Mae’r prosiect wedi ei gwblhau.

Agorodd yr Hyb newydd ar gyfer Grangetown ei ddrysau i’r cyhoedd ym mis Chwefror 2017.
Roedd gwaith creu’r Hyb yn cynnwys ychwanegu estyniad modern i adeilad presennol y llyfrgell sy’n rhoi llawer mwy o le.
Mae gan Hyb Cymunedol Grangetown ddigon i’w gynnig. Mae staff wedi’u hyfforddi wrth law i’ch helpu i ddefnyddio amrywiaeth eang o wasanaethau’r Cyngor a phartneriaid, gan gynnwys:
- Mynediad i’r rhyngrwyd, cyfrifiaduron a chysylltiad Wi-Fi am ddim
- Gwasanaeth tai a budd-daliadau
- Gwasanaethau llyfrgell cyflawn, gan gynnwys ardal dawel a lle ar gyfer digwyddiadau plant.
- Ystafell TG
- Ffonau am ddim er mwyn cysylltu â’r Cyngor a gwasanaethau eraill
- Cyngor i mewn i Waith a Chyngor ar Arian
- Ystafell Gymunedol
- Cynghorwyr Canolfan Cyngor ar Bopeth
- Ystafelloedd cyfweld preifat
Gwybodaeth Gyswllt
Hyb Grangetown
Havelock Place,
Grangetown,
Caerdydd
CF11 6PA
029 2078 0966
Ar gyfer oriau agor, neu i gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Cyngor Caerdydd neu dudalen Facebook Hyb Grangetown.
Lleoliad
Postiwyd ar Rhagfyr 21, 2021











