Mae’r prosiect wedi ei gwblhau.

Mae cynllun adnewyddu wedi trawsnewid yr hen lyfrgell ar Lawnt y Tyllgoed yn Hyb Cymunedol braf, deniadol.
Agorodd yr Hyb newydd ym mis Gorffennaf 2016 ac mae’n cynnig ystod o gyngor, gwybodaeth a gwasanaethau llyfrgell o’r un cyfleuster.
Mae gan Hyb Cymunedol y Tyllgoed ddigon i’w gynnig. Mae staff wedi’u hyfforddi wrth law i’ch helpu i ddefnyddio amrywiaeth eang o wasanaethau’r Cyngor a phartneriaid, gan gynnwys:
- Llyfrgell gydag ardal i blant
- Defnydd o’r rhyngrwyd a chyfrifiaduron am ddim
- Llungopïo, sganio ac argraffu
- Gwasanaethau cyngor a gwybodaeth gan gynnwys cyngor ar dai, budd-daliadau ac arian
- Llogi ystafell gyfarfod gymunedol
Gwybodaeth Gyswllt
Hyb y Tyllgoed,
Doyle Avenue,
Caerdydd
CF5 3HU
029 2078 5583
Ar gyfer oriau agor, neu i gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Cyngor Caerdydd neu dudalen Facebook Hyb y Tyllgoed.
Lleoliad
Postiwyd ar Rhagfyr 21, 2021