
Mae gwaith wedi dechrau ar ddatblygiad tai di-garbon arloesol yn Llanedern ar dir rhwng canolfan gymdogaeth Maelfa ac Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Teilo Sant.
Mae’r safle tai arfaethedig wedi’i leoli rhwng Coed y Capel a Round Wood a bydd yn ail-ddatblygu safle tir llwyd sy’n eiddo i’r cyngor. Mewn partneriaeth ag Ysgol Teilo Sant, bydd y cynigion hefyd yn cynnwys ailddatblygu’r cae chwaraeon mawr, a fydd yn cael ei ddisodli gan gae pob tywydd newydd mewn mannau eraill ar dir yr ysgol.
Bydd y neuadd chwaraeon gymunedol yn aros ar y safle ac yn cael ei hadnewyddu fel y gall barhau i gynnig cyfleusterau chwaraeon cymunedol
Gwybodaeth Prosiect
Bydd y cynllun yn uchelgeisiol ac o ansawdd uchel. Drwy ddylunio da rydym yn gobeithio darparu:
- Cymdogaeth ddeniadol a diogel ar gyfer byw a magu teulu.
- Cartrefi fforddiadwy newydd sy’n defnyddio ynni’n effeithlon, yn naturiol olau ac yn awyrog.
- Cartrefi wedi’u cynllunio o amgylch teuluoedd modern, gyda gerddi preifat, mannau gwefru cerbydau trydan a storio beiciau.
- Tirwedd gyda phlannu coed newydd a mannau gwyrdd diddorol, wedi’u cysylltu’n dda â’r coetiroedd cyfagos.
- Llwybrau cerdded a beicio newydd sy’n cysylltu’r safle â’r gymuned ehangach.
Bydd y datblygiad newydd yn darparu tua 50 o gartrefi teuluol fforddiadwy newydd, a fydd yn bennaf yn 2,3 a 4 ystafell wely. Byddant ar gael i’w rhentu i bobl ar restr aros Tŷ’r Cyngor a bydd rhai ar gael i’w prynu drwy ein cynllun perchnogaeth cost isel (Cartrefi Cyntaf Caerdydd).
Bydd y cynllun hefyd yn cynnwys datblygiad bach i oedolion sydd ag anawsterau dysgu. Bydd hyn yn cael ei staffio 24 awr y dydd er mwyn helpu preswylwyr i fyw’n annibynnol.
Bydd y cynllun yn cynnwys Systemau Draenio Dinesig Cynaliadwy. Mae cynlluniau Systemau Draenio Dinesig Cynaliadwy’n cynnwys gerddi glaw, cynllunio coed a seilwaith gwyrdd arall sy’n sicrhau bod dŵr glaw yn draenio’n naturiol i’r ddaear. Mae hyn yn helpu i fynd i’r afael ag effeithiau newid yn yr hinsawdd, yn darparu lleoedd gwyrddach a mwy deniadol i fyw ynddynt, ac yn cynyddu bioamrywiaeth leol.
Mae hwn yn brosiect uchelgeisiol sy’n anelu at fod y cynllun Tai Cyngor cyntaf yng Nghaerdydd i gyrraedd safonau Carbon Sero Net.
Mae hyn yn golygu y byddant yn effeithlon iawn o ran ynni, gyda lefelau uchel o insiwleiddio a sicrhau’r cynnydd mwyaf posibl mewn ynni haul (y gwres a ddarperir gan yr haul). Ar hyn o bryd, y ffordd orau o wneud hyn yw drwy ddarparu safonau dylunio ‘Passivhaus’.
Ochr yn ochr â hyn, darperir y cyflenwad ynni drwy ffynonellau adnewyddadwy. Ni chaiff boeleri nwy eu defnyddio. Yn hytrach, bydd pympiau gwres o’r ddaear neu’r aer a Phaneli Ynni Haul Ffotofoltäig yn cynhyrchu ynni i bweru’r cartrefi.
Fodd bynnag, mae carbon sero net yn golygu mwy na hynny. Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol, lle bo’n bosibl, defnyddio deunyddiau a dulliau adeiladu sy’n lleihau allyriadau carbon (a elwir yn Garbon a ymgorfforir). Lle nad yw hyn yn bosibl, bydd cynllun gwrthbwyso carbon yn cael ei roi ar waith i sicrhau allyriadau carbon ‘sero net’ cyffredinol drwy gydol oes yr adeilad.
Bydd y prosiect yn datblygu pedwar cyfnod allweddol (gweler isod). Ar hyn o bryd rydym ar Gam 2:
Cam 1 Gwaith arolygu a chasglu gwybodaeth: Mae’r cam hwn yn cynnwys cynnal yr holl waith arolygu angenrheidiol ar y safle, megis coed, ecoleg ac arolygon cyflwr safleoedd. Maent yn dweud popeth y mae angen i ni ei wybod am y safle i helpu i lunio dyluniad y datblygiad arfaethedig. Cynhaliwyd y rhain yn hydref 2021 ac maent bellach wedi’u cwblhau.
Cam 2 (ar y gweill – i’w gwblhau Gorffennaf 2022): Mae Cam 2 yn cynnwys defnyddio’r gwaith arolygu i nodi’r cyfleoedd a’r cyfyngiadau ar y safle a chynnig rhai syniadau cychwynnol a dyluniadau cynnar ar gyfer y datblygiad arfaethedig. Byddwn yn cael adborth ar y syniadau hyn oddi wrth amrywiaeth o arbenigwyr technegol a’r gymuned er mwyn gallu datblygu’r opsiwn a ffefrir ar gyfer y dyluniad. Byddwn yn anelu at gwblhau’r cam hwn ddiwedd mis Gorffennaf 2022.
Opsiwn a Ffefrir Cam 3 (Gorffennaf-Hydref): mae’r cam hwn yn cynnwys datblygu’r opsiwn a ffefrir yn fanylach, yn barod ar gyfer cais cynllunio. Bydd y cam hwn yn cynnwys Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio gyda’r gymuned a rhanddeiliaid eraill.
Cais Cynllunio Cam 4 (Hydref-Rhagfyr): Gobeithiwn allu cyflwyno cais cynllunio ar gyfer y datblygiad arfaethedig erbyn mis Hydref. Bydd y gymuned a rhanddeiliaid eraill yn cael cyfle i roi sylwadau pellach ar y cynigion ar hyn o bryd.
Rydym am ddeall eich barn am ble rydych yn byw, beth sy’n bwysig i chi fel preswylwyr a gwahodd eich barn ar ein syniadau ar gyfer y datblygiad. Rydym yn trefnu cyfres o arolygon barn, trafodaethau grŵp, gweithdai cymunedol a digwyddiadau cymunedol i rannu’r cynlluniau gyda chi wrth iddynt ddatblygu.
Bydd y digwyddiadau hyn yn cael eu cynnal ym mis Mai, Mehefin a Gorffennaf, fel bod y gymuned yn cael cyfle i ddylanwadu ar gynlluniau cyn penderfynu ar yr opsiwn a ffefrir. Byddwn yn hysbysebu’r dyddiadau allweddol ar ôl iddynt gael eu cytuno.
Gallwch gysylltu â ni am y datblygiad ar unrhyw adeg drwy’r blwch post datblygu tai DatblyguTai@caerdydd.gov.uk.
Cysylltwch â ni
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon am y prosiect hwn, cysylltwch â ni.