Mae’n bleser gennyn ni gyhoeddi bod y parc sglefrio concrit newydd wedi’i gwblhau ar bwys Canolfan Hamdden y Dwyrain yn Llanrhymni.
Fel rhan o’n hymrwymiad i gynnig cyfleusterau cymunedol o ansawdd uchel, rydyn ni bellach yn ceisio adborth gan drigolion lleol a defnyddwyr y parc.
Dywedwch wrthym beth yw eich barn chi
Mae eich barn yn bwysig i ni a bydd yn helpu i lunio gwelliannau yn y dyfodol ac yn llywio datblygiad prosiectau tebyg ar draws yr ardal.
Llenwch y ffurflen erbyn dydd Gwener 22 Awst.
Byddwn yn prosesu’ch data personol yn unol â’n tasg gyhoeddus dan GPDR y DU ac yn unol â deddfwriaeth diogelu data gyfredol. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio a phrosesu’ch data personol, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd.
Mae Cyngor Caerdydd eisiau sicrhau bod ein prosiectau’n bodloni anghenion amrywiaeth eang o bobl.
Does dim rhaid i chi ateb y cwestiynau hyn, ac rydym yn gwybod bod rhywfaint o’r wybodaeth hon yn bersonol a sensitif ei natur. Fodd bynnag, mae casglu’r data hwn yn ein helpu i wybod a ydym yn cynnwys gwahanol grwpiau o bobl, ac yn ein helpu i fodloni eu hanghenion.