid i’r Grantî sicrhau rheolaethau ariannol digonol e.e. sicrhau gwahanu dyletswyddau, cadw llyfrau a chofnodion priodol, cyfrifon banc sydd angen dau lofnod a chadw dogfennau ategol at ddibenion archwilio ar bob amser.

40. Os nad yw’r Grant yn cael ei wario ar gyfer y pwrpasau cymeradwy yn ystod y flwyddyn ariannol y mae’n berthnasol iddo, gall y Cyngor adennill y swm na wariwyd yn ystod neu ar ddiwedd y flwyddyn ariannol honno a/neu ei ystyried wrth benderfynu ar faint o Grant i’w dalu yn y flwyddyn ariannol ganlynol.

41. Ni chaiff y Grantî drosglwyddo unrhyw ran o’r grant i drydydd parti heb gael caniatâd ysgrifenedig gan y Cyngor ymlaen llaw.

42. Rhaid i’r Grantî roi gwybod i’r Cyngor cyn gynted ag y daw’n hysbys y bydd hi’n bosib y bydd y grant yn cael ei dan wario. Gall y Cyngor yn ôl ei ddisgresiwn gymeradwyo gwneud defnydd arall o’r swm na wariwyd at ddibenion llesol eraill drwy roi cymeradwyaeth ysgrifenedig. Rhoir cymeradwyaeth o’r fath yn enwedig lle bydd y Grantî yn tanwario yn sgîl gwella effeithiolrwydd neu effeithlonrwydd wrth reoli adnoddau, ond mae’n annhebygol y rhoddir cymeradwyaeth lle mae’r tanwario yn deillio o oedi wrth gychwyn gweithgaredd a gymeradwywyd.

43. Rhaid i’r Grantî beidio â chynrychioli’r Grantî (gan sicrhau na fydd unrhyw aelodau ei gorff elusennol chwaith) mewn unrhyw ffordd, na’n dweud na’n gwneud unrhyw beth a allai arwain pobl i gredu fod y Grantî yn asiant ar ran y Cyngor neu fod y Cyngor yn gyfrifol am unrhyw atebolrwydd ar ei ran. Ni chaiff unrhyw un o delerau nac amodau’r Grant osod unrhyw atebolrwydd ar y Cyngor mewn perthynas ag unrhyw atebolrwydd yr aed iddo gan y Grantî i unrhyw berson neu endid arall.

44. Ni fydd y Cyngor, na’i swyddogion na’i asiantau yn atebol ar unrhyw adeg i unrhyw berson mewn perthynas ag unrhyw fater arall sy’n ymwneud â datblygu, cynllunio, adeiladu, gweithredu a/neu weinyddu’r Project sy’n derbyn cymorth Grant, ac yn benodol, ond heb gyfyngiadau, ni fydd yn atebol i’r Grantî am unrhyw golled neu ddifrod sy’n deillio’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol yn sgîl cydymffurfio â thelerau ac amodau’r Grant, gan gynnwys unrhyw golledion neu gostau sy’n deillio o fethu â gwneud taliadau Grant ar unrhyw ddyddiad cytunedig.

45. Os yw’r Grantî yn dirwyn i ben neu’n mynd i ddatodiad (gan gynnwys bod yn destun gorchymyn gweinyddu); mynd i law’r derbynnydd; methdaliad; yn cychwyn unrhyw gyfaddawd neu drefniant arall o ran ei ddyledion â’i gredydwyr; neu’n debygol, ym marn y Cyngor, o beidio â gallu talu unrhyw un o’i ddyledion os digwydd unrhyw un o’r digwyddiadau hynny bydd gan y Cyngor yr hawl i adennill y Grant a dalwyd ar unwaith gan y Grantî ac ni fydd unrhyw arian pellach yn ddyledus na’n daladwy gan y Cyngor i’r Grantî neu i unrhyw un sy’n gweithredu ar ei ran neu yn ei enw. Ystyrir unrhyw gyfeiriadau at swm y Grant sy’n cael ei dalu neu sydd i’w dalu i’r Grantî i olygu ac i fod yn gyfyngedig i, y swm o arian a dalwyd i’r Grantî gan y Cyngor ar yr adeg y digwydd unrhyw un o’r digwyddiadau y cyfeirir atynt uchod.

Derbyn ac Ad-dalu Grant

46. Mae unrhyw gynnig Grant yn agored i’w dderbyn o fewn 30 diwrnod i’r dyddiad o hynny oni bai y nodir yn wahanol. Ni fydd y Cyngor yn talu unrhyw ran o’r grant hyd nes y daw’r llythyr derbyn i law. Oni cheir unrhyw lythyr derbyn o fewn yr amser hwnnw ystyrir y bydd y cynnig wedi’i dynnu’n ôl ond gellir ei ail-gynnig yn ôl disgresiwn y Cyngor.

47. Gall y Cyngor, yn ôl ei ddisgresiwn, newid, dileu neu ohirio unrhyw gymeradwyaeth Grant neu ofyn am ad-daliad o unrhyw grant a dalwyd eisoes, un ai yn ei gyfanrwydd neu yn rhannol lle:-

i. torrwyd unrhyw rai o’r Telerau a’r Amodau Safonol perthnasol hyn a/neu unrhyw amodau arbennig sydd ynghlwm â’r Grant.

ii. bo’r Grantî yn peidio â bodoli.

iii. bo’r Cyngor wedi’i gymell i gyflwyno’r cymeradwyaeth Grant o ganlyniad i unrhyw wybodaeth anghywir neu ffug a ddarparwyd gan y Grantî.

iv. bo’r Grantî wedi methu â hysbysu’r Cyngor o unrhyw newid perthnasol i wybodaeth a ddarparwyd yn flaenorol ganddo, pan fo’r Grantî neu unrhyw un o’i swyddogion neu asiantau wedi ymddwyn yn anonest neu’n esgeulus er niwed i’r project y rhoddwyd y cymorth Grant ar ei gyfer.

v. bo’r Grantî yn newid neu yn cael gwared â’i reolwyr neu’r personél sy’n gyfrifol am y gwasanaeth sy’n derbyn cymorth Grant neu’n newid ei leoliad o’r un a nodwyd yn y ffurflen gais a’r fanyleb Grant heb ganiatâd y Cyngor

vi. bo’r Grantî neu unrhyw un o’i swyddogion, weision neu asiantau wedi ymddwyn yn anonest neu’n esgeulus er afles i’r project y rhoddwyd y cymorth Grant ar ei gyfer.

vii. bo’r Grantî yn compowndio neu’n gwneud trefniadau â’i gredydwyr ei fod yn cael ei ddiddymu (yn wirfoddol neu fel arall) ac eithrio ar gyfer adluniad dilys neu fod derbynnydd neu reolwr yn cael ei benodi mewn perthynas â’r cyfan neu unrhyw ran o’i fusnes neu os digwydd unrhyw ddigwyddiadau cyfatebol.

Cysylltwch â ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon am y prosiect hwn, cysylltwch â ni.





    Lleoliad