Mae’r prosiect wedi ei gwblhau.


Mae’r Cynllun Adnewyddu Cymdogaethau yn fenter ledled y ddinas sy’n ceisio mynd i’r afael â blaenoriaethau adfywio lleol. Mae’r rhaglen yn darparu prosiectau adfywio ar raddfa fach a gyflwynwyd gan Aelodau Lleol. Mae prosiectau wedi’u cynllunio a’u datblygu mewn partneriaeth â thrigolion lleol, grwpiau cymunedol ac asiantaethau i fynd i’r afael ag angen neu broblem a nodwyd.
Yn dilyn syniadau a gyflwynwyd gan Aelodau’r Ward Lleol a’r sylwadau a dderbyniwyd mewn digwyddiad ymgysylltu a gynhaliwyd yn 2024, mae’r ardal chwarae newydd ym Mharc y Sblot, sydd â thema gemau a phosau, bellach yn cynnig cyfarpar i blant bach, plant a phobl ifanc yn ogystal ag offer chwarae hygyrch ac ardaloedd chwarae naturiol.
Cynhaliwyd digwyddiad agoriadol ar 18 Gorffennaf i agor yr ardal chwarae newydd yn swyddogol.
Cysylltwch â ni
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon am y prosiect hwn, cysylltwch â ni.