Mae’r prosiect wedi ei gwblhau.

Mae Grangetown yn gymdogaeth sydd wedi’i lleoli ar gyrion Canol y Ddinas ac Ardal Fenter Caerdydd. Mae ganddi gymuned sefydledig gref ond mae amrywiaeth o heriau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol yn ei hwynebu.
Mae’r rhaglen adfywio hon, a ariannwyd ar y cyd gan Gyngor Dinas Caerdydd a’r gronfa Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid i Drechu Tlodi, yn cynnwys pecyn integredig o brojectau buddsoddi cyfalaf sy’n canolbwyntio ar Ganolfan Ardal Grangetown, gyda’r nod o adfywio calon gymdeithasol ac economaidd y gymuned.
Gwaith a gwblhawyd
Rhoddodd y cynllun hwn gymorth i fusnesau lleol i’w gwneud yn fwy deniadol a hygyrch i gwsmeriaid. Ei nod oedd cryfhau gweithgarwch busnes a gwella ymddangosiad ffisegol yr ardal siopa drwy wella golwg y busnesau masnachol.
Bydd buddsoddiad mewn safleoedd masnachol yn helpu i gadw a chreu swyddi lleol yn ogystal â diogelu a chynnal siopau a gwasanaethau lleol y mae teuluoedd incwm isel a theuluoedd sy’n agored i niwed yn ddibynnol arnynt.
Cynhaliwyd gwaith adnewyddu ar flaenau siopau yn yr ardal gan gynnwys eiddo ar Heol Clare, Heol Penarth a Paget Street.
Gwelliannau Amgylcheddol
Nod y project hwn oedd trawsnewid amgylchedd y Ganolfan Ardal a’i adfer i fod yn fan sy’n galon i’r gymuned. Y nod oedd gwneud yr ardal yn rhywle sy’n addas i gerddwyr, gyda phalmentydd gwell, mannau agored, gwaith tirlunio, mannau croesi diogel ac arwyddion gwell, a fydd yn cynyddu nifer yr ymwelwyr ac yn cefnogi busnesau lleol.
Bydd o fudd penodol i deuluoedd incwm isel nad ydynt yn berchen ar gar i’w galluogi i gael mynediad i siopau lleol, ysgolion, meddygfeydd, gwasanaethau ac amwynderau cymunedol.