Mae’r prosiect wedi ei gwblhau.

Delwedd awyrol o’r parc sglefrio wedi’i gwblhau. An aerial image of the completed skate park
Funded by UK Government logo

Mae’r Cynllun Adnewyddu Cymdogaethau yn fenter ledled y ddinas sy’n ceisio mynd i’r afael â blaenoriaethau adfywio lleol. Mae’r rhaglen yn darparu prosiectau adfywio a gyflwynwyd gan Aelodau Lleol.   Mae prosiectau wedi’u cynllunio a’u datblygu mewn partneriaeth â thrigolion lleol, grwpiau cymunedol ac asiantaethau i fynd i’r afael ag angen neu broblem a nodwyd.

Yn dilyn syniadau a gyflwynwyd gan Aelodau Ward Lleol a sylwadau a dderbyniwyd yn ystod y broses ymgysylltu â’r cyhoedd yn 2024, mae Cyngor Caerdydd yn falch o gyhoeddi ein bod yn agor y parc sglefrio newydd ym Mharc Coed y Nant.

Agorwyd y parc sglefrio yn ffurfiol yn Haf 2025. Disgwylir i seddi a biniau newydd gael eu hychwanegu yng Ngwanwyn 2026.

Cysylltwch â ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon am y prosiect hwn, cysylltwch â ni.





    Lleoliad