Mae’r prosiect wedi ei gwblhau.

Cafodd cyllid adfywio ei sicrhau gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Caerdydd i wneud gwaith adnewyddu mewnol ac allanol i’r cyfleuster ieuenctid presennol er mwyn cynnig hyb cyngor a gwybodaeth cynllun agored i ddiwallu anghenion pobl ifanc yn Butetown.
Roedd yr adeilad blaenorol yn cynnwys cyfleusterau hamdden a chymdeithasol, gyda neuadd chwaraeon, ystafelloedd recordio cerddoriaeth a stiwdio dawns. Bydd y gwelliannau yn galluogi defnydd cyffredinol y Hyb Ieuenctid i gynyddu trwy ehangu cysylltiadau â’r sector diwydiannau creadigol mewn meysydd megis creu a golygu ffilmiau, cerddoriaeth a dawns.
Gwnaed addasiadau a gwelliannau sylweddol i’r adeilad, gan gynnwys ailfodelu rhan o’r llawr gwaelod i greu amgylchedd agored a chynhwysol. Cynhaliwyd sesiynau ymgynghori gyda phobl ifanc i helpu i adlunio’r ardal gymdeithasol ieuenctid.
Roedd y gwaith adfywio’n cynnwys:
- Gwella gwedd flaen yr adeilad gan gynnwys gosod arwyddion newydd
- Derbynfa newydd
- Lle hyb cynllun agored gydag ardaloedd cyfarfod anffurfiol a darpariaeth TG
- Ardal gymdeithasol ieuenctid wedi’i hadlunio
- Ail-leoli’r cyfleuster crèche
- Diweddaru’r stiwdio recordio cerddoriaeth
- Darparu ystafell golygu ffilmiau
- Darparu ystafelloedd hyfforddiant, ystafelloedd cyfarfod ac ystafelloedd cyfweld
- Arwyddion a logo newydd er mwyn rhoi hunaniaeth newydd i’r adeilad
- Ardal batio newydd ger ochr yr adeilad
Cwblhawyd y gwaith adnewyddu ym mis Mawrth 2020. Mae ailfodelu’r adeilad wedi trawsffurfio’r lleoliad yn hyb ieuenctid a fydd yn ein galluogi i gynnig mwy o wasanaethau, gan gynnwys cyngor ar gyflogaeth, datblygu sgiliau, hyfforddiant a gwirfoddoli, gyda ffocws penodol ar y diwydiannau creadigol.
Gwybodaeth Gyswllt
Pafiliwn Butetown
Heol Dumballs,
Butetown,
Caerdydd
CF10 5FE
029 2048 8666
Ar gyfer oriau agor, neu i gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Cyngor Caerdydd neu dudalen Facebook Pafiliwn Butetown.