Pris prynu
203,000- 70% o’r Pris Prynu (100% Pris - £290,000)
Math yr Eiddo
Tŷ 2 Ystafell Wely
Dyddiad olaf i wneud cais:
5pm, 22.01.26Wedi’i leoli yn y Mynydd Bychan, oddi ar Heol Allensbank, mae tŷ pen rhes dwy ystafell wely deniadol.
Wedi’i adeiladu yn 2022, mae’r eiddo wedi’i leoli’n gyfleus i Ysbyty’r Mynydd Bychan, yr A48 a’r A470 ac mae ganddo gysylltiadau trafnidiaeth ardderchog i ganol y ddinas, yr M4 a thu hwnt.
Mae hefyd yn nalgylch nifer o ysgolion cynradd gan gynnwys Ysgol Gynradd Fairoak ac Ysgol Mynydd Bychan ac ysgolion uwchradd gan gynnwys Ysgol Uwchradd Cathays ac Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf.
Mae’r eiddo ‘stablau’ dwy ystafell wely yn un ynni-isel, ag ardystiad Passivhaus, ac wedi’i adeiladu â ffrâm bren, gyda gorffeniad brics a rendr i’r waliau allanol. Mae’r eiddo wedi’i inswleiddio’n dda, mae ganddo ffenestri gwydr triphlyg perfformiad uchel a system awyru fecanyddol sy’n caniatáu adferiad gwres effeithlon iawn, sy’n golygu costau rhedeg ynni llawer is i berchnogion.
Mae’r tŷ mewn cyflwr da iawn ac wedi’i addurno i safon ardderchog. Mae hefyd yn elwa o loriau o safon ledled yr eiddo, system gwres canolog nwy boeler cyfun gradd A, synwyryddion tân a charbon monocsid wedi’u cysylltu â’r prif gyflenwad gyda system chwistrellu, lle storio mawr o dan y grisiau, toiled ar y llawr gwaelod, dwy ystafell wely dwbl gydag ensuites, lle parcio ar y plot y tu ôl i’r eiddo, ffin hen wal gerrig wedi’i hailadeiladu i flaen yr eiddo, ardal fyw / bwyta / cegin cynllun agored ar y llawr gwaelod gyda drws sy’n agor allan ar ardd o faint da gyda mynediad cefn a pharcio ar y plot.
Gwybodaeth am yr Eiddo
Cyntedd – Ardal mynediad o faint da gyda llawr finyl effaith derw a mynediad i’r toiled llawr gwaelod. Goleuadau synhwyro symud allanol wrth y drws ffrynt.
Toiled – toiled llawr gwaelod wrth y cyntedd gyda thoiled gwyn a basn golchi dwylo gyda theils llwyd a llawr finyl llwyd. Cabinet moddion ar y wal i aros.
Lolfa (5.395m x 3.035m) – ardal fyw cynllun agored o faint da gyda llawr finyl effaith derw a drws cefn yn agor allan ar yr ardd gefn. Bleindiau i aros.
Cegin / Ardal Fwyta (3.847m x 2.75m) – Cegin fodern wedi’i ffitio’n llawn gyda chypyrddau cegin gwyn, arwynebau gwaith du a theils wal llwyd, popty trydan integredig, hob trydan gyda ffan echdynnu uwchben. Llawr finyl effaith derw, mynediad i le storio o dan y grisiau, ffenestr allanol a drws cefn sy’n agor allan ar yr ardd gefn. Bleindiau i aros.
Prif ystafell wely gydag ensuite (5.395m x 3.198m) – Ystafell wely dwbl o faint da gyda charped llwyd. Cawod ensuite gyda theils wal llwyd, llawr finyl llwyd, rheilen tywelion twym ar y wal a ffenestr allanol. Bleindiau yn yr ystafell wely a’r drych colur ar y wal yn yr ensuite i aros.
Ystafell wely 2 gydag ensuite (5.395m x 3.482m) – Ystafell wely dwbl o faint da gyda charped llwyd. Ystafell ymolchi ensuite gyda bath a chawod trydan uwchben, rheilen gawod, teils wal llwyd, llawr finyl llwyd, rheilen tywelion twym ar y wal a ffenestr allanol. Bleindiau yn yr ystafell wely i aros.
Gardd gefn — Gardd furiog sy’n wynebu’r dwyrain wedi’i chynnal yn dda gydag ardal patio, ardal graean a glaswellt artiffisial. Goleuadau synhwyro symud allanol a mynediad cefn. Sied i aros.
Parcio – 1 lle wedi eu neilltuo i gefn yr eiddo, gyda lleoedd ychwanegol i ymwelwyr yn y cyffiniau.
Treth Gyngor – D (£1922 y flwyddyn 25/26)
Deiliadaeth – RHYDD-DDALIAD
Sgôr TPY — B (Dilys tan Medi 2032. Adroddiad llawn ar gael ar-lein drwy www.gov.uk)
Gwarant NHBC – yn ddilys hyd at fis Rhagfyr 2032.
Mae’r holl loriau a bleindiau fel y gwelir ledled yr eiddo, a’r sied ardd i aros.
Mae’r Perchennog hefyd yn barod i dderbyn cynigion ar yr eitemau canlynol –
- Bwrdd bwyta a chadeiriau yn y Lolfa
- Cypyrddau dillad yn y ddwy ystafell wely (IKEA)
- Peiriant golchi dillad yn y gegin
- Oergell/rhewgell yn y gegin
Manylion Prynu
Gwerthir yr eiddo hwn fel ECWITI A RENNIR. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn prynu cyfran ecwiti o 70% dan Gynllun Cartrefi Cyntaf Caerdydd a bydd yn berchennog cofrestredig 100% ar yr eiddo ar gwblhau’r gwerthiant.
Bydd Cyngor Caerdydd yn cadw’r gyfran ecwiti o 30% sy’n weddill ar yr eiddo.
Nid oes rhent na llog yn daladwy ar y 30%.
Price
70% o’r pris prynu – £203,000
100% Pris – £290,000
Gofyn am wylio
Mae’r gwylio’n digwydd 03/12/2025 (Rhwng 5.00pm – 7.30pm).
Aspect Place, Heol Allensbank, Y Mynydd Bychan, Caerdydd, CF14 3BD
















