Mae’r prosiect wedi ei gwblhau.

Cafodd Llyfrgell Llaneirwg ei hymestyn a chrëwyd dwy ystafell hyfforddi a chyfweld newydd yn rhan o Gyfnod 1 y cynllun. Cwblhawyd y cyfnod cyntaf yn hwyr yn 2015 ac mae’r hyb bellach yn cynnig ystod o gyngor, gwybodaeth a gwasanaethau cymunedol.
Cwblhawyd estyniad Cam 2 mwy o faint yn haf 2018 ac mae wedi galluogi dwyn pob gwasanaeth cymunedol yn Llaneirwg ynghyd mewn un cyfleuster integredig.
Mae gan Hyb Llaneirwg ddigon i’w gynnig. Mae staff wedi’u hyfforddi wrth law i’ch helpu i ddefnyddio amrywiaeth eang o wasanaethau a chyfleusterau gan gynnwys:
- Llyfrgell gydag ardal i blant a chyfrifiaduron i’r cyhoedd
 - Rhyngrwyd a chysylltiad diwifr am ddim
 - Hyb Cynghori’r Cyngor, gan gynnwys gwasanaethau tai a budd-daliadau
 - Ffonau am ddim i’w defnyddio ar gyfer cyswllt uniongyrchol â gwasanaethau eraill y Cyngor a phartneriaid
 - Ystafell hyfforddi TG
 - Cyngor i Mewn i Waith a Hyfforddiant
 - Ystafelloedd y gellir eu defnyddio ar gyfer amrywiaeth o ddigwyddiadau cymdeithasol a chymunedol
 - Ystafelloedd cyfarfod preifat
 - Cyfleusterau gofal plant Dechrau’n Deg
 - Cwtsh pobl ifanc
 - Ardal Gemau Aml-ddefnydd Awyr Agored;
 - Neuadd gymunedol sy’n addas ar gyfer chwaraeon dan do a digwyddiadau cymunedol mawr
 - Stiwdio gerdd
 - Ystafelloedd newid ar gyfer chwaraeon
 - Caffi cymunedol
 - Digon o lefydd parcio
 
Gwybodaeth Gyswllt
30 Crickhowell Road,
Llaneirwg,
Caerdydd
CF3 0EF
029 2078 0992
Ar gyfer oriau agor, neu i gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Cyngor Caerdydd neu dudalen Facebook Hyb Llaneirwg.
					
					
















