Mae Cyngor Caerdydd yn bwriadu uwchraddio’r offer chwarae yn Chorley Close, Y Tyllgoed, fel rhan o’r Cynllun Adnewyddu Cymdogaethau sy’n cyflawni prosiectau gwella a awgrymir gan Gynghorwyr lleol.
Mae’r cynllun hwn yn dangos y cynigion ar gyfer Chorley Close.
Siglenni hygyrch newydd gan gynnwys siglen fasged, siglen i blant bach a siglen fflat i blant hŷn / plant yn eu harddegau.
Offer dringo newydd – ar thema diliau mêl a gwenyn.
Tegan sbring ar thema gwenyn.
Cylchfan hygyrch newydd ar thema blodau.
Si-so wedi’i adnewyddu
Trampolinau daear ar thema diliau mêl
Sleid arglawdd llydan
Tiwbiau siarad ar thema blodau ar gyfer chwarae synhwyraidd
Arwynebau â phatrymau diliau mêl ar gyfer chwarae dychmygus – gallwch hyd yn oed ddilyn llwybr y gwenyn a gwneud y ‘ddawns siglo’
Dweud eich dweud
Hoffem gael eich barn chi ar y cynigion. Rhannwch eich barn trwy lenwi’r Ffurflen Sylwadau ar-lein. Cyflwynwch erbyn dydd Gwener 21 Tachwedd 2025.
Byddwn yn prosesu’ch data personol yn unol â’n tasg gyhoeddus dan GPDR y DU ac yn unol â deddfwriaeth diogelu data gyfredol.