Mae’r prosiect wedi ei gwblhau.



Mae’r gwaith adnewyddu i Lyfrgell Rhiwbeina bellach wedi’i gwblhau sydd wedi ei thrawsnewid yn ganolfan lles cymunedol newydd. Dyma’r diweddaraf yn rhwydwaith y Ddinas o Hybiau Cymunedol sy’n cynnig gwasanaethau llyfrgell a hyb ar y cyd.
Derbyniodd y cynllun gyllid gan Gronfa Gofal Integredig (CGI) Llywodraeth Cymru, Cronfa Integreiddio ac Ailgydbwyso Gofal (CIAG) ac IAALl (Is-adran Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd) sydd wedi galluogi i’r adeilad gael ei uwchraddio’n gyfleuster cymunedol addas i’r diben. Bydd darparu ystafelloedd cymunedol newydd, ystafelloedd cyfarfod ac ardaloedd cyfweld yn cefnogi cydleoli gwasanaethau iechyd, tai a gofal cymdeithasol tra hefyd yn galluogi defnydd cymunedol ehangach.
Mae’r gwaith adnewyddu’n cynnwys:
- Cyfleusterau derbynfa newydd a gwell
- Ailaddurno mewnol sy’n deall dementia ledled y gofod cyhoeddus yno, gan gynnwys silffoedd llyfrgell a mannau eistedd newydd
- Gofod cyfarfod ychwanegol ar gyfer darparu gwasanaethau a gweithgareddau cymunedol
- Toiledau cyhoeddus wedi’u hadnewyddu i fodloni’r safonau hygyrchedd diweddaraf
- Ystafell gyfrifiadurol newydd gyda gwell cyfleusterau TG ac Wi-Fi
- Creu man awyr agored deniadol y gall pawb ei ddefnyddio
- Gwella gweddau allanol yr adeilad.
Statws cyfredol
Mae’r gwaith erbyn hyn wedi ei orffen a’r cyfleuster newydd ar agor i’r cyhoedd.
Yr oriau agor yw:
- Dydd Llun 10am – 7pm
- Dydd Mawrth Ar gau
- Dydd Mercher 9 – 6
- Dydd Iau 9 – 6
- Dydd Gwener 9 – 6
- Dydd Sadwrn 9 – 5.30
Rhif ffôn: 02920 693276
Am fwy o wybodaeth, ewch i Hyb Rhiwbeina Hybiau Caerdydd
Cysylltwch â ni
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon am ddiweddariadau am Hyb Rhiwbeina, cysylltwch â ni.