Mae’r prosiect wedi ei gwblhau.

Llwyddodd Llyfrgell Rhydypennau i sicrhau cyllid trwy gronfa MALD Llywodraeth Cymru a’r Gronfa Gofal Integredig i greu Hyb newydd Rhydypennau. Nod y gwaith i ehangu ac adnewyddu’r adeilad yw bodloni anghenion y gymuned a helpu i sicrhau bod y cyfleuster gwerthfawr hwn yn parhau i fod yn gynaliadwy.
Dechreuodd y gwaith ym mis Ionawr 2020 a’i gwblhau ym mis Medi 2020. Mae’n gamp aruthrol o ystyried y pandemig byd-eang a’r cyfyngiadau oedd ar waith yn ystod y prosiect.
Roedd y gwaith adfywio’n cynnwys:
- Gwella hygyrchedd a golwg y fynedfa.
- Addnewyddu y tu mewn i ardal y plant, prif le’r Hyb a’r toiledau.
- Desg newydd yn y dderbynfa.
- Estyniad ar gyfer ystafell gymunedol newydd sbon.
- Dodrefn newydd
- Addurno’r tu mewn a chodi arwyddion sy’n ystyriol o bobl gyda dementia.
- Sgrîn daflunio newydd a system sain ar gyfer nosweithiau ffilmiau a chyflwyniadau.
- Cyfleusterau parcio hygyrch.
Gwybodaeth Gyswllt
Hyb Rhydypennau
Heol Llandennis,
Cyncoed,
Caerdydd
CF23 6EG
029 2087 1330
Mae Hyb Rhydypennau bellach ar agor i’r cyhoedd ac yn gweithredu o dan gyfyngiadau Covid-19. Ar gyfer oriau agor, neu i gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Cyngor Caerdydd.