Balchder Bro - Logo Cymraeg

Mae ardal Trelái a Chaerau wedi cael ei dewis ar gyfer Rhaglen Balchder Bro Llywodraeth y DU — menter 10 mlynedd sy’n buddsoddi’n uniongyrchol mewn cymdogaethau, gan roi’r pŵer i bobl leol lunio prosiectau, cryfhau eu cymunedau, a chreu lleoedd ffyniannus.

Rydym yn chwilio am Gadeirydd Bwrdd Cymdogaeth i ddarparu arweinyddiaeth annibynnol ar gyfer y Rhaglen Balchder Bro yn Nhrelái a Chaerau, fydd yn goruchwylio cronfa fuddsoddi gwerth £20 miliwn a sicrhau bod penderfyniadau’n cael eu gyrru gan flaenoriaethau trigolion a chymunedau.

Mae hwn yn gyfle unigryw i gefnogi newid hirdymor, dod â phobl at ei gilydd, a helpu lleisiau lleol i lunio dyfodol eu hardal.

I gael rhagor o wybodaeth am Balchder Bro a rôl Cadeirydd y Bwrdd Cymdogaeth, gweler Prosbectws y Rhaglen Balchder Bro

E-bostiwch balchderbro@caerdydd.gov.uk os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y cynllun

Llenwch Ffurflen Mynegi Diddordeb erbyn 06/04/2026

Mae’r Rhaglen Balchder Bro yn Fenter llywodraeth sy’n darparu buddsoddiad hirdymor yn uniongyrchol i gymdogaethau, gan alluogi pobl leol a grwpiau cymunedol i lunio a chyflawni prosiectau sy’n adeiladu cymunedau cryfach, creu lleoedd ffyniannus, ac yn rhoi llais ystyrlon i drigolion ar ddyfodol eu hardal.

Bydd Cadeirydd y Bwrdd Cymdogaeth yn rhoi arweinyddiaeth annibynnol i’r Rhaglen Balchder Bro yn Nhrelái a Chaerau, gan oruchwylio’r gwaith o reoli cronfa fuddsoddi cymdogaeth gwerth £20 miliwn dros y 10 mlynedd nesaf.

Bydd y Cadeirydd yn gweithredu fel pencampwr dros Drelái a Chaerau a’r preswylwyr yno, gan sicrhau bod y broses o wneud penderfyniadau yn cael ei arwain gan y gymuned a bod y Rhaglen yn cynnig manteision cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol parhaol.

Bydd y Cadeirydd yn cynnull ac yn arwain y Bwrdd Cymdogaeth, yn darparu
goruchwyliaeth strategol, ac yn cefnogi ymgysylltu fel bod pobl leol yn cael llais
uniongyrchol wrth lunio dyfodol eu hardal. Mae hwn yn gyfle unigryw i gryfhau
cymunedau, creu lleoedd ffyniannus, a grymuso trigolion i gymryd rheolaeth o’u
cymdogaeth.

Disgwylir i hon fod yn rôl wirfoddol, yn debyg i rôl llywodraethwr ysgol neu ymddiriedolwr elusen. Fodd bynnag, er mwyn sicrhau bod gan Fyrddau Cymdogaeth yr arweinyddiaeth gywir, ac i agor y swydd i ymgeiswyr na fyddent fel arall yn gallu cyflwyno eu hunain, gellir darparu taliad sylfaenol bach o gyllid capasiti pwrpasol y rhaglen i dalu am amser y Cadeirydd.

Bydd y swydd am dymor sefydlog cychwynnol o 2 flynedd gyda’r posibilrwydd o ymestyn wedi’r cyfnod cychwynnol.

Yr hyn yr ydym yn chwilio amdano

  • Arweinydd uchel ei barch gyda chysylltiadau cryf, sefydledig â’r ardal.
  • Unigolyn sy’n poeni’n ddwfn am y gymuned leol a’i dyfodol.
  • Darparu arweinyddiaeth strategol a goruchwyliaeth ddiduedd dros y rhaglen.
  • Cyfathrebwr hyderus sy’n gallu uno pobl, adeiladu perthnasoedd, ac
    annog cydweithio.
  • Rhywun sydd wedi ymrwymo i degwch, cynhwysiant, a sicrhau bod
    penderfyniadau’n cael eu llunio gan drigolion.
  • Yn gallu adeiladu pwrpas a rennir a meithrin cydgytundeb ynghylch cenhadaeth y Bwrdd i wella’r ardal.
  • Yn fedrus wrth ddod i gonsensws, gan ymdrin ag anghytuno yn ddigynnwrf a
    diduedd, a chynnal ffocws ar gynnydd.
  • Yn gallu uno grwpiau cymunedol a rhoi ymgysylltu â’r gymuned wrth wraidd
    y rhaglen.
  • Yn meddwl yn greadigol ac yn ochrol wrth ddatrys problemau a dod o hyd i ffyrdd ystyrlon o gynnwys lleisiau lleol.

Sgiliau a phriodoleddau Cadeirydd da:

  • Teg a chytbwys, gan sicrhau bod pob llais yn cael ei glywed
  • Da am hwyluso sgyrsiau, yn enwedig pan fo gwahaniaethau barn
    yn dod i’r amlwg
  • Yn agored i ddysgu, i adborth a datblygiad, a diddordeb mewn mentora ac
    uwchsgilio eraill
  • Yn groesawgar, agored a gwrando’n ddwys ar eraill
  • Digynnwrf o dan bwysau a rheoli gwrthdaro yn dda
  • Amser ganddo i flaenoriaethu’r rôl

Prif gyfrifoldebau:

  • Helpu i recriwtio a dod â Bwrdd Cymdogaeth at ei gilydd sy’n cynnwys
    mwyafrif y gynrychiolaeth o blith trigolion lleol.
  • Arwain a chadeirio’r Bwrdd, gan sicrhau llywodraethiant cryf a chydweithio
    effeithiol.
  • Gweithredu fel pencampwr i’r gymuned, gan sicrhau bod lleisiau lleol yn
    siapio gwneud penderfyniadau.
  • Sicrhau yn rhagweithiol bod lleisiau’r gymuned sydd wedi’u thangynrychioli yn cael eu cynnwys ac y gwrandewir arnynt.
  • Goruchwylio datblygiad y Cynllun Balchder Bro sy’n gosod gweledigaeth y
    buddsoddiad, dros y 10 mlynedd nesaf ar gyfer yr ardal.
Consultation event for Cowbridge Road East. Staff member speaking to member of public.
Consultation Event
Consultation Event