Map yn dangos y safle wedi'i amlinellu mewn coch.

Mae Cyngor Caerdydd yn ceisio ailddatblygu hen gartref gofal Sant Isan yn Llanisien, Caerdydd.  Mae’r safle yn rhan o’r Bartneriaeth Tai Caerdydd a’r Fro newydd; ymrwymiad gyda Lovells i greu cartrefi a chymunedau arbennig ledled y rhanbarth i helpu i fynd i’r afael â phwysau tai presennol trwy ddarparu o leiaf 2,260 o gartrefi dros y 10 mlynedd nesaf.

Rydyn ni eisiau ailddatblygu’r safle i greu datblygiad modern newydd i bobl hŷn yr ydym yn ei alw’n Byw yn y Gymuned.   Mae’n lleoliad delfrydol, yn agos at siopau, gwasanaethau, cyflogaeth a pharciau.

Manylion y Prosiect

Bydd y datblygiad arfaethedig yn darparu cynllun Byw yn y Gymuned newydd sy’n cynnig llety addas i bobl dros 55 oed yn ward Llanisien yng Nghaerdydd.

Yr hyn rydym yn ei ddarparu

Bydd y datblygiad yn darparu llety byw yn y gymuned o ansawdd uchel a fydd yn helpu preswylwyr i gynnal eu hannibyniaeth yn hirach, yn rhoi’r hyblygrwydd i ddiwallu anghenion defnyddwyr mwy agored i niwed ac yn helpu i fynd i’r afael ag allgáu cymdeithasol.

Bydd y datblygiad newydd yn bodloni ein manyleb dyluniad Byw yn y Gymuned sy’n adlewyrchu manteision byw’n annibynnol ond ar y cyd.  Bydd angen i’w ddyluniad ymdrin ag anghenion y preswylwyr; mynd i’r afael ag allgáu cymdeithasol, cydnabod y potensial ar gyfer dementia cynnar a chynnig cyfleoedd i bobl hŷn gadw’n actif a chyfranogi.

Bydd natur gymdeithasol i’r adeilad, a fydd yn galluogi pobl i heneiddio’n lleol gyda’r gefnogaeth gywir, sydd o fudd i’r preswylwyr a chymuned ehangach Llanisien. Bydd gan breswylwyr fynediad at ofod awyr agored preifat, wedi’i ategu gan fannau amwynder o ansawdd uchel a chysylltiad cryf â Chwrt Brentwood, gan greu cymuned leol unigryw gyda mwy o gyfleoedd ar gyfer rhyngweithio cymdeithasol.

Statws presennol

Mae gan y prosiect bedwar cam allweddol (gweler isod). Rydym yn gweithio ar gam 1 ar hyn o bryd:

Cam 1 – Gwaith arolygu a chasglu gwybodaeth (cam presennol):
Mae’r cam hwn yn cynnwys cynnal yr holl waith arolygu angenrheidiol ar y safle, fel arolygon coed, ecoleg a chyflwr safle. Maent yn dweud popeth sydd angen i ni ei wybod am y safle i helpu i lunio dyluniad y datblygiad arfaethedig. Dechreuodd y rhain yn 2025 a byddant yn parhau tan ddechrau 2026.

Cam 2 – Cyfleoedd a chyfyngiadau:
Mae hyn yn cynnwys defnyddio’r gwaith arolygu i nodi’r cyfleoedd a’r cyfyngiadau ar y safle a chynnig rhai syniadau cychwynnol a dyluniadau cynnar ar gyfer y datblygiad arfaethedig. Byddwn yn cael adborth ar y syniadau hyn gan y gymuned ac amrywiaeth o arbenigwyr technegol, er mwyn gallu datblygu’r opsiwn a ffefrir ar gyfer y dyluniad. Byddwn yn anelu at gwblhau’r cam hwn yn hanner cyntaf 2026.

Cam 3 – Opsiwn a ffefrir:
Mae’r cam hwn yn cynnwys datblygu’r opsiwn a ffefrir yn fanylach, yn barod ar gyfer cais cynllunio. Bydd y cam hwn yn cynnwys Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio (YCY) gyda’r gymuned a rhanddeiliaid eraill. Mae wedi ei drefnu ar gyfer Haf/Hydref 2026.

Cam 4 – Cais cynllunio:
Yn dilyn hynny, cyflwynir cais cynllunio ar gyfer y datblygiad arfaethedig, er mwyn i’r gymuned a rhanddeiliaid eraill gael cyfle i wneud sylwadau pellach ar y cynigion. Mae hyn wedi’i drefnu ar gyfer diwedd 2026.

Sut gall y gymuned gymryd rhan?

Ar ôl i ni gwblhau syniadau cychwynnol a dyluniadau cynnar ar gyfer y datblygiad arfaethedig. Byddwn yn cael adborth ar y syniadau hyn gan y gymuned ac amrywiaeth o arbenigwyr technegol, er mwyn gallu datblygu’r opsiwn a ffefrir ar gyfer y dyluniad.  Byddwn yn rhoi gwybod i drigolion am y gweithgaredd hwn drwy lythyr at eich drws, i’r rhai sy’n byw gerllaw ac yn diweddaru’r wefan a’r cyfryngau cymdeithasol yn ystod 2026.

Yn dilyn yr uchod, byddwn yn datblygu’r opsiwn a ffefrir yn fanylach, yn barod ar gyfer cais cynllunio. Mae’r cam hwn yn cynnwys Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio (YCY) gyda’r gymuned a rhanddeiliaid eraill. Byddwn yn rhoi gwybod i drigolion am y gweithgaredd hwn drwy lythyr at eich drws, i’r rhai sy’n byw gerllaw ac yn diweddaru’r wefan a’r cyfryngau cymdeithasol.

Yn dilyn hynny, cyflwynir cais cynllunio ar gyfer y datblygiad arfaethedig, er mwyn i’r gymuned a rhanddeiliaid eraill gael cyfle i wneud sylwadau pellach ar y cynigion.

Cysylltwch â ni

Os oes gennych gwestiynau neu bryderon am y prosiect hwn, cysylltwch â ni.





    Lleoliad