Mae’r prosiect wedi ei gwblhau.
Mae gwelliannau Kimberley Terrace yn Llanisien nawr wedi eu cwblhau.
Mae’r gwelliannau’n cynnwys:
- Palmentydd ac arwyneb ffordd newydd
- Gofod newydd i gerddwyr
- Potiau blodau a mainc
- Standiau Beic
- Lôn feicio
- Rheiliau a wal newydd.
Mae gwaith mosaig wedi cael ei osod yn ddiweddar o fewn y palmant yn y brif ardal i gerddwyr.
Gweithiodd plant ysgol lleol gyda’r artist Maureen O’Kane i ddatblygu delweddau wedi eu seilio ar fywyd a hanes Llanisien. Mae’r paneli’n darlunio hanes cynnar Kimberley Terrace fel llwybr porthmyn, nodweddion lleol megis eglwys Sant Isan a’r Church Inn, a’r gleiderau a hedfanwyd yn yr ardal yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Lleoliad
Postiwyd ar Ionawr 17, 2022