{"id":1877,"date":"2021-12-31T15:39:04","date_gmt":"2021-12-31T15:39:04","guid":{"rendered":"https:\/\/housing.cardiffcouncilwebteam.co.uk\/?page_id=1877"},"modified":"2025-06-19T10:38:01","modified_gmt":"2025-06-19T10:38:01","slug":"telerau-ac-amodau","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/www.devandregencardiff.co.uk\/cy\/tai\/cartrefi-cyntaf-caerdydd\/telerau-ac-amodau\/","title":{"rendered":"Telerau ac Amodau"},"content":{"rendered":"<div class=\"wpb-content-wrapper\"><p>[vc_row][vc_column][vc_single_image image=&#8221;1787&#8243; css_animation=&#8221;fadeIn&#8221;][\/vc_column][\/vc_row][vc_row css=&#8221;.vc_custom_1641895391010{padding-top: 35px !important;}&#8221;][vc_column][vc_tta_accordion color=&#8221;blue&#8221; spacing=&#8221;10&#8243; gap=&#8221;15&#8243; active_section=&#8221;12&#8243;][vc_tta_section title=&#8221;Rheolau a Meini Prawf ein Cynllun&#8221; tab_id=&#8221;scheme&#8221;][vc_column_text css=&#8221;&#8221;]<\/p>\n<ol>\n<li>Mae Cartrefi Cyntaf Caerdydd yn gyfle i brynu cyfrannau ecwiti, a weinyddir gan Gyngor Caerdydd.<\/li>\n<li>Mae&#8217;r cynllun ar gael i brynwyr tro cyntaf sy&#8217;n byw neu&#8217;n gweithio yng Nghaerdydd ers y chwe mis diwethaf o leiaf, i weithwyr allweddol sy&#8217;n symud i Gaerdydd ar gyfer swydd ac i&#8217;r rheini sy&#8217;n symud i Gaerdydd am resymau proffesiynol neu bersonol. Byddai ymgeiswyr sy\u2019n gadael y Lluoedd Arfog yn gymwys ar gyfer y cynllun os oeddent yn byw yng Nghaerdydd am o leiaf 6 mis cyn ymuno \u00e2\u2019r Lluoedd Arfog. Nid yw ar gael i\u2019r rheini sydd \u00e2 buddiant ariannol mewn eiddo (h.y. mae eu henw ar y gweithredoedd, neu&#8217;r morgais) neu sy\u2019n elwa o unrhyw gynllun perchentyaeth arall. Gellir ystyried prynwyr tro cyntaf yn eu rhinwedd eu hunain hefyd. Cyfeiriwch at y rhestr lawn o feini prawf cymhwysedd yma (<u>dolen i\u2019r meini prawf cymhwysedd<\/u>).<\/li>\n<li>Gellir amrywio meini prawf cymhwysedd y cynllun ar gyfer unrhyw gynllun beilot neu fenter sy&#8217;n targedu gr\u0175p penodol o gleientiaid, er enghraifft, cynllun person h\u0177n.<\/li>\n<li>Bydd y cynllun yn darparu nifer o dai fforddiadwy newydd o ansawdd uchel i&#8217;w prynu ar amrywiaeth o safleoedd datblygu ledled y ddinas. Bydd rhai o&#8217;r eiddo hyn yn cael eu hadeiladu gan ddatblygwyr preifat y farchnad agored a bydd rhai&#8217;n cael eu hadeiladu fel rhan o raglenni tai newydd y Cyngor ei hun, sy&#8217;n cynnwys <em>&#8216;Cartrefi Caerdydd<\/em>&#8216;. Yn ogystal, bydd eiddo ailwerthu ar gael pan fydd perchnogion presennol yn dymuno symud ymlaen.<\/li>\n<li>Mae cynllun rhannu ecwiti Cartrefi Cyntaf Caerdydd ar gael i aelwydydd na allant fforddio prynu eiddo addas ar y farchnad agored, ond sy&#8217;n gallu codi morgais i brynu fel arfer 70% o werth marchnad yr eiddo hyn. Gallai&#8217;r ganran sydd ar gael i&#8217;w phrynu fod yn is neu\u2019n uwch ar rai cartrefi.<\/li>\n<li>Dim ond lleiniau penodol ar ddatblygiadau neu eiddo ailwerthu sydd wedi&#8217;u cynnwys yng Nghynllun Cartrefi Cyntaf Caerdydd a fydd ar gael i&#8217;w prynu drwy&#8217;r cynllun.<\/li>\n<li>I gael eu hystyried ar gyfer eiddo, rhaid i ymgeiswyr gyflwyno ffurflen gais wedi&#8217;i chwblhau&#8217;n llawn ynghyd \u00e2 thystiolaeth ategol, gan gynnwys Tystysgrif Morgais mewn Egwyddor ddilys ac o leiaf blaendal o 5% o&#8217;r pris prynu gostyngedig drwy e-bost YN UNIG i&#8217;r cyfeiriad e-bost perthnasol ar yr hysbyseb a gyhoeddwyd (ni ellir derbyn cop\u00efau caled). RHAID i ffurflenni gael eu llofnodi a\u2019u sganio a bod ar ffurf PDF &#8211; ni all y Cyngor dderbyn fersiynau MICROSOFT WORD na llofnodion electronig.<\/li>\n<li>Gan fod nifer yr eiddo a hysbysebir drwy&#8217;r cynllun yn gyfyngedig, cynigir enwebiadau yn nhrefn y ceisiadau a dderbyniwyd (ond dim ond ar \u00f4l derbyn ffurflen gais wedi&#8217;i chwblhau&#8217;n llawn a&#8217;r HOLL dystiolaeth ofynnol).<\/li>\n<li>Gall ymgeiswyr fynegi eu bod yn ffafrio math o eiddo a\/neu lain ar safleoedd datblygu newydd. Fodd bynnag, bydd maint eiddo a lefelau meddiannaeth yn cael eu hystyried wrth asesu enwebiadau ar gyfer y cynllun. Ni ellir ystyried ceisiadau a fyddai&#8217;n arwain at dai gorlawn.<\/li>\n<li>Mae ceisiadau yn benodol i&#8217;r safle neu&#8217;r eiddo (os yw&#8217;n eiddo ailwerthu) a dim ond ar gyfer y safle datblygu neu\u2019r eiddo ailwerthu a nodwyd y c\u00e2nt eu hystyried. I gael eu hystyried ar gyfer eiddo neu safleoedd datblygu eraill sy&#8217;n dod ar gael dan Gynllun Cartrefi Cyntaf Caerdydd yn y dyfodol, bydd angen i ymgeiswyr gwblhau ffurflen gais ar wah\u00e2n.<\/li>\n<li>Dim ond pan fydd wedi&#8217;i gwblhau\u2019n llawn, wedi\u2019i lofnodi ac wedi\u2019i gyflwyno gyda&#8217;r holl wybodaeth berthnasol y bydd y Cyngor yn derbyn cais. Rhaid cwblhau a llofnodi ffurflen cydsyniad trydydd parti hefyd \u2013 mae hyn er mwyn i\u2019r Cyngor allu anfon gwybodaeth sy&#8217;n berthnasol i&#8217;ch pryniant at syrfewyr prisio, datblygwyr preifat a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig\/Cymdeithasau Tai (lle y bo hynny&#8217;n berthnasol).<\/li>\n<li>Os yw ymgeiswyr yn gwneud cais am eiddo lle mae Cymdeithas Dai yn dal y gyfran ecwiti, byddant yn cael gwybod am hyn a bydd y Gymdeithas Dai yn rheoli\u2019r broses gwneud cais a&#8217;r pryniant.<\/li>\n<li>Ar \u00f4l ei gyflwyno, anfonir e-bost at ymgeiswyr yn cadarnhau bod eu cais wedi\u2019u derbyn.<\/li>\n<li>Os nad yw cais yn gymwys neu os yw&#8217;n anghyflawn, cysylltir ag ymgeiswyr gyda rhestr o dystiolaeth\/gwybodaeth sy&#8217;n ofynnol. Ni ellir prosesu\u2019r cais nes bod yr holl dystiolaeth sydd heb ei chyflwyno wedi dod i law.<\/li>\n<li><u>SYLWER<\/u> NID YW\u2019R FFAITH BOD EICH CAIS WEDI DOD I LAW YN GOLYGU Y BYDD EICH CAIS YN LLWYDDIANNUS AC YN CAEL ENWEBIAD \u00c2 BLAENORIAETH.<\/li>\n<li>Bydd y Cyngor yn ei gwneud yn ofynnol i ymgeiswyr gyflwyno tystysgrif Morgais mewn Egwyddor ddilys, neu gyfwerth, gyda&#8217;u cais, ynghyd \u00e2 thystiolaeth o flaendal 5% o leiaf o&#8217;r pris prynu gostyngedig.<\/li>\n<li>Rhaid i ymgeiswyr sicrhau bod pob ffynhonnell incwm, cyfalaf, cynilion a buddsoddiadau i&#8217;w defnyddio ar gyfer y pryniant yn cael eu datgelu ar y ffurflen gais a\u2019r dystiolaeth berthnasol a gyflwynir.<\/li>\n<li>Bydd methu \u00e2 datgelu unrhyw wybodaeth, sy&#8217;n dod yn hysbys i Gyngor Caerdydd yn ddiweddarach, yn arwain at ganslo\u2019r cais<strong>.<\/strong><\/li>\n<li>Pan fydd ymgeiswyr yn dewis penodi ymgynghorydd ariannol i&#8217;w cynorthwyo yn eu cais a\/neu eu pryniant, bydd y Cyngor yn gofyn am unrhyw eglurhad sy&#8217;n ofynnol yn uniongyrchol gan yr ymgeisydd. Bydd yr ymgynghorydd ariannol yn cael ei ystyried yn drydydd parti.<\/li>\n<li>Bydd ceisiadau&#8217;n cael eu hasesu yn erbyn Polisi Enwebu Cartrefi Cyntaf Caerdydd (gweler y wefan i gael manylion). Ar gyfer cynllun peilot neu fenter sy&#8217;n targedu gr\u0175p penodol o gleientiaid, gellir defnyddio Polisi Enwebu wedi&#8217;i addasu.<\/li>\n<li>Os bydd cais yn llwyddiannus, caiff manylion yr ymgeisydd, ynghyd \u00e2&#8217;i ffurflen Cydsyniad Trydydd Parti, eu hanfon at y datblygwr tai ac adran gyfreithiol y Cyngor, a fydd yn dechrau&#8217;r broses werthu. Yn achos eiddo ailwerthu, bydd manylion yr ymgeisydd yn cael eu hanfon at adran gyfreithiol y Cyngor.<\/li>\n<li>Os ydynt yn prynu drwy forgais, bydd gofyn i ymgeiswyr gyflwyno Cynnig Morgais ffurfiol gan fanc ag enw da, sy&#8217;n nodi&#8217;n glir bod yr eiddo&#8217;n cael ei brynu dan gynllun rhannu ecwiti.<\/li>\n<li>Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw egluro, ac ystyried, yr holl gostau posib sy&#8217;n gysylltiedig \u00e2 phrynu eiddo er enghraifft, Treth Trafodiadau Tir (TTT), swm a chanran blaendal, y Dreth Gyngor, costau cyfreithiol ac ati. Mae TTT yn daladwy ar werth marchnad llawn neu bris 100% yr eiddo.<em> <strong>(Ar ben hynny, mae&#8217;r ymgeisydd yn atebol am y gost TTT gyfan. I gadarnhau, nid yw&#8217;r Cyngor yn atebol i gyfrannu tuag at TTT<\/strong><\/em><strong>.<\/strong><\/li>\n<li>Cyfrifoldeb yr ymgeiswyr hefyd yw egluro gyda&#8217;u benthyciwr morgais faint o flaendal sydd ei angen fel rhan o&#8217;u pryniant (<strong><em>Gall hyn fod yn fwy na gofyniad y cynllun o 5% o&#8217;r pris prynu gostyngedig<\/em><\/strong>).<\/li>\n<li>Os oes unrhyw newidiadau mewn incwm a\/neu os yw unrhyw fanylion eraill yn newid cyn cwblhau&#8217;r pryniant, rhaid i ymgeiswyr hysbysu Cyngor Caerdydd neu&#8217;r Gymdeithas Dai ar unwaith. Gall methu \u00e2 datgelu unrhyw wybodaeth, sy&#8217;n dod yn hysbys i Gyngor Caerdydd neu\u2019r Gymdeithas Dai yn ddiweddarach, yn arwain at ganslo\u2019r cais.<\/li>\n<li>Bydd pob ymgeisydd llwyddiannus yn cael terfyn amser ar gyfer cwblhau ei bryniant gan y Cyngor a\/neu&#8217;r datblygwr tai, neu&#8217;r Gymdeithas Dai, os yw&#8217;n berthnasol. Os nad yw wedi\u2019i gwblhau erbyn y dyddiad penodol, gall Cyngor Caerdydd dynnu&#8217;r cynnig o enwebiad yn \u00f4l, ac ail-enwebu ymgeisydd arall.<\/li>\n<li>Ni all y Cyngor na\u2019r Gymdeithas Dai berthnasol dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am golled ariannol neu anghyfleustra os bydd ymgeisydd yn methu \u00e2 chwblhau gwerthiant am ba bynnag reswm. At hynny, ni all Cyngor Caerdydd ragweld na bod yn gyfrifol am newidiadau i werth llawn eiddo sydd wedi&#8217;u cynnwys yn y cynllun.<\/li>\n<li>Mae angen i Gyngor Caerdydd neu&#8217;r Gymdeithas Dai berthnasol ddiogelu ei fuddiant canrannol yn y &#8216;balans cadw&#8217; o werth yr eiddo drwy gyfrwng ail forgais (a elwir yn ail arwystl) (*mae hyn fel arfer yn 30% ond ar nifer fach o eiddo gall hyn fod yn wahanol). Mae hyn yn golygu bod cyfran ganrannol yr eiddo yn cael ei &#8216;chodi&#8217; gan yr ymgeisydd ar y Cyngor neu&#8217;r Gymdeithas Dai berthnasol, felly mae\u2019r ymgeisydd dan rwymedigaeth i dalu cyfran ganrannol y Cyngor neu\u2019r Gymdeithas Tai o\u2019r gwerth marchnad presennol wrth ailwerthu. Ni fydd y swm a godir ond yn daladwy yn yr achosion canlynol: a) dymuna\u2019r ymgeisydd ailwerthu&#8217;r eiddo\u2019n ddiweddarach, neu b) mae unrhyw un o delerau ail ddogfen forgais y Cyngor yn cael eu torri, neu c) mae Cyngor Caerdydd yn cymeradwyo cais i brynu ei gyfran ganrannol o\u2019r gwerth marchnad llawn (yn amodol ar y cyfnod cymhwyso o 3 blynedd &#8211; gweler pwynt 32 isod). Bydd hawliau morgais Cyngor Caerdydd neu&#8217;r Gymdeithas Dai berthnasol yn cael eu gohirio i forgais Banc\/Cymdeithas Adeiladu&#8217;r ymgeisydd, ac felly ni fyddant yn effeithio ar y gallu i gael morgais.<\/li>\n<li>Ar \u00f4l cwblhau&#8217;r gwerthiant, bydd perchnogion newydd yn berchen ar 100% o&#8217;r teitl cofrestredig ar gyfer yr eiddo, felly nid yw&#8217;r rhent na\u2019r llog yn daladwy ar y gyfran ecwiti sy&#8217;n weddill.<\/li>\n<li>Un o ofynion y cynllun yw bod yn rhaid i berchnogion newydd ddefnyddio&#8217;r eiddo fel eu hunig gartref. I egluro, ni ellir rhentu&#8217;r eiddo.<\/li>\n<li>Bydd angen i unrhyw brynwr sy&#8217;n dymuno gwerthu ei eiddo ar unrhyw adeg ar \u00f4l ei brynu&#8217;n wreiddiol, gynnig ei eiddo i&#8217;w werthu drwy Gynllun Cartrefi Cyntaf Caerdydd fel AILWERTHU. Os na cheir prynwr addas yn ystod y broses ailwerthu, bydd y perchennog yn rhydd i werthu&#8217;r eiddo ar y farchnad agored.<\/li>\n<li>Mae gan berchnogion hawl i brynu cyfran ecwiti a gedwir y Cyngor ar \u00f4l cyfnod cymhwyso o 3 blynedd. Dim ond mewn un &#8216;cyfandaliad&#8217; y gellir prynu hwn a bydd yn seiliedig ar werth marchnad agored yr eiddo ar adeg y cais, ar yr amod bod y pryniant ecwiti yn cael ei gwblhau o fewn 6 mis i&#8217;r dyddiad prisio. Os na chaiff y trafodyn prynu ecwiti ei gwblhau o fewn 6 mis i\u2019r dyddiad prisio, mae&#8217;r Cyngor yn cadw&#8217;r hawl i adolygu&#8217;r prisiad. Fel rhan o sefydlu\u2019r prisiad marchnad agored, bydd manylion cyswllt y perchennog yn ogystal \u00e2 gwybodaeth sy&#8217;n ymwneud \u00e2&#8217;r eiddo yn cael eu hanfon at Brisiwr penodedig cymwys gyda Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig, fel y gellir gwneud trefniadau mynediad priodol i&#8217;r eiddo at ddibenion arolwg. Gall y gallu i brynu\u2019r ecwiti a gedwir hefyd fod ar gael ar rai eiddo Cymdeithasau Tai lle maent yn cadw&#8217;r gyfran ecwiti (gweler pwyntiau 36 a 37 isod).<\/li>\n<li>Mae Cyngor Caerdydd yn cadw&#8217;r hawl i wneud diwygiadau i reolau a meini prawf Cynllun Cartrefi Cyntaf Caerdydd ar sail profiad. Bydd y penderfyniadau a wneir gan Gyngor Caerdydd drwy gydol y cais yn derfynol.<\/li>\n<li>Mae&#8217;r wybodaeth a roddir gennych wrth wneud cais yn gwbl gyfrinachol a dim ond Cyngor Caerdydd a fydd yn cael ei defnyddio i asesu eich cymhwysedd ar gyfer Cynllun Cartrefi Cyntaf Caerdydd.<\/li>\n<\/ol>\n<p><strong>EIDDO CYMDEITHASAU TAI YN UNIG<\/strong><\/p>\n<ol start=\"35\">\n<li>Os yw ymgeiswyr yn gwneud cais am eiddo lle mae Cymdeithas Dai yn dal y gyfran ecwiti, byddant yn cael gwybod am hyn. Bydd y Gymdeithas Dai yn rheoli\u2019r cais a&#8217;r pryniant (yn achos enwebiad llwyddiannus).<\/li>\n<li>Mae rhai eiddo lle bydd Cymdeithas Dai yn dal y gyfran ecwiti. O bryd i&#8217;w gilydd mae gan yr eiddo hyn reolau ychydig yn wahanol, lle bydd rhai yn caniat\u00e1u i ymgeiswyr brynu&#8217;r gyfran ecwiti gan wneud taliadau ar gamau ac ni fydd eraill yn caniat\u00e1u prynu cyfran ecwiti.<\/li>\n<li>Bydd ymgeiswyr yn cael gwybod am unrhyw wahaniaethau penodol yn y deunydd marchnata ar gyfer yr eiddo.<\/li>\n<\/ol>\n<p>[\/vc_column_text][\/vc_tta_section][vc_tta_section title=&#8221;Ein Polisi Enwebu a&#8217;n Meini Prawf Cymhwysedd&#8221; tab_id=&#8221;nomination&#8221;][vc_column_text css=&#8221;&#8221;]Er bod Cyngor Caerdydd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau tai i&#8217;w drigolion, yn gyffredinol, mae mwy o bobl yn chwilio am eiddo nag sydd ar gael a\/neu sy&#8217;n addas ar gyfer eu hanghenion.<\/p>\n<p>Gallai Cartrefi Cyntaf Caerdydd gynnig dewis tai arall i breswylwyr.\u00a0 Mae&#8217;r cynllun ar gael i brynwyr tro cyntaf sy&#8217;n byw a \/ neu&#8217;n gweithio yng Nghaerdydd ac mae\u2019n rhoi cyfle i bobl gymryd y camau cyntaf ar yr ysgol eiddo.\u00a0 <strong>Nid yw<\/strong> wedi&#8217;i anelu at bobl sy&#8217;n gallu fforddio prynu eiddo addas ar y farchnad agored heb gymorth, neu&#8217;r rhai sydd wedi bod yn berchen ar gartref o&#8217;r blaen ond sy&#8217;n dymuno symud i ardal wahanol.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<h3>Pwy sy&#8217;n gymwys ar gyfer y cynllun?<\/h3>\n<p>Mae <strong>rhaid i\u2019r <\/strong>rhai sy&#8217;n gymwys ar gyfer Cynllun Cartrefi Cyntaf Caerdydd Cyngor Caerdydd fod:<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<ul>\n<li>Dros 18 oed;<\/li>\n<li>Yn ddeiliad pasbort cyfredol neu fod ganddynt \u2018ganiat\u00e2d amhenodol i aros\u2019 wedi\u2019i stampio yn eu pasbort<\/li>\n<li>Yn brynwr tro cyntaf<\/li>\n<li>Yn brynwr tro cyntaf &#8216; yn eich hawl eich hun&#8217;.\u00a0 (Byddai\u2019r bobl sy&#8217;n perthyn i&#8217;r categori hwn yn ymgeiswyr sydd wedi bod yn berchen ar eiddo ar y cyd ac o ganlyniad i berthynas yn chwalu, nid ydynt yn berchen ar eiddo mwyach)<\/li>\n<li>Yn gallu bodloni ymrwymiad ariannol hirdymor perchentyaeth<\/li>\n<\/ul>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Yn ogystal \u00e2&#8217;r uchod, i fod yn gwbl gymwys, <strong><u>rhaid<\/u><\/strong> i ymgeiswyr naill ai fod yn \u2013<\/p>\n<ul>\n<li>Byw a \/ neu yn gweithio yng Nghaerdydd ers y 6 mis diwethaf<\/li>\n<li>Gweithiwr allweddol yn symud i Gaerdydd am swydd *<\/li>\n<li>Gadael y Lluoedd Arfog (*rhaid i ymgeiswyr fod wedi byw yng Nghaerdydd am o leiaf chwe mis yn syth cyn ymuno \u00e2&#8217;r Lluoedd Arfog)<\/li>\n<li>Symud i Gaerdydd am resymau personol neu broffesiynol <u>ac<\/u> \u00e2 chysylltiad lleol sefydledig \u00e2 Chaerdydd.<\/li>\n<\/ul>\n<p><em>* ystyrir mai gweithwyr allweddol yw&#8217;r rhai sy&#8217;n gweithio ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Addysg a Gofal Plant, Diogelwch y Cyhoedd a Diogelwch Cenedlaethol a Bwyd a nwyddau hanfodol angenrheidiol eraill. Gall y gweithwyr allweddol a ystyrir newid yn unol \u00e2 chanllawiau&#8217;r llywodraeth <\/em><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Mae&#8217;r rhai nad ydynt yn gymwys ar gyfer y cynllun yn cynnwys:<\/p>\n<ul>\n<li>Pobl nad ydynt yn byw nac yn gweithio yng Nghaerdydd neu sydd \u00e2 chysylltiad lleol sefydledig \u00e2 Chaerdydd<\/li>\n<li>Pobl sydd \u00e2 buddiant ariannol mewn eiddo ar hyn o bryd<\/li>\n<li>Pobl sydd wedi bod \u00e2 buddiant ariannol mewn eiddo fel unig berchennog o&#8217;r blaen<\/li>\n<li>Pobl sydd wedi manteisio ar fenter perchentyaeth cost isel neu berchentyaeth \u00e2 chymorth yn y gorffennol fel unig berchennog.<\/li>\n<\/ul>\n<p><strong>Os nad ydych yn bodloni&#8217;r meini prawf i fod yn gymwys ar gyfer y cynllun ond bod amgylchiadau eithriadol o ran eich sefyllfa o ran tai, cysylltwch \u00e2 ni i drafod ymhellach.<\/strong><\/p>\n<p><strong>\u00a0<\/strong><\/p>\n<h3>Cydymgeiswyr<\/h3>\n<p>Rhaid i gydymgeiswyr ar y cynllun fod yn ddau oedolyn sy&#8217;n gymwys ar gyfer y cynllun yn dilyn y meini prawf a nodwyd. <span style=\"text-decoration: line-through;\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p>Rydym yn ystyried cydymgeiswyr yn:<\/p>\n<ul>\n<li>Bobl dros 18 oed<\/li>\n<li>Rhaid i&#8217;r ddau ymgeisydd fod ar y cais;<\/li>\n<li>Rhaid i&#8217;r ddau ymgeisydd fod ar y morgais;<\/li>\n<li>Rhaid i&#8217;r ddau feddiannu&#8217;r eiddo a brynir drwy&#8217;r cynllun fel eu hunig gartref neu eu prif gartref;<\/li>\n<\/ul>\n<p>Ni dderbynnir cais ar y cyd os bydd un o&#8217;r ymgeiswyr yn anghymwys ar gyfer y cynllun.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<h3><strong>Y Broses Enwebu<\/strong><\/h3>\n<p>Ar hyn o bryd mae mwy o bobl nag o eiddo ar gael i&#8217;w prynu drwy&#8217;r cynllun. Mae&#8217;r broses enwebu ganlynol ar gyfer DATBLYGIADAU NEWYDD ac EIDDO A AILWERTHIR yn galluogi&#8217;r Cyngor i enwebu ymgeiswyr mewn ffordd deg a thryloyw ac i baru eiddo a&#8217;r ymgeisydd\/ymgeiswyr mwyaf addas.<\/p>\n<p>Bydd pob eiddo&#8217;n cael ei hysbysebu am gyfnod penodol.\u00a0 I&#8217;w ystyried ar gyfer eiddo, rhaid i ymgeiswyr gyflwyno ffurflen gais wedi&#8217;i chwblhau&#8217;n llawn ac wedi&#8217;i llofnodi, ynghyd \u00e2&#8217;r holl dystiolaeth ofynnol, gan gynnwys tystysgrif morgais ddilys gan frocer morgais ag enw da, banc neu gymdeithas adeiladu a thystiolaeth o flaendal o 5% ar adeg y cais.<\/p>\n<p>Bydd eiddo&#8217;n cael ei enwebu&#8217;n bennaf mewn trefn ymgeisio \u2013 gallai hyn fod cyn diwedd y cyfnod hysbysebu.<\/p>\n<p>Fodd bynnag, ar gyfer tai teuluol (eiddo tair neu bedair ystafell wely), bydd ceisiadau a dderbynnir o fewn y 4 wythnos gyntaf y caiff yr eiddo ei hysbysebu yn cael eu blaenoriaethu ar gyfer teuluoedd o faint priodol i&#8217;r cartref. Fodd bynnag, rydym yn annog pob ymgeisydd i wneud cais mor gynnar \u00e2 phosibl yn y broses.<\/p>\n<p>Yn ogystal, gellir hysbysebu rhai datblygiadau ar gyfer grwpiau penodol fel gweithwyr allweddol. Bydd unrhyw ofynion penodol yn cael eu gwneud yn glir yn y manylion marchnata.<\/p>\n<p><strong>\u00a0<\/strong><\/p>\n<h3><strong>Tystiolaeth<\/strong><\/h3>\n<p>Rhaid i ymgeiswyr ddarparu&#8217;r dystiolaeth ganlynol &#8211;<\/p>\n<ul>\n<li>Pasbort neu Drwydded Yrru a dogfen CiAA, os yw&#8217;n berthnasol<\/li>\n<li>Cyfeiriad Cyfredol &#8211; cytundeb tenantiaeth neu lythyr gan rieni\/landlord (os nad mewn llety rhent preifat), ynghyd \u00e2 bil cyfleustodau neu gyfriflen banc<\/li>\n<li>Cyfeiriadau Blaenorol (3 blynedd diwethaf) &#8211; fel y rhai a restrir uchod<\/li>\n<li>Y 3 slip cyflog diwethaf ar gyfer prif gyflogwr<\/li>\n<li>Geirda gan gyflogwr yn nodi cyflog blynyddol a dyddiadau cyflogaeth<\/li>\n<li>Tystysgrif Morgais mewn Egwyddor ddilys (a elwir hefyd yn Penderfyniad neu Gytundeb mewn Egwyddor).\u00a0 RHAID i&#8217;r swm a ddyfynnir ar y dystysgrif, ynghyd ag arbedion ar gyfer blaendal a ddangosir, dalu&#8217;r pris prynu<\/li>\n<li>Os ydych yn symud n i Gaerdydd am resymau personol neu broffesiynol, rhaid i ymgeiswyr ddarparu prawf o gysylltiad lleol, megis adroddiad ysgol, neu fil cyfleustodau ar gyfer aelod o&#8217;r teulu sy&#8217;n byw yn yr ardal leol<\/li>\n<li>Gweithwyr allweddol yn unig \u2013 prawf bod ymgeisydd yn symud yn i Gaerdydd ar gyfer swydd newydd, fel contract neu lythyr cyflogaeth gan gyflogwr newydd.<\/li>\n<li>Tystiolaeth o flaendal o 5% o leiaf o&#8217;r pris prynu a hysbysebwyd (nid Gwerth y Farchnad)<\/li>\n<\/ul>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<h3><strong>Prif Ystyriaethau<\/strong><\/h3>\n<p>Bydd y canlynol yn cael ei ystyried wrth asesu cais &#8211;<\/p>\n<ul>\n<li>Dylai fod gan bob oedolyn neu gwpl ei ystafell ei hun<\/li>\n<li>Yn ddelfrydol, mae pob plentyn <em>(a ystyrir o dan 16 oed) <\/em>fod ag ystafell wely ar wah\u00e2n ond lle nad yw hyn yn bosibl, byddem ond yn disgwyl i blant o&#8217;r un rhyw rannu ystafell wely<\/li>\n<li>Ni ddylai plant o&#8217;r rhyw arall rannu ystafell lle mae un plentyn dros naw oed<\/li>\n<li>Os nad yw&#8217;n bosibl i blentyn gael ei ystafell wely ei hun yna ni ddylai mwy na dau blentyn rannu ystafell wely<\/li>\n<li>Gellir cynnal asesiad ariannol i sicrhau fforddiadwyedd os bydd \u00a0 Ystyrir bod fforddiadwyedd yn ddim mwy na 40% o&#8217;r incwm misol i&#8217;w wario ar daliad morgais misol<\/li>\n<li>Gellir gofyn am dystiolaeth bellach a gellir cynnal gwiriadau gan gynnwys y gofrestrfa tir ar gyfer perchentyaeth flaenorol \/gyfredol yn \u00f4l yr angen<\/li>\n<li>Bydd ymgeiswyr yn cael blaenoriaeth lle mae dewis tai yn bodloni maint aelwydydd\/cyfansoddiad teuluol<\/li>\n<li>Yn y rhan fwyaf o achosion, dim ond i eiddo lle mae uchafswm o un ystafell wely &#8216;sb\u00e2r&#8217; ychwanegol o&#8217;i gymharu \u00e2 maint aelwydydd y caiff aelwydydd eu henwebu<\/li>\n<li>Pobl y byddai eu tystysgrif forgais ar y cyd \u00e2\u2019r blaendal\/cynilion sydd ar gael yn eu galluogi i brynu\u2019r eiddo neu un tebyg am werth llawn y farchnad.<\/li>\n<\/ul>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<h3><strong>Y Weithdrefn Apelio<\/strong><\/h3>\n<p>Os yw ymgeisydd yn anhapus gyda phenderfyniad y Cyngor, mae ganddo&#8217;r hawl i apelio.\u00a0 Rhaid i apeliadau fod yn ysgrifenedig drwy lythyr neu e-bost at y T\u00eem Datblygu Tai yn y cyfeiriad canlynol o fewn 14 diwrnod i&#8217;r llythyr penderfyniad:<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Datblygu Adfywoi<\/p>\n<p>Neuadd y Sir,<\/p>\n<p>Glanfa&#8217;r Iwerydd<\/p>\n<p>Caerdydd<\/p>\n<p>CF10 4UW<\/p>\n<p><a href=\"mailto:cartreficyntafcaerdydd@caerdydd.gov.uk\">cartreficyntafcaerdydd@caerdydd.gov.uk<\/a><\/p>\n<p>Mae gan Reolwr priodol 15 diwrnod gwaith ar \u00f4l derbyn y cais i adolygu&#8217;r penderfyniad gwreiddiol ac ymateb.\u00a0 Yn ystod y cyfnod hwn, gall y Rheolwr ofyn am wybodaeth ychwanegol gan yr ymgeisydd a&#8217;r Swyddog Perchentyaeth.\u00a0 Cyfarwyddwr Corfforaethol Pobl a Chymunedau fydd yn gyfrifol am y penderfyniad terfynol a chaiff ymgeiswyr eu hysbysu&#8217;n ysgrifenedig.[\/vc_column_text][\/vc_tta_section][vc_tta_section title=&#8221;Gwybodaeth i berchnogion Cartrefi Cyntaf Caerdydd presennol&#8221; tab_id=&#8221;existing&#8221;][vc_column_text]Os oeddech wedi prynu eich eiddo drwy Cartrefi Cyntaf Caerdydd a nawr eisiau naill ai werthu neu brynu&#8217;r gyfran ecwiti sy&#8217;n weddill, bydd angen i chi gysylltu \u00e2 ni yn gyntaf fel y gallwn roi gwybod i chi beth sydd angen i chi ei wneud.<\/p>\n<p>Os ydych am werthu eich eiddo, byddwn yn ei farchnata drwy ein cynllun ac os na allwn ddod o hyd i brynwr ar gyfer eich eiddo oddi ar ein rhestr aros o fewn cyfnod penodol, yna cewch werthu&#8217;ch eiddo ar y farchnad agored ac ad-dalu cyfran y cyngor neu\u2019r gymdeithas dai o&#8217;r pris prynu.\u00a0 Am ragor o wybodaeth am hyn, gallwch gyfeirio at Reolau a Meini Prawf ein Cynllun.<\/p>\n<p>Ar \u00f4l 3 blynedd o berchnogaeth, mae gan berchnogion ddewis i brynu cyfran ecwiti\u2019r cyngor neu\u2019r gymdeithas dai yn unol \u00e2 gwerth y farchnad bresennol.\u00a0 Am ragor o wybodaeth am hyn, gallwch hefyd gyfeirio at Reolau a Meini Prawf ein Cynllun.<\/p>\n<p><a href=\"\/cy\/cysylltu-a-ni\/\">Cysylltwch \u00e2 ni os hoffech chi ddechrau&#8217;r broses Ailwerthu neu Bryniant Ecwiti.<\/a>[\/vc_column_text][\/vc_tta_section][vc_tta_section title=&#8221;Polisi Preifatrwydd Cynllun Cartrefi Cyntaf Caerdydd (Awst 2021)&#8221; tab_id=&#8221;1651567166895-e4ae123e-71ab&#8221;][vc_column_text css=&#8221;&#8221;]<strong>Ein Manylion Cyswllt<\/strong><\/p>\n<p>Enw: Cynllun Cartrefi Cyntaf Caerdydd<\/p>\n<p>Cyfeiriad: Ystafell 348, Neuadd y Sir, Glanfa\u2019r Iwerydd, Caerdydd, CF10 4UW.<\/p>\n<p>Rhif Ff\u00f4n: 07866 370 394<\/p>\n<p>E-bost: <a href=\"mailto:CartrefiCyntafCaerdydd@caerdydd.gov.uk\">cartreficyntafcaerdydd@caerdydd.gov.uk<\/a><\/p>\n<p>Gwefan:\u00a0<a href=\"https:\/\/www.devandregencardiff.co.uk\/cy\/tai\/cartrefi-cyntaf-caerdydd\/\">https:\/\/www.devandregencardiff.co.uk\/cy\/tai\/cartrefi-cyntaf-caerdydd\/<\/a><\/p>\n<p>Mae eich preifatrwydd yn bwysig i ni. Mae\u2019r hysbysiad gwybodaeth hwn yn esbonio pa ddata personol a gasglwn gennych chi a sut rydym yn ei ddefnyddio.\u00a0 Darllenwch y wybodaeth isod ac, os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch \u00e2 ni.<\/p>\n<p><strong>Pam ydyn ni\u2019n prosesu eich gwybodaeth bersonol?<\/strong><\/p>\n<p>Rydym yn prosesu eich gwybodaeth bersonol, gan gynnwys unrhyw gategor\u00efau arbennig o wybodaeth bersonol, mewn cysylltiad \u00e2 hyrwyddo datblygiadau newydd yn \u00f4l cais chi, prynu eich cartref neu d\u00e2l cyfreithiol.<\/p>\n<p>Byddai hyn yn cynnwys delio ag unrhyw gyfreithwyr, cynghorwyr ariannol, cyflogwyr, syrfewyr prisio a chontractwyr, ar faterion fel prynu cartref, ail-forgeisio ceisiadau, a phrynu ecwiti.\u00a0 Rydym yn prosesu\u2019r wybodaeth hon naill ai oherwydd ei bod yn angenrheidiol i ni wneud hynny er mwyn rheoli eich gwerthiant neu\u2019ch pryniant, neu oherwydd bod cyfreithiau sy\u2019n caniat\u00e1u i ni, neu sy\u2019n ei gwneud yn ofynnol i ni, ei phrosesu.\u00a0 Os na wnaethoch roi\u2019r wybodaeth hon i ni, ni fyddem yn gallu gweinyddu eich gwerthiant na darparu\u2019r gwasanaethau o dan eich t\u00e2l cyfreithiol.<\/p>\n<p><strong>Y math o wybodaeth bersonol a gasglwn<\/strong><\/p>\n<p>Ar hyn o bryd rydym yn casglu ac yn prosesu\u2019r wybodaeth bersonol ganlynol, ond nid yw\u2019n gyfyngedig i:<\/p>\n<ul>\n<li>Dynodwyr personol:\n<ul>\n<li>Teitl, enw cyntaf a chyfenw<\/li>\n<li>Manylion cyswllt gan gynnwys cyfeiriad post, cyfeiriad e-bost a rhifau ff\u00f4n<\/li>\n<li>Rhif yswiriant gwladol<\/li>\n<li>Dyddiad geni<\/li>\n<\/ul>\n<\/li>\n<li>Categori Arbennig:<\/li>\n<li>Rhywedd<\/li>\n<li>Cyfeiriadedd Rhywiol<\/li>\n<li>Crefydd\/cred<\/li>\n<li>Ethnigrwydd<\/li>\n<li>Statws priodasol<\/li>\n<li>Ieithoedd sy\u2019n cael eu siarad<\/li>\n<li>Anabledd<\/li>\n<li>Gwybodaeth arall:<\/li>\n<li>Dibynyddion<\/li>\n<li>Teitl y gwaith<\/li>\n<li>Incwm blynyddol<\/li>\n<li>Arbedion<\/li>\n<li>Dinasyddiaeth<\/li>\n<li>Data sy\u2019n benodol i\u2019r cynllun:<\/li>\n<li>Amgylchiadau tai presennol<\/li>\n<li>Gwybodaeth morgais<\/li>\n<li>Statws ariannol a manylion cyfrif banc<\/li>\n<\/ul>\n<p><strong>Sut rydym yn cael y wybodaeth bersonol, pam mae gennym, a sut rydym yn ei ddefnyddio<\/strong><\/p>\n<p>Mae\u2019r rhan fwyaf o\u2019r wybodaeth bersonol a gaiff ei phrosesu gennym yn cael ei rhoi\u2019n uniongyrchol gennych chi am un o\u2019r rhesymau canlynol:<\/p>\n<ul>\n<li>Sicrhau eich bod yn bodloni meini prawf y cynllun<\/li>\n<li>Fel y gallwn roi gwybod i chi ar ein rhestr aros pan fydd eiddo ar gael i\u2019w werthu drwy\u2019r cynllun.<\/li>\n<li>Os cewch eich enwebu\u2019n llwyddiannus i brynu eiddo, efallai y bydd angen rhoi eich manylion i ddatblygwr neu gymdeithas dai a\/neu D\u00eem Cyfreithiol y cyngor, fel y gallant ddechrau\u2019r achos gwerthu.<\/li>\n<li>Ac os byddwch yn prynu drwy\u2019r cynllun ac yn penderfynu gwerthu\u2019ch eiddo ymlaen yn ddiweddarach, bydd angen eich manylion cyswllt arnom fel y gellir eu trosglwyddo i\u2019n syrf\u00ebwr penodedig fel y gallant gynnal arolwg ar eich cartref.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Rydym hefyd yn derbyn gwybodaeth bersonol yn anuniongyrchol, o\u2019r ffynonellau canlynol yn yr amgylchiadau canlynol:<\/p>\n<ul>\n<li>Efallai ein bod wedi derbyn atgyfeiriad o ffurflen ar-lein drwy wefan y cyngor<\/li>\n<li>Efallai ein bod wedi derbyn atgyfeiriad gan adran arall yn dilyn ymholiad gennych<\/li>\n<li>Efallai ein bod wedi derbyn atgyfeiriad awtomataidd o wefannau \u2018chwaer\u2019<\/li>\n<li>Efallai bod eich manylion wedi\u2019u trosglwyddo i ni gan ddatblygwr<\/li>\n<\/ul>\n<p><strong>Sefydliadau y gallwn rannu eich data personol \u00e2 nhw<\/strong><\/p>\n<p>Efallai y byddwn yn rhannu\u2019r wybodaeth hon gydag adrannau eraill o fewn Cyngor Caerdydd, megis:<\/p>\n<ul>\n<li>T\u00eem Cyfreithiol Cyngor Caerdydd<\/li>\n<li>T\u00eem Cyllid Cyngor Caerdydd<\/li>\n<\/ul>\n<p>Efallai y byddwn hefyd yn rhannu eich gwybodaeth bersonol gydag asiantaethau allanol perthnasol, megis:<\/p>\n<ul>\n<li>Ein partneriaid Cymdeithasau Tai (*ar hyn o bryd Cymdeithas Tai Cymunedol Caerdydd, United Welsh a Chymdeithas Tai Wales and West)<\/li>\n<li>Contractwyr, datblygwyr preifat ac adeiladwyr.<\/li>\n<li>Syrfewyr a Phriswyr \u2013 os ydych yn prynu eiddo drwy\u2019r cynllun ac yn penderfynu gwerthu ymlaen yn ddiweddarach, byddwn yn trosglwyddo eich enw, cyfeiriad, rhif ff\u00f4n a chyfeiriad e-bost i\u2019n syrf\u00ebwr penodedig fel y gallant gynnal arolwg eiddo er mwyn sefydlu gwerth y farchnad.<\/li>\n<li>Eich cyfreithiwr<\/li>\n<li>Eich cyflogwr<\/li>\n<li>Eich cynghorydd ariannol<\/li>\n<li>Eich benthyciwr\/darparwr morgais<\/li>\n<\/ul>\n<p><strong>Y sail gyfreithlon rydym yn dibynnu arni i brosesu eich gwybodaeth bersonol<\/strong><\/p>\n<p>Yn gyffredinol, bydd y sail gyfreithlon y byddwn yn dibynnu arni ar gyfer prosesu eich gwybodaeth bersonol yn un o\u2019r canlynol:<\/p>\n<ul>\n<li>GDPR y DU Erthygl 6 (1) (a) Rydych wedi rhoi caniat\u00e2d i ni brosesu eich cais.<\/li>\n<li>GDPR y DU Erthygl 6 (1) (b) Rydych wedi ymrwymo i gontract gyda ni.<\/li>\n<li>GDPR y DU Erthygl 6 (1) (f) Mae gennym ddiddordeb dilys i brosesu eich data.<\/li>\n<\/ul>\n<p><strong>Sut rydym yn storio eich gwybodaeth bersonol<\/strong><\/p>\n<p>Caiff eich gwybodaeth ei storio\u2019n ddiogel ar gronfeydd data a ddiogelir gan gyfrinair ar rwydwaith diogel gyda mynediad yn cael ei ganiat\u00e1u i staff sy\u2019n gweithredu Cynllun Cartrefi Cyntaf Caerdydd yn unig.<\/p>\n<p>Byddwn yn cadw eich data personol am gyfnodau gwahanol o amser yn dibynnu ar yr hyn rydym yn ei ddefnyddio ar gyfer y canlynol \u2013<\/p>\n<p><strong>Cronfa Ddata Rhestrau Aros<\/strong>\u00a0\u2013 byddwch yn aros ar ein cronfa ddata oni bai eich bod yn dweud wrthym eich bod am gael eich symud neu eich bod yn prynu eiddo drwy\u2019r cynllun<\/p>\n<p><strong>Ceisiadau Llwyddiannus<\/strong>\u00a0\u2013 os byddwch yn cyflwyno cais am eiddo a\u2019ch bod yn llwyddiannus, yna bydd y ffurflen a\u2019r dystiolaeth a gyflwynwyd gennych yn cael eu cadw ar ein rhwydweithiau diogel am gyfnod o 7 mlynedd o ddyddiad cwblhau\u2019r gwerthiant.<\/p>\n<p><strong>Ceisiadau aflwyddiannus<\/strong>\u00a0\u2013 os byddwch yn cyflwyno cais am eiddo a\u2019ch bod yn aflwyddiannus, yna bydd y ffurflen a\u2019r dystiolaeth a gyflwynwyd gennych yn cael eu cadw ar ein rhwydweithiau diogel am gyfnod o 6 mis.<\/p>\n<p><strong>Atgyfeirio Enwebiad<\/strong>\u00a0\u2013 os cewch eich enwebu ar gyfer eiddo a\u2019ch bod yn llwyddiannus, yna bydd y ffurflen a\u2019r dystiolaeth a gyflwynwyd gennych yn cael eu cadw ar ein rhwydweithiau diogel am gyfnod o 7 mlynedd o ddyddiad cwblhau\u2019r gwerthiant; os cewch eich enwebu ar gyfer eiddo a\u2019ch bod yn aflwyddiannus, yna bydd y ffurflen a\u2019r dystiolaeth a gyflwynwyd gennych yn cael eu cadw ar ein rhwydweithiau diogel am gyfnod o 6 mis o\u2019r dyddiad cyflwyno.<\/p>\n<p><strong>Cronfa Ddata\u2019r Perchennog<\/strong>\u00a0\u2013 os ydych yn prynu eiddo drwy\u2019r cynllun, yna bydd eich enw, aelwyd deuluol, oedran, rhyw, manylion morgais a galwedigaeth yn cael eu hychwanegu at gronfa ddata ein perchennog, ynghyd \u00e2 manylion yr eiddo. Byddwch yn aros ar y gronfa ddata hon hyd nes y bydd yr eiddo\u2019n cael ei werthu.\u00a0 Unwaith y bydd eich eiddo wedi\u2019i werthu, dim ond manylion yr eiddo fydd yn aros ar y gronfa ddata, gan gynnwys cyfeiriad yr eiddo, y pris a dalwyd, rhaniad ecwiti a\u2019r dyddiadau y prynwyd a gwerthwyd yr eiddo.\u00a0 Bydd yr holl fanylion personol yn cael eu dileu.<\/p>\n<p><strong>Atgyfeiriad Prisio<\/strong>\u00a0\u2013 Bydd unrhyw negeseuon e-bost neu ddogfennau sy\u2019n cael eu storio\u2019n electronig sy\u2019n ymwneud \u00e2 hyn yn cael eu dileu o\u2019n systemau diogel ar \u00f4l cyfnod o flwyddyn.<\/p>\n<p><strong>Eich hawliau diogelu data<\/strong><\/p>\n<p>Dan gyfraith diogelu data, mae gennych hawliau sy\u2019n cynnwys:<\/p>\n<p><strong>Eich hawl mynediad<\/strong>\u00a0\u2013 Mae gennych hawl i ofyn i ni am gop\u00efau o\u2019ch gwybodaeth bersonol.<\/p>\n<p><strong>Eich hawl i gywiro<\/strong>\u00a0\u2013 Mae gennych hawl i ofyn i ni gywiro gwybodaeth bersonol sy\u2019n anghywir yn eich barn chi. Mae gennych hefyd hawl i ofyn i ni gwblhau gwybodaeth sy\u2019n anghyflawn yn eich barn chi.<\/p>\n<p><strong>Eich hawl i ddileu<\/strong>\u00a0\u2013 Mae gennych hawl i ofyn i ni ddileu eich gwybodaeth bersonol dan rai amgylchiadau.<\/p>\n<p><strong>Eich hawl i gyfyngu ar brosesu<\/strong>\u00a0\u2013 Dan rai amgylchiadau mae gennych hawl i ofyn i ni gyfyngu ar brosesu eich gwybodaeth bersonol.<\/p>\n<p><strong>Eich hawl i wrthwynebu prosesu<\/strong>\u00a0\u2013 Mae gennych hawl i wrthwynebu prosesu eich data personol dan rai amgylchiadau.<\/p>\n<p><strong>Eich hawl i gludadwyedd data<\/strong>\u00a0\u2013 Mae gennych hawl i ofyn i ni drosglwyddo\u2019r wybodaeth bersonol a roesoch i ni i sefydliad arall, neu i chi, dan rai amgylchiadau.<\/p>\n<p>Nid oes angen i chi dalu unrhyw d\u00e2l am arfer eich hawliau.\u00a0 Os gwnewch gais, bydd gennym un mis i ymateb i chi.<\/p>\n<p>Cysylltwch \u00e2 ni yn\u00a0<a href=\"mailto:CartrefiCyntafCaerdydd@caerdydd.gov.uk\">cartreficyntafcaerdydd@caerdydd.gov.uk<\/a>\u00a0os ydych yn dymuno gwneud cais.<\/p>\n<p><strong>Sut i gwyno<\/strong><\/p>\n<p>Gallwch gwyno i Swyddfa\u2019r Comisiynydd Gwybodaeth os ydych yn anhapus \u00e2\u2019r ffordd rydym wedi defnyddio eich data.<\/p>\n<p>Cyfeiriad Swyddfa\u2019r Comisiynydd Gwybodaeth:<\/p>\n<p>Swyddfa\u2019r Comisiynydd Gwybodaeth<br \/>\nWycliffe House<br \/>\nWater Lane<br \/>\nWilmslow<br \/>\nSwydd Gaer<br \/>\nSK9 5AF<\/p>\n<p>Rhif llinell gymorth:\u00a0 0303 123 1113<\/p>\n<p>Gwefan Swyddfa\u2019r Comisiynydd Gwybodaeth:\u00a0<a href=\"https:\/\/www.ico.org.uk\/\" rel=\"noopener\">https:\/\/www.ico.org.uk<\/a><\/p>\n<p><strong>Cysylltu \u00e2 Diogelu Data<\/strong><\/p>\n<p>Cysylltwch \u00e2\u2019r Swyddog Diogelu Data i gael mwy o wybodaeth.<\/p>\n<p>Swyddog Diogelu Data<br \/>\nT\u00eem Llywodraethu Gwybodaeth<br \/>\nNeuadd y Sir<br \/>\nGlanfa\u2019r Iwerydd<br \/>\nCaerdydd<br \/>\nCF10 4UW<\/p>\n<p><a href=\"mailto:diogeludata@caerdydd.gov.uk%20\">diogeludata@caerdydd.gov.uk<\/a>[\/vc_column_text][\/vc_tta_section][\/vc_tta_accordion][\/vc_column][\/vc_row][vc_row][vc_column][vc_column_text]<\/p>\n<h2>Gwelwch hefyd<\/h2>\n<p class=\"posth1\"><a href=\"\/cy\/tai\/cartrefi-cyntaf-caerdydd\/cynllun-perchentyaeth-rhannu-ecwiti\/\">Cynllun Perchentyaeth Rhannu Ecwiti<\/a><\/p>\n<p>[\/vc_column_text][\/vc_column][\/vc_row]<\/p>\n<\/div>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"[vc_row][vc_column][vc_single_image image=&#8221;1787&#8243; css_animation=&#8221;fadeIn&#8221;][\/vc_column][\/vc_row][vc_row css=&#8221;.vc_custom_1641895391010{padding-top: 35px !important;}&#8221;][vc_column][vc_tta_accordion color=&#8221;blue&#8221; spacing=&#8221;10&#8243; gap=&#8221;15&#8243; active_section=&#8221;12&#8243;][vc_tta_section title=&#8221;Rheolau a Meini Prawf ein Cynllun&#8221; tab_id=&#8221;scheme&#8221;][vc_column_text css=&#8221;&#8221;] Mae Cartrefi Cyntaf Caerdydd yn gyfle i brynu cyfrannau ecwiti, a weinyddir gan Gyngor Caerdydd. Mae&#8217;r cynllun ar gael i brynwyr tro cyntaf sy&#8217;n byw neu&#8217;n gweithio yng Nghaerdydd ers y chwe mis diwethaf o leiaf, i&#8230; <a class=\"view-article\" href=\"https:\/\/www.devandregencardiff.co.uk\/cy\/tai\/cartrefi-cyntaf-caerdydd\/telerau-ac-amodau\/\">View Article<\/a>","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"parent":1164,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"class_list":["post-1877","page","type-page","status-publish","hentry"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.devandregencardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1877","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.devandregencardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.devandregencardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.devandregencardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.devandregencardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1877"}],"version-history":[{"count":7,"href":"https:\/\/www.devandregencardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1877\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":9979,"href":"https:\/\/www.devandregencardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1877\/revisions\/9979"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.devandregencardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1164"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.devandregencardiff.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1877"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}