Mae llwybr cul gyda slabiau carreg anwastad yn rhedeg rhwng dwy ardal breswyl. Ar yr ochr chwith, mae wal frics gyda ffens a gwyrddni yn arwain at dŷ llwydfelyn gyda ffenestri bach. Ar yr ochr dde, mae ffens bren uchel yn ffinio â'r llwybr. Mae glaswellt yn tyfu rhwng y cerrig, gan roi golwg ordyfiant i'r llwybr. Mae mwy o dai a choed i'w gweld yn y pellter o dan awyr gymylog.

Bydd Cyngor Caerdydd yn gwneud gwelliannau i Trowbridge Green gyda’r nod o greu amgylchedd gwell i bobl fyw ynddo.

Yn 2021, buom yn ymgynghori â phreswylwyr lleol i ganfod y blaenoriaethau lleol ar gyfer yr ardal.  Dyma’r hyn a godwyd yn ystod yr ymgynghoriad:

  • Cyflwr y llwybrau cerdded
  • Cyflymder cerbydau
  • Cyflwr yr iardiau

Mewn ymateb i’r pryderon hyn, rydym yn cynnig gwella’r ardal drwy:

  • Gwella llwybrau cerdded i gerddwyr drwy’r ardal
  • Gwelliannau amgylcheddol i dir y cyhoedd
  • Gweithredu mesurau arafu traffig
  • Gwella ffiniau blaen a chefn (gan gynnwys gatiau)

Gwella iardiau’r fflatia:

  • Arwyneb newydd,
  • Storfeydd biniau newydd,
  • Mesurau diogelwch gwell, a
  • Darpariaeth newydd ar gyfer sychu dillad

Statws cyfredol

Rwy’n falch o rannu bod Knights Brown wedi cael ei ddewis fel y prif gontractwr. Bydd gwaith yn dechrau ym mis Tachwedd ac yn cael ei gwblhau yn haf 2026. Cewch wybod pan fydd disgwyl i waith ddechrau yn eich ardal uniongyrchol chi.

Rydym yn sylweddoli, yn anochel, y bydd y gwaith yn debygol o achosi rhywfaint o anghyfleustra i drigolion. Fodd bynnag, bydd y Cyngor a’r contractwr penodedig yn sicrhau y bydd yr aflonyddwch yn cael ei gadw i’r lleiafswm wrth i ni weithio tuag at greu amgylchedd gwell i’r gymuned leol.

Cysylltwch â ni

Os oes gennych gwestiynau neu bryderon am y prosiect hwn, cysylltwch â ni.





    Lleoliad