

Mae Cyngor Caerdydd yn bwriadu gwneud gwelliannau ar Merches Place a Pentre Place, fel rhan o Raglen y Cynllun Adnewyddu Cymdogaethau.
Merches Place / Mardy Street
- Gwelliannau i ddiogelwch cerddwyr a mesurau arafu ar y troad yn y ffordd
- Blychau plannu newydd
- Standiau beic
Pen Ffordd Pentre Place
- Tocio coed
- Palmant newydd
- Bolardiau newydd
- Wyneb newydd i ffordd Pentre Place
- Mannau parcio newydd i breswylwyr*
Pen Dinas Street a Hafod Street
- Bolardiau newydd
- Blychau plannu newydd
Byddai gennym ddiddordeb yn clywed oddi wrth breswylwyr sy’n cysylltu â ni sy’n dymuno bod yn rhan o reolaeth barhaus y blychau plannu, ar ôl eu gosod.
Byddai mannau parcio i breswylwyr newydd yn cael eu cyflwyno i ddiogelu parcio i breswylwyr lleol. Byddai angen trwyddedau ar breswylwyr i barcio yn y mannau hyn. Byddai’r rhai sydd heb drwydded yn dal i allu parcio yn y mannau hyn, ond dim ond am hyd at awr yn unig. Bydd rhai llinellau melyn newydd hefyd yn cael eu cyflwyno i atal parcio diystyriol a rhwystrol ger pwyntiau mynediad a chyffyrdd.
*Bydd mwy o wybodaeth am gynllun parcio arfaethedig i breswylwyr yn Pentre Place, yn cael ei darparu gan y Tîm Parcio.
Cysylltwch â ni
Os oes gennych gwestiynau neu bryderon am y prosiect hwn, cysylltwch â ni.