

Mae Cyngor Caerdydd wedi cyhoeddi ei raglen Cynllun Adnewyddu Cymdogaethau ar gyfer 2025, gan bwysleisio ei ymrwymiad parhaus i fuddsoddi mewn cymunedau ledled y ddinas.
Mae’r Cynllun Adnewyddu Cymdogaethau yn fenter ledled y ddinas sy’n ceisio mynd i’r afael â blaenoriaethau adfywio lleol. Mae’r rhaglen yn cyflawni prosiectau adfywio ar raddfa fach, wedi eu cyflwyno gan Aelodau Lleol a’i nod yw gwella cymdogaethau a gwella ansawdd bywyd preswylwyr. Maen nhw’n cael eu cynllunio a’u cyflwyno mewn partneriaeth â rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys busnesau lleol, preswylwyr a grwpiau cymunedol.
Eleni, cyflwynwyd 27 o syniadau prosiect gan gynghorwyr lleol ac aseswyd pob cynnig yn erbyn meini prawf allweddol gan gynnwys effaith adfywio, cynaliadwyedd, mynd i’r afael ag anfantais, cyfranogiad cymunedol, a gallu i gyflawni.
Un o’r prosiectau a ddewiswyd i’w cyflawni eleni yw symud AChA i Barc Hailey i ddarparu cyfleuster modern a chynhwysol newydd.
Gwybodaeth Prosiect
Statws Presennol
Mae Cyngor Caerdydd yn falch o rannu cynlluniau newydd cyffrous ar gyfer Ardal Chwaraeon Aml-ddefnydd (AChA) Newydd ym Mharc Hailey.
Yn dilyn ymgysylltu â dros 180 o blant lleol, mae dyluniad wedi’i greu i ddarparu cyfleuster modern a chynhwysol newydd. Bydd yr AChA bresennol yn cael ei thynnu ac yn cael ei gosod ar wair ar ôl cwblhau’r cyfleuster newydd.
Penodwyd Tredomen yn brif gontractwyr a bydd yn gwneud y gwaith ar ran Cyngor Caerdydd, gan ddechrau ar 3 Tachwedd. Bydd y prosiect yn cymryd tua 12 wythnos i’w gwblhau.
Yn ystod y cyfnod hwn, mae’n debygol y bydd ychydig o darfu, ond gwneir pob ymdrech i leihau hynny cymaint â phosib.
Bydd y dudalen hon yn cael ei diweddaru wrth i’r cynnydd barhau.
Cysylltwch â ni
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon am y prosiect hwn, cysylltwch â ni.




