
Mae Cyngor Caerdydd yn ceisio ailddatblygu hen safle Ysgol Glan Morfa yn Y Sblot, Caerdydd. Mae’r safle yn rhan o’r Bartneriaeth Tai Caerdydd a’r Fro newydd; ymrwymiad gyda Lovells i greu cartrefi a chymunedau arbennig ledled y rhanbarth i helpu i fynd i’r afael â phwysau tai presennol trwy ddarparu o leiaf 2,260 o gartrefi dros y 10 mlynedd nesaf.
Mae hen safle Glan Morfa yn cynnig y cyfle i greu datblygiad preswyl o ansawdd uchel mewn ardal y mae galw mawr amdani yng Nghaerdydd yn agos at siopau, gwasanaethau, cyflogaeth a pharciau.
Manylion y Prosiect
Disgwylir i’r datblygiad newydd o gartrefi cyngor uchder isel, dwysedd uchel annog ymdeimlad o gymuned a gwerth, trwy ei gynllun a’i ddyluniad, gan gydbwyso preifatrwydd â chyfleoedd ar gyfer cymdeithasu.
Dylid ei gynllunio fel lle lle mae pobl yn adnabod eu cymdogion, lle mae gan blant y rhyddid i fod y tu allan, archwilio, cwrdd â ffrindiau a chwarae, a lle mae pob oedran yn dod at ei gilydd trwy gyfleoedd i ddysgu, tyfu, rhyngweithio a thyfu bwyd cymunedol.
Yr hyn rydym yn ei ddarparu
Bydd y datblygiad yn darparu cartrefi fforddiadwy newydd a ddyluniwyd i fodloni safonau ynni-effeithlon uchel y Cyngor ar gael i bobl sydd ar restr aros Tai Cyngor eu rhentu.
Agwedd allweddol ar y cynllun fydd tirwedd amlswyddogaethol. Bydd yn tynnu ar hanes y safle fel gardd a’r seilwaith gwyrdd o’i amgylch i sefydlu cymeriad cryf a pherthynas gyfannol â’r amgylchedd naturiol.
Bydd y datblygiad yn rhoi pwyslais cryf ar gynaliadwyedd a chymuned, gan integreiddio seilwaith gwyrdd trwy’r cynllun. Rydym yn chwilio am ddatblygiad modern deniadol, gan wneud cyfraniad cadarnhaol i’r gymdogaeth.
Statws presennol
Mae gan y prosiect bedwar cam allweddol (gweler isod). Rydym yn gweithio ar gam 1 ar hyn o bryd.
Cam 1 – Gwaith arolygu a chasglu gwybodaeth (cam presennol):
Mae’r cam hwn yn cynnwys cynnal yr holl waith arolygu angenrheidiol ar y safle, fel arolygon coed, ecoleg a chyflwr safle. Maent yn dweud popeth sydd angen i ni ei wybod am y safle i helpu i lunio dyluniad y datblygiad arfaethedig. Dechreuodd y rhain yn 2025 a byddant yn parhau tan ddechrau 2026.
Cam 2 – Cyfleoedd a chyfyngiadau:
Mae hyn yn cynnwys defnyddio’r gwaith arolygu i nodi’r cyfleoedd a’r cyfyngiadau ar y safle a chynnig rhai syniadau cychwynnol a dyluniadau cynnar ar gyfer y datblygiad arfaethedig. Byddwn yn cael adborth ar y syniadau hyn gan y gymuned ac amrywiaeth o arbenigwyr technegol, er mwyn gallu datblygu’r opsiwn a ffefrir ar gyfer y dyluniad. Byddwn yn anelu at gwblhau’r cam hwn yn hanner cyntaf 2026.
Cam 3 – Opsiwn a ffefrir:
Mae’r cam hwn yn cynnwys datblygu’r opsiwn a ffefrir yn fanylach, yn barod ar gyfer cais cynllunio. Bydd y cam hwn yn cynnwys Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio (YCY) gyda’r gymuned a rhanddeiliaid eraill. Mae wedi ei drefnu ar gyfer 2026.
Cam 4 – Cais Cynllunio:
Yn dilyn hynny, cyflwynir cais cynllunio ar gyfer y datblygiad arfaethedig, er mwyn i’r gymuned a rhanddeiliaid eraill gael cyfle i wneud sylwadau pellach ar y cynigion. Mae hyn wedi’i drefnu ar gyfer diwedd 2026.
Sut gall y gymuned gymryd rhan?
Ar ôl i ni gwblhau syniadau cychwynnol a dyluniadau cynnar ar gyfer y datblygiad arfaethedig. Byddwn yn cael adborth ar y syniadau hyn gan y gymuned ac amrywiaeth o arbenigwyr technegol, er mwyn gallu datblygu’r opsiwn a ffefrir ar gyfer y dyluniad. Byddwn yn rhoi gwybod i drigolion am y gweithgaredd hwn drwy lythyr at eich drws, i’r rhai sy’n byw gerllaw ac yn diweddaru’r wefan a’r cyfryngau cymdeithasol yn ystod 2026.
Yn dilyn yr uchod, byddwn yn datblygu’r opsiwn a ffefrir yn fanylach, yn barod ar gyfer cais cynllunio. Mae’r cam hwn yn cynnwys Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio (YCY) gyda’r gymuned a rhanddeiliaid eraill. Byddwn yn rhoi gwybod i drigolion am y gweithgaredd hwn drwy lythyr at eich drws, i’r rhai sy’n byw gerllaw ac yn diweddaru’r wefan a’r cyfryngau cymdeithasol.
Yn dilyn hynny, cyflwynir cais cynllunio ar gyfer y datblygiad arfaethedig, er mwyn i’r gymuned a rhanddeiliaid eraill gael cyfle i wneud sylwadau pellach ar y cynigion.
Cysylltwch â ni
Os oes gennych gwestiynau neu bryderon am y prosiect hwn, cysylltwch â ni.