

Bydd Cyngor Caerdydd yn gwneud gwelliannau amgylcheddol i Siopau Rhodfa Countisbury fel rhan o Raglen y Cynllun Adnewyddu Cymdogaethau.
Mae’r gwelliannau’n cynnwys:
- Rhoi wyneb newydd ar y ffordd
- Cynllun parcio newydd (dim gostyngiad mewn mannau parcio)
- Glanhau ac atgyweirio’r palmant slabiau presennol
- Gwella croesfannau i gerddwyr
- Arwyneb newydd ar balmant
- Gwelliannau i’r briffordd o amgylch yr ardal golchi ceir
- Standiau beic ychwanegol, biniau a bolardiau newydd
- Plannu coed
- Camera teledu cylch cyfyng newydd
- Ychwanegu rhwystrau igam-ogamu ar ddau ben y lôn rhwng Rhodfa Countisbury a Crediton Road.
Penodwyd Horan Construction yn brif gontractwr a byddant yn gwneud y gwaith ar ran Cyngor Caerdydd, gan ddechrau ar 9 Chwefror. Disgwylir i’r prosiect gymryd tua 6 wythnos i’w gwblhau.
Bydd parcio cyfyngedig yn yr ardal pan fydd y gwaith hwn yn mynd rhagddo. Bydd mynediad ar gael i eiddo a siopau drwy gydol cyfnod y gwaith, a bydd ymdrech yn cael ei wneud i darfu cyn lleied â phosibl ar breswylwyr a pherchnogion siopau.
Gwybodaeth Prosiect
Ffordd ar Gau
Bydd y ffordd o flaen y siopau a’r tu ôl i’r lle golchi ceir ar gau ar gyfer gwaith ailwynebu bob nos rhwng 6pm a 12am o 16 tan 21 Mawrth 2026.
Cysylltwch â ni
Os oes gennych gwestiynau neu bryderon am y prosiect hwn, cysylltwch â ni.