Mae’r prosiect wedi ei gwblhau.

New paving at park and spaces Kimberley Terrace

Mae gwelliannau Kimberley Terrace yn Llanisien nawr wedi eu cwblhau.

Mae’r gwelliannau’n cynnwys:

  • Palmentydd ac arwyneb ffordd newydd
  • Gofod newydd i gerddwyr
  • Potiau blodau a mainc
  • Standiau Beic
  • Lôn feicio
  • Rheiliau a wal newydd.

Mae gwaith mosaig wedi cael ei osod yn ddiweddar o fewn y palmant yn y brif ardal i gerddwyr.

Gweithiodd plant ysgol lleol gyda’r artist Maureen O’Kane i ddatblygu delweddau wedi eu seilio ar fywyd a hanes Llanisien.  Mae’r paneli’n darlunio hanes cynnar Kimberley Terrace fel llwybr porthmyn, nodweddion lleol megis eglwys Sant Isan a’r Church Inn, a’r gleiderau a hedfanwyd yn yr ardal yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Lleoliad