Mae’r prosiect wedi ei gwblhau.


Mae’r Cynllun Adnewyddu Cymdogaethau yn fenter ledled y ddinas sy’n ceisio mynd i’r afael â blaenoriaethau adfywio lleol. Mae’r rhaglen yn darparu prosiectau adfywio ar raddfa fach a gyflwynwyd gan Aelodau Lleol. Mae prosiectau wedi’u cynllunio a’u datblygu mewn partneriaeth â thrigolion lleol, grwpiau cymunedol ac asiantaethau i fynd i’r afael ag angen neu broblem a nodwyd.
Yn dilyn syniadau a gyflwynwyd gan Aelodau Ward Lleol a sylwadau a dderbyniwyd yn ystod y broses ymgysylltu â’r cyhoedd yn 2024, mae Cyngor Caerdydd yn falch o gyhoeddi ein bod yn agor yr ardal chwarae i blant newydd, ger Neuadd Llanrhymni.
Cysylltwch â ni
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon am y prosiect hwn, cysylltwch â ni.