Mae’r prosiect wedi ei gwblhau.

Agorodd Hyb Cymunedol Llanisien newydd ei ddrysau i’r cyhoedd ym mis Rhagfyr 2017.
Mae ar lawr gwaelod gorsaf Heddlu Llanisien yng nghanol Pentref Llanisien, ac mae’r adeilad ar ei newydd wedd yn ganlyniad i waith partneriaeth rhwng Cyngor Caerdydd a Chomisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru i ddod ag amrywiaeth ehangach o gyngor, gwybodaeth a gwasanaethau’r Cyngor i’r gymuned leol.
Mae’r Hyb yn cynnig cartref newydd ar gyfer Llyfrgell Llanisien gydag ardal ddisglair a chroesawgar i blant yn ogystal â’n gwasanaethau Hyb arferol.
Mae gan Hyb Llanisien ddigon i’w gynnig. Mae staff wedi’u hyfforddi wrth law i’ch helpu i ddefnyddio amrywiaeth eang o wasanaethau a chyfleusterau gan gynnwys:
- Gwasanaeth llyfrgell, gan gynnwys ardal dawel a lle ar gyfer digwyddiadau plant.
- Gwasanaethau tai, budd-daliadau a chynghori
- Mynediad i’r rhyngrwyd, cyfrifiaduron a chysylltiad Wi-Fi am ddim
- Ffonau am ddim er mwyn cysylltu â’r Cyngor a gwasanaethau eraill
- Cyrsiau hyfforddi a chyngor i mewn i waith
- Ystafell Hyfforddiant TGCh/ystafelloedd cyfweld preifat
- Ystafelloedd ar gyfer cyfarfodydd a digwyddiadau cymunedol
- Cymorth a chyngor arbenigol gan sefydliadau partner
Gwybodaeth Gyswllt
Hyb Llanisien
11 Heol yr Orsaf,
Caerdydd
CF14 5LS
029 2087 1060
Ar gyfer oriau agor, neu i gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Cyngor Caerdydd neu dudalen Facebook Hyb Llanisien.











