Funded by UK government bilingual logo
Golygfa stryd o Bentref Rhiwbeina. Rhes o siopau gyda cheir wedi'u parcio o'u blaenau. Mae'r adeiladau'n ddau lawr gyda ffenestri lluosog ar y lloriau uchaf.

Mae Cyngor Caerdydd yn bwriadu gwneud gwelliannau amgylcheddol i Siopau Pentref Rhiwbeina fel rhan o Raglen y Cynllun Adnewyddu Cymdogaethau.

Bydd y gwelliannau’n cynnwys:

  • Cynllun parcio newydd gyda 2 le parcio ychwanegol ar y lôn gerbydau ddwyreiniol
  • Ail-wynebu palmentydd dwyreiniol a gorllewinol
  • Gwelliannau priffyrdd wrth y fynedfa i lonydd mynediad cefn
  • Standiau beiciau, biniau a phlanwyr ychwanegol

Rydym hefyd yn cynnig hysbysfwrdd cymunedol newydd ar Heol Pant-mawr a meinciau a phlanwyr newydd yn Heol Llanisien Fach y tu allan i Swyddfa’r Post.

Cysylltwch â ni

Os oes gennych gwestiynau neu bryderon am y prosiect hwn, cysylltwch â ni.





    Lleoliad