Pris prynu

150,500 - 70% o’r Pris Prynu (100% Pris - £215,000)

Math yr Eiddo

Tŷ   2 Ystafell Wely

Dyddiad olaf i wneud cais:

5pm, 19.01.26

Wedi’i leoli’n gyfleus oddi ar Heol Casnewydd yn Llanrhymni, mae tŷ pen rhes dwy ystafell wely deniadol.

Wedi’i adeiladu yn 2019, mae’r eiddo yn agos at siopau gan gynnwys Rhodfa Countisbury, tafarndai a bwytai lleol, Canolfan Hamdden y Dwyrain ac mae ganddo gysylltiadau trafnidiaeth gwych i ganol y ddinas, yr M4 a thu hwnt.

Mae hefyd yn nalgylch nifer o ysgolion cynradd gan gynnwys Ysgol Gynradd Pen y Bryn ac Ysgol Bro Eirwg ac ysgolion uwchradd gan gynnwys Ysgol Uwchradd y Dwyrain ac Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern.

Mae’r tŷ mewn cyflwr da ac wedi’i addurno i safon da. Mae ganddo wydr dwbl drwyddi draw, lloriau o ansawdd da yn yr eiddo cyfan, boeler cyfunol gradd A, system gwres canolog nwy, synwyryddion mwg a charbon monocsid wedi’u cysylltu â’r prif gyflenwad a system taenellu, nifer o gypyrddau storio ynghyd â mynediad i’r atig drwy orddrws ac ysgol, toiled ar y llawr gwaelod, dwy ystafell wely ddwbl, ystafell ymolchi deuluol, parcio dynodedig a chegin / ardal fwyta cynllun agored yng nghefn yr eiddo gyda drysau sy’n agor allan ar ardd o faint da, gyda mynediad o’r cefn.

Gwybodaeth am yr Eiddo

Cyntedd – Ardal mynediad o faint da gyda llawr finyl effaith derw, carped a mynediad i’r toiled llawr gwaelod a’r cwpwrdd storio. Goleuadau allanol wrth y drws ffrynt.

Toiled (2.05m x 1.20m) – Toiled llawr gwaelod wrth y cyntedd gyda mynediad i gwpwrdd storio mawr.  Toiled gwyn a basn llaw golchi gyda llawr finyl llwyd tywyll.

Lolfa / Ardal fwyta (4.69m x 3.95m) – Lolfa eang i gefn yr eiddo gyda drysau Ffrengig yn agor allan i’r ardd a llawr finyl effaith derw.   Goleuadau nenfwd a pholion llenni i aros.

Cegin (2.57m x 3.19m) – Cegin fodern wedi’i ffitio’n llawn ym mlaen yr eiddo gyda chypyrddau cegin lliw hufen, arwynebau gwaith du a theils wal llwyd, popty trydan integredig, hob nwy gyda ffan echdynnu uwchben.  Llawr finyl effaith derw, ffenestr allanol a lle ar gyfer nwyddau gwyn.

Prif ystafell wely (4.69m x 3.79m ar y mwyaf) — ystafell wely ddwbl fawr i flaen yr eiddo gyda mynediad i gwpwrdd cysylltiedig a charpedi lliw niwtral. Polyn llenni i aros.

Ystafell wely 2 (4.69m x 3.00m ar y mwyaf) – Ystafell wely ddwbl o faint da yng nghefn yr eiddo gyda charped lliw niwtral, sy’n cael ei defnyddio fel ystafell astudio ar hyn o bryd.   Polyn llenni i aros.

Ystafell ymolchi (1.91m x 2.15m ar y mwyaf) — Swît gwyn gyda chawod uwchben wedi’i chysylltu â’r prif gyflenwad a phanel cawod gwydr, teils wal llwyd a llawr finyl llwyd. Drych a golau ar y wal i aros.

Atig – atig wedi ei bordio sy’n cynnig lle storio ychwanegol.    Gorddrws ag ysgol atig a gyrchir o ben y grisiau ar y llawr cyntaf.

Gardd Gefn — gardd gefn gyda phatio a lawnt, goleuadau allanol.   Sied i aros.

Parcio – 1 lle wedi ei neilltuo gyda lleoedd ychwanegol i ymwelwyr yn y cyffiniau.

Treth Gyngor — C

Deiliadaeth – RHYDD-DDALIAD

Sgôr TPY — B (Dilys tan 03 Ebrill 2029. Adroddiad llawn ar gael ar-lein drwy www.gov.uk)

Gwarant Cyngor Cenedlaethol Adeiladu Tai – yn ddilys tan fis Gorffennaf 2029.

Mae’r holl loriau a rheiliau llenni fel y gwelir ledled yr eiddo, a’r sied ardd i aros.

Mae’r Perchennog hefyd yn barod i dderbyn cynigion am nwyddau gwyn eraill.

Manylion Prynu

Gwerthir yr eiddo hwn fel ECWITI A RENNIR. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn prynu cyfran ecwiti o 70% dan Gynllun Cartrefi Cyntaf Caerdydd a bydd yn berchennog cofrestredig 100% ar yr eiddo ar gwblhau’r gwerthiant.

Bydd Cyngor Caerdydd yn cadw’r gyfran ecwiti o 30% sy’n weddill ar yr eiddo.

Nid oes rhent na llog yn daladwy ar y 30%.

Pris

70% o’r Pris Prynu – £150,500

100% Pris – £215,000

Floor Plan (Cymraeg)

Gofyn am wylio

Mae’r gwylio’n digwydd 02/12/25 (rhwng 5.00pm – 7.30pm).

Mount Pleasant Lane, Llanrhymni, Caerdydd, CF3 5AB.





    Lleoliad

    Ewch i Cartrefi Cyntaf Caerdydd - Telerau ac Amodau.

    Ymwadiad

    Mae’r manylion hyn am y gwerthiant at ddibenion canllawiau cyffredinol yn unig. Nid ydynt yn ffurfio unrhyw ran o gynnig neu gontract. Nid ydym wedi cynnal arolwg strwythurol ar yr eiddo nac unrhyw wasanaethau. Nid yw unrhyw o’r gosodiadau penodol y sonnir amdanynt yn y manylion hyn wedi eu profi. Rhoddir yr holl luniau, mesurau, cynlluniau llawr a phellteroedd y cyfeirir atynt fel canllaw yn unig ac ni ddylid dibynnu arnynt wrth brynu carpedi a gosodiadau eraill. Rhoddir manylion prydles, taliadau gwasanaeth a rhent tir (lle bo’n berthnasol) yn unig a dylid eu cadarnhau gyda thrawsgludwr trwyddedig cyn cyfnewid contractau.