
Mae Cyngor Caerdydd yn ceisio ailddatblygu’r hen gae chwarae o flaen Heol Ball a Neuadd Llanrhymni, Llanrhymni, Caerdydd.
Mae’r safle yn rhan o’r Bartneriaeth Tai Caerdydd a’r Fro newydd; ymrwymiad gyda Lovells i greu cartrefi a chymunedau arbennig ledled y rhanbarth i helpu i fynd i’r afael â phwysau tai presennol trwy ddarparu o leiaf 2,260 o gartrefi dros y 10 mlynedd nesaf
Manylion y prosiect:
Bydd y cynllun o ansawdd uchel a thrwy ddylunio da rydym yn gobeithio darparu:
- Datblygiad deniadol a diogel ar gyfer byw a magu teulu wedi’i leoli mewn tirwedd werdd lle gall trigolion gerdded, beicio a chymryd trafnidiaeth gyhoeddus i gyrraedd siopau, ysgolion a pharciau lleol.
- Cartrefi newydd sy’n ynni-effeithlon, yn naturiol olau ac yn awyrog.
- Cartrefi wedi’u dylunio o amgylch anghenion teuluoedd modern, gyda gerddi preifat a mannau awyr agored, mannau gwefru cerbydau trydan a storio beiciau.
Beth rydym yn ei ddarparu?
Bydd y datblygiad newydd yn darparu cartrefi teulu newydd a ddyluniwyd i fodloni safonau ynni-effeithlon uchel y Cyngor. Byddant ar gael i’w rhentu i bobl ar y rhestr aros Tai Cyngor a byddant yn cynnwys cartrefi 2, 3 a 4 ystafell wely. Bydd y cynllun hefyd yn cynnwys nifer o eiddo ar werth y farchnad, y gellir eu prynu trwy Lovell.
Bydd y cynllun yn cynnwys System Draenio Dinesig Cynaliadwy (SDDC) a all gynnwys gerddi glaw, plannu coed a seilwaith gwyrdd arall sy’n sicrhau bod dŵr glaw yn draenio’n naturiol i’r ddaear. Mae hyn yn helpu i fynd i’r afael ag effeithiau newid hinsawdd, yn darparu lleoedd gwyrddach a mwy deniadol i fyw ynddynt, ac yn cynyddu bioamrywiaeth leol.
Statws presennol
Mae gan y prosiect bedwar cam allweddol:
Cam 1 – Gwaith arolygu a chasglu gwybodaeth (cam presennol):
Roedd y cam hwn yn cynnwys cynnal yr holl waith arolygu angenrheidiol ar y safle, fel arolygon coed, ecoleg a chyflwr safle. Maent yn dweud popeth sydd angen i ni ei wybod am y safle i helpu i lunio dyluniad y datblygiad arfaethedig.
Cam 2 – Cyfleoedd a chyfyngiadau
Mae hyn yn cynnwys defnyddio’r gwaith arolygu i nodi’r cyfleoedd a’r cyfyngiadau ar y safle a chynnig rhai syniadau cychwynnol a dyluniadau cynnar ar gyfer y datblygiad arfaethedig. Byddwn yn cael adborth ar y syniadau hyn gan y gymuned ac amrywiaeth o arbenigwyr technegol, er mwyn gallu datblygu’r opsiwn a ffefrir ar gyfer y dyluniad.
Cam 3 – Opsiwn a ffefrir
Mae’r cam hwn yn cynnwys datblygu’r opsiwn a ffefrir yn fanylach, yn barod ar gyfer cais cynllunio. Bydd y cam hwn yn cynnwys Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio (YCY) gyda’r gymuned a rhanddeiliaid eraill.
Cam 4 – Cais cynllunio
Yn dilyn hynny, cyflwynir cais cynllunio ar gyfer y datblygiad arfaethedig, er mwyn i’r gymuned a rhanddeiliaid eraill gael cyfle i wneud sylwadau pellach ar y cynigion.
Sut gall y gymuned gymryd rhan?
Ar ôl i ni gwblhau syniadau cychwynnol a dyluniadau cynnar ar gyfer y datblygiad arfaethedig. Byddwn yn cael adborth ar y syniadau hyn gan y gymuned ac amrywiaeth o arbenigwyr technegol, er mwyn gallu datblygu’r opsiwn a ffefrir ar gyfer y dyluniad. Byddwn yn rhoi gwybod i drigolion am y gweithgaredd hwn drwy lythyr at eich drws, i’r rhai sy’n byw gerllaw ac yn diweddaru’r wefan a’r cyfryngau cymdeithasol yn ystod 2026.
Yn dilyn yr uchod, byddwn yn datblygu’r opsiwn a ffefrir yn fanylach, yn barod ar gyfer cais cynllunio. Mae’r cam hwn yn cynnwys Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio (YCY) gyda’r gymuned a rhanddeiliaid eraill. Byddwn yn rhoi gwybod i drigolion am y gweithgaredd hwn drwy lythyr at eich drws, i’r rhai sy’n byw gerllaw ac yn diweddaru’r wefan a’r cyfryngau cymdeithasol.
Yn dilyn hynny, cyflwynir cais cynllunio ar gyfer y datblygiad arfaethedig, er mwyn i’r gymuned a rhanddeiliaid eraill gael cyfle i wneud sylwadau pellach ar y cynigion.
Cysylltwch â ni
Os oes gennych gwestiynau neu bryderon am y prosiect hwn, cysylltwch â ni.